Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Mae’r Gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn cymryd gofal o’ch preifatrwydd a’n diogelu unrhyw fanylion personol yr ydych yn darparu ar y wefan hon. Mae’r polisi yma yn esbonio sut ydym yn casglu ac yn defnyddio eich gwybodaeth.

Mae’r gwasanaeth yn anhysbys, ac felly, mae unrhyw ddata personol yr ydym yn dysgu amdanoch wedi ei gyfyngu.

Drwy ddefnyddio ein gwefan neu drwy ddarparu gwybodaeth bersonol i ni, rydych yn cytuno gyda’r Polisi hwn. Mae modd i ni ddiweddaru’r Polisi yma ar unrhyw adeg heb orfod eich hysbysu, ac felly, gwiriwch y polisi yn rheolaidd.

1. Pryd fydd angen i mi ddarparu fy manylion?

Nid oes rhaid i chi ddarparu data personol fel enw neu’ch cyfeiriad er mwyn defnyddio’r gwasanaeth. Rydym yn gofyn pa ranbarth o’r DU yr ydych yn byw ynddo fel ein bod yn medru rhoi gwybodaeth a chyngor sydd yn berthnasol i’r rhanbarth hwnnw, ond nid data personol yw hyn.

Mae eich cyfeiriad IP yn cael ei ystyried yn ddata personol (gan fod modd ei ddefnyddio er mwyn dod o hyd i’ch dyfais a’r lleoliad). Fodd bynnag, nid ydym yn storio’r wybodaeth hon neu’n ei rhannu gydag unrhyw unigolyn ar unrhyw bwynt. Byddwn ond yn sganio’r wybodaeth hon er mwyn diogelu yn erbyn cyfeiriadau IP adnabyddadwy, a hynny er mwyn diogelu’r safle rhag ymosodiadau maleisus.

Wrth ddelio gyda’ch gwybodaeth bersonol byddwn yn cydymffurfio drwy’r amser gyda Deddf Diogelu Data 1998, a’r hyn sydd yn ei ddisodli o fis Mai 2018 - sef y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol ac unrhyw ddeddfwriaeth berthnasol arall.

Gan nad ydym yn gofyn ichi am eich enw a’ch manylion cyswllt, ni fyddwn yn cysylltu gyda chi at ddibenion marchnata ar ôl i chi ddefnyddio’r wefan hon. Nid ydym hefyd yn medru rhannu eich manylion gydag unrhyw un o’n partneriaid neu unrhyw drydydd parti (er y byddwn yn rhannu neu’n datgelu eich cyfeiriad IP os oes angen i ni wneud hyn yn sgil unrhyw gyfraith neu ddyfarniad llys).

2. Pam ydych yn gofyn am wybodaeth ynglŷn â’m diddordeb mewn iechyd meddwl?

Os ydych yn dewis darparu adborth ar y wefan hon, byddwn yn gofyn i chi beth yw eich cysylltiad ag iechyd meddwl. Er enghraifft, efallai y byddwn yn gofyn i chi a oes afiechyd meddwl arnoch chi neu’ch ffrind neu berthynas neu a oes cysylltiad arall gennych gydag afiechyd meddwl. Rydym yn gofyn hyn er mwyn ceisio deall pwy sydd yn defnyddio’r wefan a sut y mae modd i ni ychwanegu neu newid unrhyw gynnwys sydd yn berthnasol i chi. Os nad ydych am i mi gael y wybodaeth hon, nid oes rhaid i chi ei rhannu. Nid ydym yn gofyn am unrhyw fanylion personol, megis eich enw a’ch manylion cyswllt.

3. Sut ydych yn cadw fy ngwybodaeth yn ddiogel?

Nid ydym yn storio unrhyw wybodaeth bersonol sydd yn helpu eich adnabod o fewn ein gwefan nag unrhyw le arall.

Nid ydym yn cynnig unrhyw sylwadau gan wefannau eraill, a pha ydych yn mynd ar wefannau eraill drwy ddolen ar ein gwefan ni (gan gynnwys cyfryngau cymdeithasol) dylech ddeall fod y gwefannau hynny yn gwbl annibynnol ac nid oes unrhyw reolaeth gennyf ynglŷn â’r modd y mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gasglu drwy’r gwefannau yma.

Efallai bod polisïau preifatrwydd eu hunain gan y gwefannau yma ac rydym yn eich annog i edrych ar y polisïau yna a chysylltu gyda pherchnogion y gwefannau er mwyn deall sut y mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei ddefnyddio.

4. Sut ydych yn defnyddio cwcis ar y wefan hon?

Rydym yn defnyddio cwcis ond mae’r rhain wedi eu cyfyngu yn sgil natur anhysbys y gwasanaeth. Rydym yn eu defnyddio er mwyn cofio pa genedl a ddewiswyd gennych pan wnaethoch ddechrau ddefnyddio’r wefan. Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei gweld ar y safle yn gywrain o ran cyfreithiau’r wlad yr ydych wedi dewis.

5. Pa mor hir y byddwch yn cadw fy nata?

Nid ydym yn cadw unrhyw ddata personol adnabyddadwy.

Mae’r wybodaeth yr ydym yn casglu o ran unrhyw adborth yn cael ei gadw am gyfnod rhesymol er mwyn ein caniatáu i werthuso a gwneud penderfyniadau am unrhyw newidiadau i’r wefan. Fodd bynnag, nid yw’r data yma yn ein galluogi i’ch adnabod.

6. Beth sydd yn digwydd os nad wyf am i chi ddefnyddio fy manylion mwyach?

Os oes rheswm arbennig gennych dros ofyn i ni ddileu eich cyfeiriad IP (os nad ydym eisoes wedi gwneud hyn) rhowch wybod i ni ac mi fyddwn yn gwneud hyn.


7. Defnyddio gwledydd y tu hwnt i’r Undeb Ewropeaidd (UE)

Nid yw ein system rheoli gwefan yn defnyddio gweinydd y tu hwnt i’r UE.

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau