Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw ystyr ‘galluedd’?

  1. A yw banc yn medru benthyg i mi pan wyf yn sâl?
  2. Beth yw ystyr ‘galluedd’?
  3. Mae help am ddim ar gael
  4. Beth ddylai banciau ei wneud er mwyn fy amddiffyn?
  5. Beth wyf yn medru ei wneud os nad wyf yn medru talu fy nyled?
  6. Sut wyf yn medru cwyno?
  7. A wyf yn medru dychwelyd pethau i mi eu prynu pan oeddwn yn sâl?
  8. Camau nesaf

Mae’r ‘capasiti’ gennych i gael benthyciad os ydych yn:

  • Deall ac yn cofio’r wybodaeth am y benthyciad,
  • Ystyried yr holl wybodaeth wrth benderfynu os ydych am gael y benthyciad, a
  • Caniatáu i rywun wybod beth yw eich penderfyniad.

Os nad ydych yn medru gwneud un o’r pethau yma, nid ydych yn ‘meddu ar y galluedd’.

Beth sy’n digwydd os i mi drefnu benthyciad pan nad oeddwn yn meddu ar y galluedd?

Mae’n medru bod yn anodd i chi brofi nad oeddech yn meddu ar y galluedd, yn enwedig os oedd hyn sbel fach yn ôl. Mae hefyd yn medru bod yn anodd ceisio profi fod y banc neu’r benthyciwr arian yn gwybod nad oeddech yn meddu ar y galluedd.

Fodd bynnag, dylai’r benthyciwr wybod nad oeddech yn meddu ar y galluedd os: 

  • Roeddech wedi dweud wrthynt fod afiechyd arnoch,
  • Roeddynt yn medru gweld eich bod yn ei chael hi’n anodd dilyn y sgwrs a’r hyn yr oeddynt yn ei ddweud,
  • Maent yn gwybod eich bod wedi apwyntio penodai i ddelio gyda’ch budd-daliadau,
  • Roedd eich twrnai, fel rhan o Bŵer Atwrneiaeth Arhosol wedi dweud wrth y benthyciwr nad oeddech yn meddu ar y galluedd,
  • Mae’r benthyciwr yn gwybod bod y Llys Gwarchod wedi rhoi gorchymyn i chi,
  • Roeddech wedi dweud wrth y benthyciwr eich bod am wario’r arian ar rywbeth anarferol, neu
  • Rydych yn siarad am bethau anarferol neu amherthnasol pan oeddynt yn esbonio’r cytundeb benthyciad.

Y gyfraith sydd yn ymdrin â galluedd meddwl yw’r Ddeddf Galluedd Meddwl 2005.

 

Y gyfraith sydd yn ymdrin â galluedd meddwl yw’r Ddeddf Galluedd Meddwl 2005.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. A yw banc yn medru benthyg i mi pan wyf yn sâl?
  2. Beth yw ystyr ‘galluedd’?
  3. Mae help am ddim ar gael
  4. Beth ddylai banciau ei wneud er mwyn fy amddiffyn?
  5. Beth wyf yn medru ei wneud os nad wyf yn medru talu fy nyled?
  6. Sut wyf yn medru cwyno?
  7. A wyf yn medru dychwelyd pethau i mi eu prynu pan oeddwn yn sâl?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau