Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Roeddwn yn hawlio budd-daliadau pan oeddwn wedi mynd i’r ysbyty. Beth fydd yn digwydd iddynt?

  1. Beth sydd yn digwydd i’m harian, cartref ac anifeiliaid anwes pan fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
  2. A ddylem ddweud wrth rywun fy mod wedi mynd i mewn o’r ysbyty?
  3. Roeddwn yn gweithio pan wnes i fynd i mewn i’r ysbyty. Beth sydd yn digwydd i’m cyflog?
  4. Roeddwn yn hawlio budd-daliadau pan oeddwn wedi mynd i’r ysbyty. Beth fydd yn digwydd iddynt?
  5. Rwyf yn hawlio Credyd Cynhwysol. Sut y bydd hyn yn cael ei effeithio?
  6. Sut wyf yn medru talu fy miliau os wyf yn yr ysbyty?
  7. Nid wyf yn medru fforddio fy nyledion, beth allaf wneud?
  8. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn medru gofalu am fy arian?
  9. Camau nesaf

Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau os ydych yn mynd i’r ysbyty gan fod rhai budd-daliadau yn dod i ben os ydych wedi bod yn yr ysbyty am gyfnod o amser.

Cyfnod 1 – o’r diwrnod 1af

Fel arfer, ni fydd hyn yn effeithio ar eich budd-daliadau yn ystod y 28 diwrnod cyntaf yn yr ysbyty, ond os oeddech yn yr ysbyty ar unrhyw adeg yn y 28 diwrnod cyn eich cyfnod presennol yn yr ysbyty, byddant yn cysylltu’r ddau gyfnod yma. Mae hyn yn golygu bod aros yn yr ysbyty mewn cyfnodau gwahanol yn cael eu cysylltu gyda’i gilydd ac yn cael eu hystyried fel un cyfnod, ac felly, byddwch yn ymwybodol o hyn.

Lwfans Cymorth Cyflogaeth

Tra’ch bod yn yr ysbyty, byddwch yn cwrdd â’r meini prawf iechyd sylfaenol ar gyfer hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os nad ydych yn hawlio’r budd-dal hwn ac os nad ydych yn derbyn tâl salwch, efallai eich bod am wneud cais.

Tra’ch bod yn yr ysbyty, byddwch yn cwrdd â’r meini prawf iechyd sylfaenol ar gyfer hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth. Os nad ydych yn hawlio’r budd-dal hwn ac os nad ydych yn derbyn tâl salwch, efallai eich bod am wneud cais.

Treth Cyngor

Os yw eich eiddo yn wag gan eich bod yn yr ysbyty, ni fydd rhaid i chi dalu treth cyngor, ac felly, sicrhewch eich bod yn rhoi gwybod i’ch cyngor lleol fel nad ydynt yn gofyn i chi dalu treth cyngor.

Cyfnod 2 – ar ôl 28 diwrnod

Bydd rhai budd-daliadau yn cael eu hatal unwaith eich bod wedi bod yn yr ysbyty am 28 diwrnod. Maent yn cynnwys:

Os yw’r budd-daliadau yma yn cael eu hatal, efallai y bydd eich Cymorth Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Cynhwysol neu Gredydau Pensiwn hefyd yn cael eu lleihau, oherwydd mae rhai elfennau premiwm yn ddibynnol ar eich cymhwysedd i dderbyn budd-daliadau anabledd.

Pan fydd hyn yn digwydd, dylech chi neu rywun yr ydych yn adnabod ddweud wrth eich awdurdod lleol gan y byddant yn medru ystyried a ddylech dderbyn Budd-dal Tai neu Gymorth Treth Cyngor.

Os yw eich gofalwr yn derbyn Lwfans Gofalwr neu’r elfen gofalwyr o Gredyd Cynhwysol, bydd eu cymhwysedd i dderbyn hyn yn dod i ben pan mae eich Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibynnol Personol neu’ch Lwfans Mynychu yn dod i ben.

Cyfnod 3 – ar ôl 52 wythnos

Mae rhai budd-daliadau yn dod i ben unwaith eich bod wedi bod yn yr ysbyty am 52 wythnos. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Budd-dal Tai
  • Cymorth ar gyfer Llog Morgais.

Mae hyn yn golygu eich bod yn gorfod talu’r rhent llawn neu’r taliadau morgais ar eich cartref, ac os nad ydych yn talu eich rhent neu’ch morgais, efallai y byddwch yn cael eich taflu allan o’r tŷ.

Os ydych yn treulio un noson yn eich cartref yn ystod y cyfnod o 52 wythnos, bydd y cyfnod 52 wythnos yn dechrau eto, ac felly, byddwch o bosib yn derbyn Budd-dal Tai am 52 wythnos arall.

Os ydych yn treulio un noson yn eich cartref yn ystod y cyfnod o 52 wythnos, bydd y cyfnod 52 wythnos yn dechrau eto, ac felly, byddwch o bosib yn derbyn Budd-dal Tai am 52 wythnos arall.

Os ydych yn byw gyda rhywun arall, efallai y byddant yn medru hawlio’r budd-daliadau yma os oes rhaid iddynt hwy dalu’r rhent neu’r taliadau morgais.

Os ydych yn poeni eich bod yn mynd i golli eich cartref, dylech siarad gyda’ch awdurdod lleol neu’ch cwmni morgais.                         

Premiwm

Os ydych yn hawlio budd-daliadau, byddwch yn derbyn arian ychwanegol weithiau os ydych yn cwrdd â meini prawf penodol – sef elfen premiwm. Mae’r Premiwm Anabledd Difrifol, er enghraifft, yn bremiwm y mae modd i chi hawlio ar eich Lwfans Byw i’r Anabl os ydych yn byw ar ben eich hun ac yn anabl.

Mae rhai elfennau premiwm dal yn cael eu talu am 52 wythnos os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty ond wedi hyn, byddant yn dod i ben. Mae hyn yn golygu bod eich budd-dal yn gostwng ar ôl i chi fod yn yr ysbyty am 52 wythnos, hyd yn oed os ydych dal yn gymwys i dderbyn budd-daliadau.  

Cyplau

Os oes partner gennych, byddwch yn cael eich trin fel cwpwl at ddibenion budd-daliadau am 52 wythnos. Wedi hyn, bydd y ddau ohonoch yn cael eich trin fel hawlwyr sengl ac efallai y bydd rhaid i chi wneud cais eto am fudd-daliadau.  

If you have a partner, you will still be treated as a couple for benefits purposes for 52 weeks. After this time, both of you will be treated as single claimants and you may need to reapply for benefits.

Gofynnwch am gyngor gan arbenigwr hawliau lles os yw hyn yn berthnasol i chi, a hynny er mwyn i chi ddeall beth sydd angen i chi wneud er mwyn cyflwyno cais newydd am fudd-daliadau. Mae eich swyddfa leol o Gyngor Ar Bopeth yn cynnig arbenigwr hawliau lles, neu os nad ydynt, maent yn medru rhoi gwybod i chi pa fudiadau eraill sydd yn medru helpu:

Cyngor Ar Bopeth

Ffôn (Lloegr): 08444 777720

Gwefan: www.citizensadvice.org.uk

Cymorth Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm a Chredyd Pensiwn

Os ydych yn derbyn Cymorth Incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Gredyd Pensiwn, maent dal yn cael eu talu hyd yn oes os ydych yn yr ysbyty am fwy na 52 wythnos. Fodd bynnag, wedi hyn, byddwch yn colli unrhyw bremiwm anabledd, sydd yn golygu y byddwch yn derbyn llai o arian.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth sydd yn digwydd i’m harian, cartref ac anifeiliaid anwes pan fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
  2. A ddylem ddweud wrth rywun fy mod wedi mynd i mewn o’r ysbyty?
  3. Roeddwn yn gweithio pan wnes i fynd i mewn i’r ysbyty. Beth sydd yn digwydd i’m cyflog?
  4. Roeddwn yn hawlio budd-daliadau pan oeddwn wedi mynd i’r ysbyty. Beth fydd yn digwydd iddynt?
  5. Rwyf yn hawlio Credyd Cynhwysol. Sut y bydd hyn yn cael ei effeithio?
  6. Sut wyf yn medru talu fy miliau os wyf yn yr ysbyty?
  7. Nid wyf yn medru fforddio fy nyledion, beth allaf wneud?
  8. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn medru gofalu am fy arian?
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau