Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut wyf yn medru cwyno?

  1. A yw banc yn medru benthyg i mi pan wyf yn sâl?
  2. Beth yw ystyr ‘galluedd’?
  3. Mae help am ddim ar gael
  4. Beth ddylai banciau ei wneud er mwyn fy amddiffyn?
  5. Beth wyf yn medru ei wneud os nad wyf yn medru talu fy nyled?
  6. Sut wyf yn medru cwyno?
  7. A wyf yn medru dychwelyd pethau i mi eu prynu pan oeddwn yn sâl?
  8. Camau nesaf

Making a complaint

Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydych wedi eich trin gan eich benthyciwr, mae modd i chi gwyno. Gofynnwch am gyngor os ydych yn credu bod eich cytundeb yn annilys gan nad oeddech yn meddu ar y gallu i gytuno gyda’r hyn a nodwyd. Mae cyngor am ddim ar gael o’r National Debtline a StepChange

Cwyno

Dylai eich benthyciwr feddu ar weithdrefn gwyno, Dylent roi copi i chi os ydych yn gofyn am gopi. Mae benthycwyr angen i chi gwyno yn ysgrifenedig fel arfer, Pan fyddwch yn ysgrifennu eich cwyn mewn e-bost neu lythyr, dylech farcio hyn gyda’r gair ‘cwyn’.

Esboniwch:

  • Yr hyn sydd wedi digwydd,
  • Pam nad ydych yn medru ad-dalu’r ddyled, a
  • Beth ydych am i’ch benthyciwr wneud o ganlyniad i’ch cwyn.

Byddai’n helpu pe baech yn cynnwys unrhyw dystiolaeth sydd yn dangos nad oeddech yn meddu ar y galluedd pan wnaethoch drefnu’r benthyciad. Efallai y byddwch yn medru cael tystiolaeth gan weithiwr iechyd meddwl neu feddygol proffesiynol megis eich Meddyg Teulu, gweithiwr cymdeithasol neu’ch nyrs seiciatryddol gymunedol (CPN).

Byddai’n helpu pe baech yn cynnwys unrhyw dystiolaeth sydd yn dangos nad oeddech yn meddu ar y galluedd ar y pryd.

Unwaith i chi gwblhau eich e-bost neu lythyr, cadwch gopi ar gyfer eich cofnodion. Os ydych wedi danfon y llythyr drwy wasanaeth ‘recorded delivery’, mae modd i chi brofi wedyn fod y benthyciwr wedi derbyn y gwyn.

Dylai eich benthyciwr ddelio gyda’ch cwyn o fewn 8 wythnos. Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb, mae modd i chi ofyn i’r Gwasanaeth Ymddygiad Ariannol (GYA) i ystyried y gwyn i chi. Bydd y GYA yn ymchwilio ac maent yn medru dweud wrth y banc sut i ddatrys y gwyn. Gallwch gysylltu gyda’r GYA:

Y Gwasanaeth Ymddygiad Ariannol

Arbenigwr swyddogol y DU wrth ddatrys problemau yn ymwneud â banciau, yswiriant, PPI, benthyciadau, morgeisi, pensiynau ac unrhyw gwynion ariannol neu gyllidol eraill.

Cyfeiriad: Gwasanaeth Ymddygiad Ariannol, Exchange Tower Llundain E14 9SR

Gwefan

Ffȏn: 0300 123 9 123 neu 0800 023 4567.

Testun: 07860 027 586 a bydd rhywun yn eich ffonio nôl

E-bost: complaint.info@financial-ombudsman.org.uk

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. A yw banc yn medru benthyg i mi pan wyf yn sâl?
  2. Beth yw ystyr ‘galluedd’?
  3. Mae help am ddim ar gael
  4. Beth ddylai banciau ei wneud er mwyn fy amddiffyn?
  5. Beth wyf yn medru ei wneud os nad wyf yn medru talu fy nyled?
  6. Sut wyf yn medru cwyno?
  7. A wyf yn medru dychwelyd pethau i mi eu prynu pan oeddwn yn sâl?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau