Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

A ddylem ddweud wrth rywun fy mod wedi mynd i mewn o’r ysbyty?

  1. Beth sydd yn digwydd i’m harian, cartref ac anifeiliaid anwes pan fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
  2. A ddylem ddweud wrth rywun fy mod wedi mynd i mewn o’r ysbyty?
  3. Roeddwn yn gweithio pan wnes i fynd i mewn i’r ysbyty. Beth sydd yn digwydd i’m cyflog?
  4. Roeddwn yn hawlio budd-daliadau pan oeddwn wedi mynd i’r ysbyty. Beth fydd yn digwydd iddynt?
  5. Rwyf yn hawlio Credyd Cynhwysol. Sut y bydd hyn yn cael ei effeithio?
  6. Sut wyf yn medru talu fy miliau os wyf yn yr ysbyty?
  7. Nid wyf yn medru fforddio fy nyledion, beth allaf wneud?
  8. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn medru gofalu am fy arian?
  9. Camau nesaf

Yr Adran Waith a Phensiynau

Mae’n bwysig dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau os ydych yn mynd i’r ysbyty, ond os ydych yn rhy sâl i ddweud wrthynt, dylech ofyn i berthynas i wneud hyn ar eich rhan, neu ofalwr os oes un gennych.

Gallwch ofyn hefyd i weithiwr gofal iechyd proffesiynol megis nyrs, meddyg neu weithiwr cymdeithasol i wneud hyn i chi, ac mae wardiau gan rai ysbytai lle y mae cynghorwyr dyledion yn ymweld gyda’r cleifion a’n rhoi cyngor iddynt a’n sicrhau bod yr Adran Waith a Phensiynau eich bod wedi mynd i’r ysbyty.

Mae wardiau gan rai ysbytai lle y mae cynghorwyr dyledion yn ymweld gyda’r cleifion a’n rhoi cyngor iddynt a’n sicrhau bod yr Adran Waith a Phensiynau eich bod wedi mynd i’r ysbyty.

Rydych yn medru dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau dros y ffôn, ond mae’n well eich bod yn ysgrifennu atynt. Cadwch gopi o’r llythyr a sicrhewch eich bod yn derbyn tystysgrif yn cadarnhau eich bod wedi postio’r llythyr ac mae modd i chi ofyn am hyn o’r swyddfa bost yn rhad ac am ddim – rydych felly yn medru profi eich bod wedi dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau am unrhyw newid yn eich amgylchiadau. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn parhau i dalu eich budd-daliadau yn y ffordd arferol. Efallai y bydd hyn yn golygu eich bod yn derbyn arian nad ydych yn gymwys i’w dderbyn, ac os yw hyn yn digwydd, mae’n cael ei alw yn ‘ordaliad’.

Os ydych yn cael eich gordalu, mae’r Adran Waith a Phensiynau yn debygol o ofyn i chi ad-dalu’r arian. Os nad ydych yn ad-dalu hyn mewn cyfandaliad, byddant yn tynnu’r arian o’ch budd-daliadau a bydd hyn yn golygu eich bod yn derbyn llai o fudd-daliadau bob wythnos tra dal yn gorfod talu am gostau byw arferol megis bwyd, nwy, trydan a chostau teithio.

Bydd rhif eich swyddfa Adran Waith a Phensiynau lleol ar unrhyw ohebiaeth yr ydych yn derbyn. Rydych hefyd yn medru dod o hyd i’r manylion cyswllt yn y ffônlyfr lleol ac mae modd i chi chwilio ar-lein drwy osod eich cod post yn y wefan.

Awdurdod lleol

Os ydych yn hawlio Budd-daliadau Tai, rhaid i chi ddweud wrth eich awdurdod lleol eich bod wedi mynd i’r ysbyty. Bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei dalu am hyd at 52 wythnos tra’ch bod yn yr ysbyty ond mae dal angen rhoi gwybod i’r awdurdod lleol pan eich bod yn mynd i’r ysbyty er mwyn osgoi gordaliad.

Eich landlord

Os ydych yn rhentu o landlord preifat neu gymdeithas tai, dylech ddweud wrthynt fel arfer eich bod wedi mynd i’r ysbyty fel nad ydynt yn credu eich bod wedi gadael yn ddirybudd.

Dylech wirio eich cytundeb tenantiaeth hefyd gan ei fod yn medru cynnwys amodau sydd yn ymwneud â gadael eich tŷ yn wag am gyfnod o amser.

Eich banc

Gallwch ofyn i’ch banc i ddanfon eich datganiadau banc i ward yr ysbyty neu mae modd i chi ofyn i’r banc i ddanfon y datganiadau yma i ffrind neu berthynas yr ydych yn ymddiried ynddo. Bydd hyn yn eich helpu chi i reoli eich arian tra yn yr ysbyty.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC)

Os ydych yn derbyn credydau treth, dylech ddweud wrth Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi am y newid yn eich incwm gan fod hyn yn medru newid faint o arian yr ydych yn derbyn. Y rhif ar gyfer y Llinell Gymorth Credydau Treth yw 0345 300 3900.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth sydd yn digwydd i’m harian, cartref ac anifeiliaid anwes pan fyddaf yn mynd i’r ysbyty?
  2. A ddylem ddweud wrth rywun fy mod wedi mynd i mewn o’r ysbyty?
  3. Roeddwn yn gweithio pan wnes i fynd i mewn i’r ysbyty. Beth sydd yn digwydd i’m cyflog?
  4. Roeddwn yn hawlio budd-daliadau pan oeddwn wedi mynd i’r ysbyty. Beth fydd yn digwydd iddynt?
  5. Rwyf yn hawlio Credyd Cynhwysol. Sut y bydd hyn yn cael ei effeithio?
  6. Sut wyf yn medru talu fy miliau os wyf yn yr ysbyty?
  7. Nid wyf yn medru fforddio fy nyledion, beth allaf wneud?
  8. Beth sy’n digwydd os nad wyf yn medru gofalu am fy arian?
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau