Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Dileu Dyledion

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Mae canllawiau a chodau ymarfer y diwydiant yn nodi y dylai credydwyr ystyried dileu eich dyledion os ydych yn:

  • Sâl iawn,
  • Annhebygol o wella yn y dyfodol agos, a
  • Methu â chanfod unrhyw ffordd o ad-dalu’r ddyled.

Os yw hyn yn berthnasol i chi, gallwch ysgrifennu at eich credydwyr er mwyn gofyn iddynt ddileu eich dyledion. Dylech ysgrifennu atynt a danfon tystiolaeth feddygol o’ch cyflwr. Gallwch ofyn i’ch Meddyg Teulu, seiciatrydd neu weithiwr iechyd proffesiynol i’ch helpu gyda’ch tystiolaeth feddygol. Dylech hefyd ddanfon eich taflen gyllidebu sydd yn dangos nad ydych yn medru fforddio talu eich dyledion.

Gallwch ofyn i’ch Meddyg Teulu, seiciatrydd neu weithiwr iechyd proffesiynol i’ch helpu gyda’ch tystiolaeth feddygol. Dylech hefyd ddanfon eich taflen gyllidebu sydd yn dangos nad ydych yn medru fforddio talu eich dyledion.

Dyma lythyr enghreifftiol y mae modd i chi ddefnyddio er mwyn gofyn iddynt ddileu eich dyledion. Os ydych yn defnyddio’r llythyr hwn i wneud cais i ddileu eich dyledion, dylech gynnwys cymaint o wybodaeth ag sydd yn bosib am eich sefyllfa. Dylai’r wybodaeth gynnwys:

  • Pa mor hir ydych wedi bod yn sâl,
  • Cyflwr eich iechyd meddwl pan oedd wedi cytuno ar y cytundeb.
  • Newidiadau diweddar i’ch amgylchiadau sydd wedi effeithio ar eich gallu i ad-dalu (er enghraifft, yn derbyn llai o arian, gweithio llai o oriau neu’n gadael y swydd, wedi bod yn sâl yn ddiweddar),
  • Sut y mae eich dyledion yn effeithio ar eich iechyd meddwl, a
  • Manylion unrhyw gyfnodau y bu’n rhaid i chi aros yn yr ysbyty.

Efallai y bydd rhai credydwyr yn cytuno i ddileu dyledion. Ni fydd eraill yn fodlon gwneud hyn ond o bosib yn marcio eich dyled ‘fel dyled nad oes modd ei gasglu’. Mae hyn yn golygu na fyddant yn cysylltu gyda chi tra bod eich sefyllfa yn parhau’r un fath. Ni fydd rhai credydwyr yn cysylltu gyda chi o gwbl os nad oes modd casglu eich dyled tra y bydd eraill yn cysylltu gyda chi weithiau er mwyn holi am eich sefyllfa ariannol gyfredol.

Pwyntiau pwysig i’w cofio wrth wneud cais i ddileu eich dyledion:

  • Nid oes rhaid i gredydwyr i ddileu dyledion.
  • Byd credydwyr am weld tystiolaeth o hyn (fel arfer mewn ffurflen a thystiolaeth feddygol o unrhyw afiechyd meddwl)
  • Efallai y bydd credydwyr yn gofyn am ffurflen dystiolaeth o Ddyledion ac Iechyd Meddwl.
  • Mae sicrhau bod credydwyr yn cytuno i ddileu dyledion yn medru bod yn broses hir heb unrhyw sicrhad o lwyddiant. Efallai y bydd yn cymryd llai o amser ac ymdrech i ddefnyddio opsiwn arall megis methdaliad neu orchymyn rhyddhau o ddyled.
  • Os yw credydwr yn penderfynu dileu eich dyledion, bydd hyn yn dangos ar eich ffeil hanes credyd fel dyled sydd heb ei dalu. Mae hyn yn medru ei gwneud hi’n fwy anodd i chi gael credyd yn y dyfodol.

 

Debt & Mental Health Evidence Form

Mae’r Debt and Mental Health Evidence Form (DMHEF) yn ffurflen safonol. 

Mae’r ffurflen wedi ei dylunio i ofyn i weithiwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol am dystiolaeth o’ch amgylchiadau,. Mae wedi ei dylunio er mwyn ei gwneud hi’n eglur i gasglu’r wybodaeth hon i chi a’ch credydwyr. 

Unwaith y mae’r ffurflen wedi ei chwblhau, mae modd ei llungopïo a’i danfon at eich holl gredydwyr.     

Fel arfer, rydych yn derbyn y DMHEF gan eich cynghorydd dyled neu’ch credydwyr. Mae modd cael copi o’r bobl a’i lluniodd  sef y Money Advice Liaison Group (MALG), ond nid yw’r MALG yn medru eich helpu chi gyda’r ffurflen neu ateb cwestiynau gan iddynt ddylunio’r ffurflen  yn unig

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau