Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Gorchymyn Gweinyddu

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
Mae gorchymyn gweinyddu (GG) yn eich caniatáu i wneud un taliad fforddiadwy i'r llys sirol bob mis. Mae’r arian wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r credydwr.

Mae gorchymyn gweinyddu (GG) yn eich caniatáu i wneud un taliad fforddiadwy i'r llys sirol bob mis. Mae’r arian wedyn yn cael ei drosglwyddo i’r credydwr. Tra eich bod yn gwneud eich taliadau bob mis o dan y GG, rhaid i’r credydwr dderbyn y taliad y maent yn derbyn drwy’r llys. Mae hyn yn golygu na ddylech fod yn derbyn unrhyw alwadau ffȏn neu lythyron mwyach yn gofyn am ddyledion.

Er mwyn cael GG, rhaid i chi:

  1. O leiaf un Dyfarniad Llys Sirol (CCJ) sydd heb ei dalu,
  2. O leiaf dau fath o ddyled, a
  3. Dim mwy na £5,000 o ddyled.

Os yw’n ymddangos y bydd hi'n cymryd mwy na thair blynedd i ad-dalu’r dyledion o dan y GG, mae’r llys yn medru gwneud gorchymyn cyfansawdd. Byddai hyn fel arfer yn cyfyngu’r cyfnod sydd yn cael ei roi i chi i hyd at dair blynedd.

Nid oes ffioedd i’w talu ymlaen llaw ar gyfer GG ond bydd y llys sirol yn cymryd 10c o bob £1 i dalu am y costau gweinyddol. Er mwyn gwneud cais am GG, rhaid i chi lenwi ffurflen gais o’r enw N92 a’i danfon i’r llys. Ni fydd rhaid i chi fynd i’r llys fel arfer neu ateb unrhyw gwestiynau pellach.

Gallwch gasglu copi o’r ffurflen o’ch llys sirol lleol neu’i lawrlwytho o wegen y llywodraeth.

Pwyntiau pwysig i’w cofio am GG:

  • Mae ond modd i chi wneud cais am GG os yw credydwr wedi mynd â chi i’r llys ac wedi sicrhau Dyfarniad Llys Sirol (CCJ) yn eich erbyn.
  • Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. Gallwch ofyn i’ch asiantaeth cyngor leol am help gyda hyn.
  • Mae’n rhad ac am ddim i wneud cais.
  • Nid oes hawl gan y credydwr i gymryd camau yn eich erbyn os ydych yn gwneud y taliadau o dan y gorchymyn.
  • Bydd eich statws credyd eisoes wedi effeithio arnoch drwy gael CCJ yn eich erbyn.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Dyledion sy’n flaenoriaeth a dyledion na sy’n flaenoriaeth
  2. Cyfrifon banc a dyledion
  3. Llunio taflen gyllideb
  4. Negodi taliadau llai o ran eich dyledion
  5. Cynlluniau Rheoli Dyled Am Ddim
  6. Gorchymyn Gweinyddu
  7. Gorchymyn Rhyddhau o Ddyled
  8. Trefniant Gwirfoddol Unigol
  9. Methdaliad
  10. Dileu Dyledion
  11. A fyddaf yn cael fy 'nghosbrestru’?
  12. Beth mae credydwyr yn medru ei wneud os nad wyf yn talu?
  13. A ddylem ddweud wrth y credydwyr am fy iechyd meddwl?
  14. Sicrhau help gan gynghorydd arbenigol
  15. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau