Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf

Efallai eich bod yn medru chwilio neu baratoi am waith, ac yn y sefyllfa hon, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn disgwyl i chi wneud hyn er mwyn hawlio’r Credyd Cynhwysol (CC). Os oes swydd rhan amser gennych, efallai y bydd angen i chi edrych am fwy o waith, ac os ydych mewn swydd sydd yn talu’n isel, efallai y bydd angen i chi chwilio am swydd sydd yn talu’n uwch.

Os ydych yn hawlio CC ac yn chwilio am waith, rhaid i chi gytuno gyda rhestr o amodau sy’n cael ei alw’n ymrwymiad yr hawlydd – bydd hyn yn esbonio

  • Yr hyn sydd angen i chi wneud er mwyn paratoi neu chwilio am waith
  • Yr hyn a fydd yn digwydd os nad ydych yn gwneud hyn, a
  • Y wybodaeth y mae’r Adran Waith a Phensiynau angen i chi ddarparu..

Yn ddibynnol ar eich sefyllfa, efallai y bydd angen i chi:

  • Dangos eich bod yn chwilio am waith llawn amser, a
  • yn rhy sâl i weithio.

Bydd angen i chi fynd i gyfweliadau yn ffocysu ar waith ond os ydych chi mor sâl fel nad yw’r Adran Waith a Phensiynau yn credu y dylech fynd, rhaid i hyn fod yn amod o’ch cais am fudd-dal. Dyma gyfarfodydd gyda chynghorydd a byddwch yn siarad am y math o waith yr ydych yn medru ei wneud a pha broblemau y byddech yn eu hwynebu yn y gwaith a sut y dylech ddelio gyda’r problemau hyn.

Beth os y bydd angen i mi chwilio am waith?

Os bydd angen i chi chwilio am waith, bydd angen i chi fod ar gael i ddechrau gweithio yn syth - oni bai bod rheswm da gennych pam nad yw hyn yn bosib - dyma’r gofyniad argaeledd gweithio. Mae’r gofyniad i chwilio yn ymwneud â phan fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn disgwyl i chi dreulio amser yn chwilio neu’n paratoi am waith.

Dylai eich ymrwymiad hawlydd ddatgan pa gyfarfodydd y dylech fynd iddynt a pha mor hir y mae angen i chi dreulio yn chwilio am waith. Os ydych angen newid yr ymrwymiad, siaradwch gyda chynghorydd personol yn y Ganolfan Byd Gwaith.

Beth sydd yn digwydd os nad wyf yn dilyn y rheolau yn ymrwymiad yr hawlydd?

Os nad ydych yn dilyn y rheolau, efallai y byddwch yn colli ychydig o’ch budd-daliadau – mae hyn yn gosb. Mae yna pedair lefel o gosb y mae modd i’r Adran Waith a Phensiynau weithredu, gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd.

 

Os nad ydych yn dilyn y rheolau, efallai y byddwch yn colli ychydig o’ch budd-daliadau – mae hyn yn gosb. Mae yna pedair lefel o gosb y mae modd i’r Adran Waith a Phensiynau weithredu, gan ddibynnu ar yr hyn sydd wedi digwydd.

Os ydy’ch CC yn cael ei gosbi ar y lefel isaf, byddwch yn colli 40% o’ch lwfans safonol. Bydd hyn yn parhau tan eich bod yn dechrau gwneud yr hyn y mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn gofyn i chi.

Os ydych yn hawlio fel cwpwl, byddwch yn colli 40% o lwfans y cwpwl os yw un partner yn cael ei gosbi a byddwch yn colli 80% os yw’r ddau ohonoch yn cael eich cosbi.

 

Taliadau caledi

Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn cosbi eich budd-dal, efallai y byddwch yn medru gwneud cais am help drwy’r taliad caledi. Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau dalu ychydig o arian i chi os:

  • Nid ydych yn medru talu am bethau pwysig megis rhent, gwres, bwyd a hylendid,
  • Rydych wedi ceisio gwario llai ac yn derbyn mathau eraill o gymorth, neu
  • Wedi diwallu’r holl anghenion sy’n ymwneud â gwaith yn y saith diwrnod blaenorol..

Bydd rhaid i chi wneud cais am daliad caledi bob mis os ydych ei angen ond bydd rhaid i chi ad-dalu hyn drwy ddefnyddio 15% o’r CC yr ydych yn derbyn.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau