Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Methdaliad

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Mae mynd yn fethdalwr ffordd o ddileu eich holl ddyledion. Nid yw hyn yn addas fel arfer os oes gennych ecwiti yn eich cartref neu unrhyw asedau gwerthfawr eraill. Mae asedau yn cynnwys pethau fel ceir a phethau eraill sydd yn werth llawer o arian.

Dylech sicrhau eich bod yn ymwybodol o sut y mae methdaliad yn mynd i effeithio arnoch, a hynny cyn i chi wneud cais. Bydd cynghorydd dyled yn esbonio hyn i chi ac o bosib yn medru helpu gyda’r ffurflenni.

You should make sure you are aware how bankruptcy will affect you before you apply.

Sut i wneud cais

Er mwyn gwneud cais am fethdaliad, rhaid i chi lenwi ffurflen ar-lein ar sedan y llyworaeth.

Ers Ebrill 2016, nid oes rhaid i bobl sydd yn datgan eu bod am fynd yn fethdalwyr fynd i’r llys. Unwaith eich bod wedi cwblhau ffurflen ar-lein, mae’n mynd at rywun sydd yn cael ei alw’n ddyfarnwr. Maent yn cysylltu gyda chi ac yn eich hysbysu o’r penderfyniad.

Ffioedd

Ers 21ain o Orffennaf, mae’r Gorchymyn Gweithdrefnau Ansolfedd (Ffioedd) wedi dod i rym. Mae hyn wedi newid y ffioedd y mae’n rhaid i chi dalu. Mae’n rhaid i chi dalu blaendal nawr o £550 er mwyn gwneud cais i ddod yn fethdalwr a £130 ar gyfer ffioedd y dyfarnwr. Mae hyn yn golygu bod yna gost o £680 i ddod yn fethdalwr.

Os nad yw’r dyfarnwr yn gwneud gorchymyn ansolfedd, byddant yn dychwelyd y £550. Os ydych yn apelio’r penderfyniad o fewn 14 diwrnod, byddant yn cadw’r blaendal. Mae angen ichi dalu ffioedd pan eich bod yn gwneud cais. Siaradwch gyda’ch cynghorydd dyledion neu elusennau eraill sydd yn medru eich helpu gyda’ch ffioedd methdaliad os nad ydych yn medru eu fforddio.

Unwaith y mae gorchymyn methdalu wedi ei wneud, bydd rhywun o’r enw Derbynnydd Swyddogol yn cysylltu gyda chi. Mae’r camau cyntaf o fethdaliad fel arfer yn cael eu rheoli gan dderbynnydd swyddogol. Mae derbynnydd swyddogol yn gweithio i’r Gwasanaeth Ansolfedd ac yn rhan o’r llys. Byddant hefyd yn ymddiriedolwr oni bai bod ymarferydd ansolfedd yn cael ei apwyntio i ymgymryd â’r rôl. Bydd yr ymddiriedolwr yn gwerthu unrhyw asedau (oni bai am eitemau domestig rhesymol ac eitemau sydd angen ar gyfer eich swydd).

Os ydych yn rhentu, dylech wirio eich cytundeb tenantiaeth er mwyn sicrhau na fydd y methdaliad yn effeithio ar eich cartref.

Bydd eich ymddiriedolwr yn cwblhau taflen gyllidebu gyda chi. Os oes mwy nag £20 y mis yn weddill gennych ar ôl talu eich treuliau hanfodol, byddant yn gofyn i chi dalu’r holl arian tuag at y dyledion methdaliad. Mae hyn yn cael ei alw’n Gytundeb Taliad Incwm (CTI). Bydd y CTI yn parhau am gyfnod o dair blynedd ar gyfer y rhan fwyaf o bobl.

Ni ddylai eich ymddiriedolwr gytuno ar Gytundeb Taliad Incwm os yw eich incwm yn cynnwys budd-daliadau yn unig. Os nad ydych yn cytuno gyda’r swm ynghlwm wrth Gytundeb Taliad Incwm, bydd y llys yn penderfynu a ddylech fod yn talu. Mae hyn yn cael ei alw’n Gytundeb Taliad Incwm. Os nad ydych yn cytuno gyda’r swm y maent wedi gofyn i chi dalu, dylech siarad gyda chynghorydd dyled.

Bydd eich gorchymyn methdalu yn parhau am 12 mis. Ar ddiwedd y 12 mis, bydd eich dyledion yn cael eu dileu.  

Rydych dal yn medru cael cyfrif banc hyd yn oed os ydych yn fethdalwr ond bydd hwn yn gyfrif sylfaenol. Mae hyn yn golygu na fyddwch yn medru cael llyfr sieciau, cerdyn credyd neu orddrafft.  

Pwyntiau pwysig i’w cofio am fynd yn fethdalwr:

  • Siaradwch gyda chynghorydd dyledion cyn gwneud cais am fethdaliad.
  • Mae mynd yn fethdalwr yn golygu y bydd eich dyledion yn cael eu dileu. Ni fydd eich credydwyr yn medru gofyn am daliadau pellach neu gymryd camau yn eich erbyn. Mae hyn yn medru lleihau llawer o’r straen.
  • Rhaid i chi dalu ffi cyn mynd yn fethdalwr.
  • Efallai y byddwch yn colli eich cartref ac asedau eraill os ydynt yn werth llawer o arian.
  • Bydd mynd yn fethdalwr ar eich ffeil hanes credyd am 6 mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd yn fwy anodd i chi gael credyd yn y dyfodol.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau