Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
Mae Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (GRhD) yn opsiwn rhatach na mynd yn fethdalwr.

Mae Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled (GRhD) yn opsiwn rhatach na mynd yn fethdalwr. Mae ond modd i chi gael GRhD os ydych yn cwrdd â’r meini prawf canlynol:

  • Rydych mewn llai o ddyled na £20,000
  • Os ydych yn meddu ar gar, rhaid ei fod yn werth llai na £1,000
  • Nid ydych yn berchen ar ddim byd arall a allai gael ei werthu am fwy na £1,000
  • Nid oes llai na £50 yn weddill genych bob mis ar ôl i chi dalu’r treuliau hanfodol
  • Rydych wedi byw neu weithio yn Lloegr neu Gymru am y 3 blynedd ddiwethaf    
  • Nid ydych wedi gwneud cais am GRhD yn y 6 mlynedd ddiwethaf  

Er mwyn gwneud cais am GRhD, bydd rhaid i chi siarad gyda ‘Approved Intermediary’. Mae’r manylion cyswllt ar gyfer holl fudiadau yma i’w gweld yn yr adran ‘cysylltiadau defnyddiol’.

Er mwyn gwneud cais am GRhD, bydd angen i chi dal ffi un-tro o £90. Mae modd i chi dalu hyn fel un taliad neu gyfres o daliadau. Os nad yw eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael ad-daliad o £90.

Unwaith y mae GRhD yn cael ei drefnu, ni fydd rhaid i chi dalu dim byd i’ch credydwyr am flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn hon, ni fydd hawl gan eich credydwyr i ofyn am unrhyw arian gennych i dalu eich dyledion. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd eich dyledion yn cael eu dileu os ydych dal yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol.

Os nad ydych yn cwrdd â’r meini prawf perthnasol ar ddiwedd y 12 mis, bydd rhaid i chi ddechrau talu’r dyledion eto.

Pwyntiau pwysig i’w cofio am GRhD:

  • Byddai GRhD yn rhoi seibiant o 12 mis i chi o’ch taliadau a’ch credydwyr. Wedi hyn, bydd eich dyledion yn cael eu dileu.
  • Rhaid i chi dalu’r ffi £90 cyn gwneud cais. Rydych yn medru talu hyn mewn cyfres o daliadau. Nid ydych yn derbyn ad-daliad o’r arian yma os ydych yn cael eich gwrthod os nad ydych yn cwrdd â’r meini prawf.

Bydd GRhD yn ymddangos ar eich ffeil hanes credyd am 6 mlynedd. Mae hyn yn golygu y bydd hi’n anodd i gael credyd yn y dyfodol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau