Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Cymorth Incwm

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf

Claiming income support

Beth yw Cymorth Incwm?

Mae Cymorth Incwm yn rhoi incwm byw sylfaenol i chi ac mae’n seiliedig ar brawf modd. Golyga hyn bod eich cynilion, incwm neu unrhyw incwm arall ar eich aelwyd yn effeithio ar y swm y byddwch yn derbyn ond nid yw’r budd-dal yn ddibynnol ar eich cyfraniadau Yswiriant Cenedlaethol.

Sut allaf hawlio Cymorth Incwm?

Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm os:

  • Rydych 18 mlwydd oed a’n hŷn ac yn iau na’r oedran pensiwn,
  • Rydych yn y DU,
  • Nai ydych yn derbyn incwm neu os yw’r incwm yn is na’r ‘swm cymwys’ (dyma’r swm o arian y mae’r gyfraith yn dweud sydd angen arnoch er mwyn ymdopi a byw),
  • Nid ydych mewn addysg llawn amser (oni bai eich bod yn gymwys fel myfyriwr anabl)
  • Rydych yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos a bod eich partner yn gweithio dim mwy na 24 awr yr wythnos,
  • Mae eich cynilion neu gyfalaf yn £16,000 neu’n llai,
  • Nid ydych yn hawlio Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) neu lwfans Cymorth a Chyflogaeth (ESA) a bod eich partner ymatal rhag hawlio lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm neu Lwfans Cymorth Cyflogaeth.
  • Nid oes rhaid i chi weithio am eich bod yn gofalu am rywun, neu
  • Rydych yn rhiant sengl sydd yn gofalu am blentyn o dan bum mlwydd oed,
  • Rydych yn gymwys i dderbyn Tâl Salwch Statudol, neu
  • Rydych yn feichiog ac yn methu chwilio am waith am eich bod yn feichiog.

 

Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm am resymau eraill ond mae’r rheolau’n gymhleth. Siaradwch gyda’r cynghorydd hawliau lles os ydych yn credu y dylech fod yn hawlio Cymorth Incwm yn hytrach na’r Lwfans Cymorth Cyflogaeth neu’r Lwfans Ceisio Gwaith.

 

Sut i hawlio

Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm drwy gysylltu gyda’r Ganolfan Byd Gwaith

Ffôn 0800 0556688

Efallai y bydd rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn hytrach na Chymorth Incwm, ac mae hyn yn dibynnu ar eich amgylchiadau a ble ydych yn byw.

 

A allaf weithio a hawlio Cymorth Incwm?

Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm os ydych yn gweithio llai na 16 awr y dydd a bod eich partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos.

Mae modd i chi hawlio Cymorth Incwm os ydych yn gweithio llai na 16 awr y dydd a bod eich partner yn gweithio llai na 24 awr yr wythnos.

A fydd fy Nghymorth Incwm yn dod i ben?

Byddwch yn medru hawlio Cymorth Incwm cyn hired â’ch bod yn cwrdd â’r amodau.

Efallai y bydd angen i chi hawlio budd-dal cymwys arall megis Lwfans Gofalwyr er mwyn derbyn Cymorth Incwm. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn atal eich Cymorth Incwm os ydynt yn atal y budd-dal cymwys – efallai y byddwch yn medru herio’r penderfyniad i atal eich budd-dal cymwys. Rhaid i chi hawlio Cymorth Incwm eto o fewn tri mis os ydy’r Adran Waith a Phensiynau yn rhoi’r budd-dal cymwys i chi eto. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn ôl-ddyddio eich arian Cymorth Incwm.

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau