Sut wyf yn medru talu fy miliau os wyf yn yr ysbyty?
Rydych yn medru gofyn bod rhywun arall yn cael yr hawl i reoli’r arian yn eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i chi ofyn i’ch banc neu gymdeithas adeiladu am ‘fandad trydydd parti’, sydd yn ffurflen yr ydych chi a’r person yr ydych yn dymuno i reoli eich cyfrif yn ei lofnodi. Bydd angen i chi roi gwybod i’ch banc neu’ch cymdeithas adeiladu a bydd hawl gan eich ffrind neu berthynas i dynnu arian allan o’ch cyfrif ac yna talu biliau penodol ar eich rhan.
Rydych yn medru gofyn bod rhywun arall yn cael yr hawl i reoli’r arian yn eich cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu.
Os ydych yn defnyddio cerdyn cyfrif Swyddfa’r Post, mae modd i chi gael ail gerdyn ar gyfer y person sydd yn casglu eich budd-daliadau.
Mae rhai taliadau yr ydych yn gwneud bob mis yn fwy pwysig nag eraill ac mae’r taliadau blaenoriaeth yma yn cynnwys rhent, morgais, treth cyngor, nwy, trydan, trwydded teledu, dirprwyon llys ynadon a chytundebau prydles. Maent yn flaenoriaeth oherwydd os nad ydych yn eu talu, gallech golli rhywbeth pwysig e.e. os nad ydych yn talu eich rhent, gallech golli eich cartref.
Nid yw gwneud taliadau i gardiau credyd, benthyciadau anniogel, catalogau, gorddrafft a chardiau siopau, yn flaenoriaeth. Os nad ydych yn medru fforddio eu talu, bydd hyn yn effeithio ar hanes eich credyd ond ni fyddwch yn colli dim byd.
Mae’n bosib talu am y rhan fwyaf o nwyddau neu wasanaethau drwy ddebyd unionyrchol neu orchymyn sefydlog, ac mae arian yn mynd yn syth o’ch cyfrif i bwy bynnag sydd angen eu talu, a hynny ar yr un amser o’r wythnos neu'r mis. Os ydych yn mynd i mewn i’r ysbyty, bydd y taliadau yma yn cael eu gwneud yn awtomatig, ar yr amod bod digon o arian gennych yn eich cyfrif.
Mae’n bosib talu am y rhan fwyaf o nwyddau neu wasanaethau drwy ddebyd unionyrchol neu orchymyn sefydlog.
Os nad ydych yn medru fforddio'r biliau na sy’n flaenoriaeth, dylech chi neu berthynas i chi ysgrifennu at y cwmnïau ac esbonio pam. Rydych hefyd yn medru canslo unrhyw daliadau na sydd yn flaenoriaeth ac sydd i’w talu allan o’ch cyfrif.