Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw Credyd Cynhwysol?

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf

Applying for universal credit

 

Mae Credyd Cynhwysol (CC) yn fudd-dal newydd a fydd yn cael ei dalu’n fisol ac yn disodli’r holl fudd-daliadau canlynol:

Rydych yn medru derbyn CC os nad ydych yn derbyn llawer o incwm neu dim incwm o gwbl ac yn meddu ar swm bach o gynilion a chyfalaf

Pwy sydd yn medru hawlio?

Mae CC yn cael ei gyflwyno dros gyfnod o amser ar draws y wlad ar hyn o bryd, ac felly, mae’r ffaith eich bod yn hawlio CC yn dibynnu ar eich sefyllfa a ble ydych yn byw. Mae yn ddau fath o ardal: ardaloedd gwasanaeth llawn ac ardaloedd gwasanaeth byw.

Ardaloedd gwasanaeth llawn

Os ydych yn byw mewn ardal gwasanaeth llawn, mae’r holl geisiadau prawf modd newydd ar gyfer CC a byddwch yn medru hawlio os ydych:

  • Yn berson sengl,
  • Yn gwpwl,
  • Yn rhiant,
  • Yn anabl neu’n rhy sâl i weithio,
  • Yn ofalwr,
  • Mewn swydd â chyflog isel, gan gynnwys bod yn hunangyflogedig.

 

Ardaloedd gwasanaeth byw

Ers 1af Ionawr 2018, nid ydych yn medru gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol os ydych yn byw mewn ardal gwasanaeth byw. Yn hytrach, mae modd i chi wneud cais am Lwfans Ceisio gwaith math newydd – sydd yn cael ei alw’n lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniad – os oes gennych digon o gyfraniadau yswiriant Cenedlaethol. Os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn byw mewn ardal gwasanaeth bwy, byddwch yn rheoli eich cais ar y ffôn. Mae ardaloedd gwasanaeth bwy yn cael eu galw’n ardaloedd porth weithiau. Os ydych angen rhoi gwybod am newidiadau i’ch cais, yna cysylltwch gyda Llinell Gymorth Byw y Credyd Cynhwysol.

Ffȏn: 0345 600 0723

Ffȏn Testun: 0345 600 0743

Llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Dewch i ganfod a ydych yn medru hawlio CC.

Os ydych dal yn ansicr a ydych yn medru hawlio yn eich ardal, ffoniwch linell gymorth y CC gydag unrhyw ymholiadau. Ar agor o ddydd Llun – Dydd Gwener 8am – 6pm:

Ffȏn: 0345 600 0723

Ffȏn Testun: 0345 600 0743

 

Hawl Sylfaenol i Wneud Cais

Rhaid i chi ddiwallu pum angen os am dderbyn CC, ac maent wedi eu hesbonio isod:

Rhaid i chi fod mewn oedran gweithio

Mae angen i chi fod yn 18 neu hŷn ac yn iau na’r oedran Credyd Pensiwn er mwyn derbyn CC. Weithiau, rydych dal yn medru hawlio CC os ydych yn 16 neu’n 17, ond mae angen i chi siarad gyda chynghorydd lles os ydych am fwy o wybodaeth.

Rydych yn medru derbyn CC os ydych yn hŷn na’r oedran Credyd Pensiwn a bod eich partner yn iau na’r oedran Credyd Pensiwn. Yn yr achos hwn, rydych yn medru dewis a ydych yn am wneud cais am CC neu Gredyd Pensiwn. Ond mae’r rhan fwyaf o gyplau sydd yn hawlio Credyd Pensiwn yn canfod fod hyn yn fwy manteisiol na Chredyd Cynhwysol.

Mae eich oedran Credyd pensiwn yn ddibynnol ar bryd y cawsoch eich geni. Mae modd i chi wirio eich oedran credyd pensiwn drwy ddefnyddio’r cyfrifiannell ar-lein yma.

Yn byw’n gyson yn y DU

Mae hyn yn golygu eich bod yn meddu ar yr hawl i fyw yn y DU ac yn bwriadu aros. Os nad yw eich partner yn cydymffurfio gyda’r rheolau yma, byddwch yn derbyn cyfradd is o CC. Os nad ydych chi yn cydymffurfio gyda hyn ond os yw eich partner yn cydymffurfio, yna mae modd i’ch partner wneud cais am CC yn hytrach na chi.

Nid ydych mewn addysg llawn amser

Nid yw’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn medru hawlio CC, er bod rhai myfyrwyr yn medru hawlio, er enghraifft, os oes plentyn neu anabledd gennych. Mae angen i chi siarad gyda chynghorydd lles os am fwy o wybodaeth.

Ar incwm isel ac yn meddu ar lefel isel o gynilion neu gyfalaf

Mae CC yn fudd-dal prawf modd, ac felly, bydd unrhyw gynilion, cyfalaf ac incwm yr ydych yn derbyn yn effeithio ar y swm a fydd yn cael ei dalu i chi.

Byddwch ond yn derbyn CC os oes lefelau isel o gynilion neu gyfalaf gennych, a’ch bod yn derbyn incwm isel neu dim incwm o gwbl, Mae modd i chi ganfod mwy am hyn yn yr adran 'Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?’.

Nid ydych yn medru derbyn CC os ydych yn:

  • Aelod o grŵp crefyddol,
  • Carcharor,
  • Person sydd wedi ei ddedfrydu i ysbyty seiciatryddol o dan adran 45A neu 47 of o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.

 

Sut wyf yn hawlio?

Bydd angen i chi hawlio CC ar-lein, ond os nad yw hyn yn bosib, efallai y byddwch yn medru hawlio dros y ffȏn. Nodwch os gwelwch yn dda nad oes modd i chi hawlio drwy’r post. Mae modd hawlio ar-lein ar wefan y Llywodraeth.

Os ydych angen help yn hawlio’r Credyd Cynhwysol ar-lein, ffoniwch linell gymorth y CC:

Ffȏn: 0845 600 0723

Ffȏn Testun: 0845 600 0743

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau