Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf

Efallai y byddai’n ddefnyddiol eich bod yn dweud wrth eich credydwyr am unrhyw gyflyrau iechyd meddwl os ydynt yn ei gwneud hi’n anodd i chi dalu eich dyledion. Bydd rhai credydwyr yn dilyn canllawiau ynglŷn â sut i ddelio gyda chwsmeriaid sydd yn byw ag afiechyd meddwl.

Mae addasiadau y mae credydwr yn medru ei wneud pan fyddant yn cael gwybod bod afiechyd meddwl gan gwsmer yn medru cynnwys y canlynol.

  • Symud y cyfrif i dîm arbenigol gydag ymwybyddiaeth gynyddol o afiechyd meddwl.
  • Cyfathrebu mewn modd priodol. Er enghraifft, os ydy gwneud galwadau ffȏn yn achosi straen, efallai y bydd y credydwyr yn cytuno o bosib i gysylltu gyda chi yn ysgrifenedig.
  • Cyfathrebu ar adegau sydd yn fwy cyfleus i chi. Er enghraifft, os yw’r feddyginiaeth yr ydych yn cymryd yn eich gwneud chi’n flinedig yn y boreau, efallai y byddant yn cytuno i’ch ffonio chi yn y prynhawn.        
  • Rhewi eich cyfrif.
  • Cytuno i ddileu'r holl ddyledion neu ran o’ch dyledion

Efallai y bydd credydwyr am weld ychydig o dystiolaeth feddygol cyn cytuno i wneud addasiadau. Dylai’r dystiolaeth gael ei gyflwyno gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sydd yn eich cefnogi. Mae’r wybodaeth sydd yn medru bod o ddefnydd i gredydwyr yn cynnwys:

  • Manylion eich cyflwr,
  • Pa mor hir yr ydych wedi eich effeithio gan y cyflwr, a
  • Esboniad o sut y mae eich cyflwr yn effeithio ar eich gallu i reoli arian

Mae’r Grŵp Cyswllt Cynghori Arian (GCCA) wedi creu’r Ffurflen Dystiolaeth Iechyd Meddwl ac Arian. Efallai y bydd cynghorydd arian neu gredydwr yn rhoi’r ffurflen i chi er mwyn gofyn am wybodaeth am eich afiechyd meddwl gan weithwyr iechyd a gofal proffesiynol. Mae’r credydwyr wedyn yn medru defnyddio’r wybodaeth er mwyn eu helpu i ddelio gyda’r cyfrif.

 

Debt & Mental Health Evidence Form

Mae’r Debt and Mental Health Evidence Form (DMHEF) yn ffurflen safonol. 

Mae’r ffurflen wedi ei dylunio i ofyn i weithiwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol am dystiolaeth o’ch amgylchiadau,. Mae wedi ei dylunio er mwyn ei gwneud hi’n eglur i gasglu’r wybodaeth hon i chi a’ch credydwyr. 

Unwaith y mae’r ffurflen wedi ei chwblhau, mae modd ei llungopïo a’i danfon at eich holl gredydwyr.     

Fel arfer, rydych yn derbyn y DMHEF gan eich cynghorydd dyled neu’ch credydwyr. Mae modd cael copi o’r bobl a’i lluniodd  sef y Money Advice Liaison Group (MALG), ond nid yw’r MALG yn medru eich helpu chi gyda’r ffurflen neu ateb cwestiynau gan iddynt ddylunio’r ffurflen  yn unig.

 

Sut y caiff y wybodaeth hon ei defnyddio?

Os ydych yn dweud wrth eich credydwyr am eich cyflwr, efallai y byddant yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn gwneud penderfyniadau am eich cyfrif. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chadw ar ffeil cyn hired ag sydd angen at ddibenion y busnes. Nid os hawl rhannu’r wybodaeth hon gyda mudiadau eraill.

Ni ddylai credydwyr ddefnyddio’r wybodaeth yr ydych yn rhoi iddynt i wneud penderfyniadau am fenthyciadau yn y dyfodol. Fodd bynnag, efallai y byddant yn gofyn gwestiynau pellach am eich cyflwr er mwyn sicrhau eu bod yn benthyg yn gyfrifol.

Ni ddylai credydwr ddefnyddio’r wybodaeth yr ydych yn rhoi er mwyn gwneud penderfyniadau am fenthyg arian yn y dyfodol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau