Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi ei gyhoeddi'n gyntaf:
11/10/2023

prif awgrymiadau

Pam fod y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac arian

Drawing-up-a-budget

Yn y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian, rydym yn cydnabod yr angen i gefnogi pobl y mae problemau iechyd meddwl ac ariannol yn effeithio arnynt. Ac rydym yn benderfynol o gynnig cymorth a chefnogaeth i’r rhai mewn angen.

Beth yw'r cysylltiad rhwng afiechyd meddwl a phroblemau ariannol

Mae cyflwr iechyd meddwl yn effeithio ar un o bob pedwar o bobl, ac o’r rhain, bydd bron i bedair miliwn yn cael trafferthion ariannol. Yn ogystal, mae pedair miliwn arall o bobl mewn perygl o ddatblygu afiechyd meddwl o ganlyniad uniongyrchol i’w sefyllfa ariannol.

Gyda diffyg cefnogaeth, gall materion ariannol ynghyd â salwch meddwl greu cylch dieflig. Ar ei waethaf, gall hyn arwain at ddyledion cynyddol, problemau teuluol a digartrefedd.

Mental_Health_Money_Cycle

Un o’r prif bryderon i lawer o bobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd meddwl a phroblemau ariannol yw system budd-daliadau’r DU.

Mae llawer yn gweld y system budd-daliadau yn gymhleth ac yn straen emosiynol. Wrth gyfathrebu â phobl â chyflwr iechyd meddwl, mae’n amlwg na all y broses budd-daliadau asesu cymhlethdodau’r hyn y mae byw gyda chyflwr iechyd meddwl yn ei olygu.

Sut y gall y gwasanaeth Iechyd Meddwl a Chyngor Ariannol eich helpu

Yma yn y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian, mae ein gwefan wedi’i dylunio’n benodol i gynnig cyngor cryno a diduedd i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl ac ariannol.

Rydym yn darparu gwybodaeth a chymorth am ddim drwy ein cronfa wybodaeth hawdd ei defnyddio i unrhyw un y mae’r materion hyn yn effeithio arnynt, gan gynnwys gofalwyr, aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.

Mae’r wefan yn cynnig cyngor manwl ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys:

"Mae gennym hefyd dîm bach o arbenigwyr iechyd meddwl a chyngor ariannol ymroddedig sy'n cynnig cyngor un-i-un a gwaith achos dros y ffôn."

Gwasanaeth cynghor un-i-un

Mae gennym hefyd dîm bach o arbenigwyr cyngor iechyd meddwl ac arian ymroddedig sy'n cynnig cyngor un-i-un a gwaith achos dros y ffôn.

Mae ond modd defnyddio’r llinell gyngor drwy gael eich atgyfeirio yn unig gan ein helusen yng Nghymru:

  • Adferiad Recovery (Cymru): 01792 816600

Yn ogystal, mae yna 3 phartner atgyfeirio y gallwch gysylltu â nhw am gymorth a gallant hefyd eich cyfeirio at ein gwasanaeth cynghori os ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

  • Llinell Ddyled Genedlaethol: 0808 808 4000
  • StepChange: 0800 138 1111
  • Cynorthwyydd Arian: 0800 011 379

I gael rhagor o gymorth, edrychwch ar yr adran Cymorth a Chysylltiadau ar ein gwefan. Bydd hyn yn rhoi mynediad hawdd i chi at sefydliadau dibynadwy eraill sy'n gallu cynnig cyngor penodol yn ymwneud â naill ai iechyd meddwl neu faterion ariannol.

Prif awgrymiadau a chyngor

  1. A ddylech chi boeni am gynnydd mewn cyfraddau llog morgeisi?
  2. Beth yw gorbryder ariannol?
  3. Pam fod dyledion yn medru effeithio ar unrhyw un a sut y mae gwarth yn lywio ein perthynas ag arian
  4. Pam fod y gwasanaeth Cyngor Iechyd Meddwl ac Arian yn helpu pobl gyda phroblemau iechyd meddwl ac arian
  5. Tips ar gyfer rheoli eich arian a’ch iechyd meddwl yn 2023
  6. Gadewch i Ni Siarad am Iechyd Meddwl Myfyrwyr: Diwrnod Iechyd Meddwl Prifysgolion
  7. Beth i wneud os yw pryderon ariannol yn effeithio ar eich iechyd meddwl
  8. Rheoli eich arian ac iechyd meddwl ar Ddydd Gwener y Gwario a Dydd Llun Seiber
  9. FCA/AYA yn cyhoeddi rheolau newydd ar gynnyrch ‘prynu nawr a thalu wedyn’ a gorddrafftau

Other Top Tips & Advice

You may find this other advice useful.

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau