Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Lwfans Ceisio Gwaith

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf

Claiming job seekers allowance with mental health problems

 

Os nad ydych yn gymwys, bydd rhaid ceisio hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ymwneud ag incwm. Mae’n ddibynnol ar brawf modd sydd yn golygu bod unrhyw incwm, cyfalaf neu gynilion sydd yn werth £6,000 neu fwy, yn effeithio ar y swm o fudd-dal yr ydych yn mynd i’w dderbyn.

Beth yw Lwfans Ceisio Gwaith?

Mae Lwfans Ceisio Gwaith yn fudd-dal y mae modd i chi hawlio os ydych yn ddi-waith neu’n gweithio llai na 16 o oriau'r wythnos neu os ydych ar gael ac yn chwilio am swydd llawn amser.  

Mae’r Lwfans Ceisio Gwaith yn medru bod yn seiliedig ar gyfraniadau neu’n ymwneud ag incwm. Byddwch yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau os ydych wedi talu digon o Yswiriant Cenedlaethol yn y ddwy flynedd dreth ddiwethaf ac mae modd hawlio hyn am hyd at chwe mis.

Os nad ydych yn gymwys, bydd rhaid ceisio hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ymwneud ag incwm. Mae’n ddibynnol ar brawf modd sydd yn golygu bod unrhyw incwm, cyfalaf neu gynilion sydd yn werth £6,000 neu fwy, yn effeithio ar y swm o fudd-dal yr ydych yn mynd i’w dderbyn. Ni fyddwch yn derbyn unrhyw fudd-dal os yw eich cyfalaf neu gynilion yn werth mwy na £16,000. Mae’r bobl sy’n byw ar eich aelwyd hefyd yn medru effeithio ar faint o fudd-dal yr ydych yn ei dderbyn. Mae hefyd yn werth nodi y byddwch yn derbyn help gyda ffioedd presgripsiwn os ydych yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith sydd yn ymwneud ag incwm

“Os nad ydych yn gymwys, bydd rhaid ceisio hawlio Lwfans Ceisio Gwaith yn ymwneud ag incwm. Mae’n ddibynnol ar brawf modd sydd yn golygu bod unrhyw incwm, cyfalaf neu gynilion sydd yn werth £6,000 neu fwy, yn effeithio ar y swm o fudd-dal yr ydych yn mynd i’w dderbyn.”

Beth yw ymrwymiad hawlydd?

Wrth wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith, rhaid i chi arwyddo ymrwymiad hawlydd. Mae hyn yn esbonio’r gweithgareddau sydd yn ymwneud â gwaith y mae’n rhaid i chi gwblhau er mwyn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith ac yn esbonio’r hyn a fydd yn digwydd os na fyddwch yn gwneud yr hyn yr ydych wedi ei gytuno.

Byddwch yn cael hyfforddwr gwaith yn y ganolfan waith a fydd yn gwneud yr ymroddiad hawlydd gyda chi mewn cyfarfod wyneb i wyneb – dylech ystyried sut y mae eich iechyd meddwl yn effeithio arnoch yn gweithio a sut y mae’n medru effeithio ar eich argaeledd i weithio a gallwch ofyn i addasu’r ymroddiad hawlydd i ddiwallu eich anghenion. Mae hyn yn medru cynnwys cyflog, oriau ac amser teithio ar yr amod eu bod yn rhesymol a dylech gynnwys unrhyw faterion yn eich ymroddiad hawlydd.

Bydd y Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i chi fynd i gyfarfod er mwy cofrestru bob pythefnos - dyma pryd y bydd rhaid i chi ddangos eich bod yn gwneud yr hyn yr ydych wedi ei gytuno i’w wneud.  

Gallwch siarad gyda’r Cynghorydd Cyflogaeth Anabledd yn eich Canolfan Byd Gwaith gan eu bod yn medru eich helpu gyda’ch cais a chwilio am swyddi.

 

A wyf yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith?

Rydych yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os:

 

  • Ydych yn hŷn nag 18 mlwydd oed ac yn iau na’r oedran pensiwn,
  • Ar gael i weithio’n llawn amser,
  • Yn chwilio am waith,
  • Nad ydych mewn addysg llawn amser,
  • Ydych yn cytuno gyda’r ymroddiad hawlydd, ac
  • Yn y DU.

Efallai bod rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol yn hytrach na Lwfans Ceisio Gwaith gan ddibynnu ar eich amgylchiadau a ble ydych yn byw. Mae mwy o wybodaeth ar wefan y Llywodraeth ynglŷn ag os ydych yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith neu os oes rhaid i chi hawlio Credyd Cynhwysol.

 

Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn eich trin fel unigolyn na sydd ar fael i weithio os ydych:

  • Yn derbyn lwfans mamolaeth neu gyflog mamolaeth statudol,
  • Ar gyfnod o dadolaeth, tadolaeth a rennir neu ar gyfnod mabwysiadu, neu
  • Yn garcharor neu wedi eich rhyddhau dros dro

 

A wyf yn medru gweithio a hawlio Lwfans Ceisio Gwaith?

Rydych yn medru hawlio Lwfans Ceisio Gwaith os ydych yn gweithio am lai na 16 awr yr wythnos a bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn tynnu unrhyw arian yr ydych yn ennill o’ch Lwfans Ceisio Gwaith - maent yn medru anwybyddu incwm hyd at £5. Golyga hyn na fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn tynnu hyd at £5 o’r hyn yr ydych yn ennill wrth geisio cyfrif faint sydd yn rhaid i chi dalu, ac weithiau, byddant yn anwybyddu hyd at £20 ond mae hyn yn ddibynnol ar y math o waith yr ydych yn ei wneud. Ar gyfer Lwfans Ceisio Gwaith sy’n ymwneud ag incwm, bydd y swm yr ydych yn derbyn hefyd yn cael ei effeithio os oes partner gennych a’u bod yn gweithio, a rhaid i chi fod yn chwilio ac ar gael i weithio’n llawn amser.  

 

A fydd fy Lwfans Ceisio Gwaith yn dod i ben?

Byddwch yn medru derbyn Lwfans Ceisio Gwaith sy’n seiliedig ar gyfraniadau am hyd at chwe mis ar yr amod eich bod yn cwrdd â’r meini prawf a byddwch yn medru hawlio’r Lwfans Ceisio Gwaith sy’n ymwneud ag incwm am ba bynnag hyd yr ydych yn gymwys i dderbyn Lwfans Ceisio Gwaith. Nid oes terfyn amser ar gyfer y Lwfans Ceisio Gwaith sy’ sy’n seiliedig ar incwm.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwirio’r hyn yr wyf yn gymwys i’w dderbyn?
  2. Credyd Cynhwysol
  3. Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  4. Lwfans Ceisio Gwaith
  5. Cymorth Incwm
  6. Budd-dal Analluogrwydd
  7. Lwfans Anabledd Difrifol
  8. Tâl Salwch Statudol
  9. Credydau Treth Gwaith
  10. Taliadau Annibynnol Personol
  11. Beth yw Budd-dal Tai?
  12. Cymorth gyda Llog Morgais
  13. Treth Cyngor: Esemptiadau a Chymorth i Dalu
  14. Cronfa Gymdeithasol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau