Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/04/2021

Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf

Beth os oes cynilion neu gyfalaf gennyf?

Mae cyfalaf yn golygu faint y mae eich asedau, cyfranddaliadau neu fuddsoddiadau yn werth – ni fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn ystyried eich cartref a’ch busnes fel asedau.

Mae cynilion yn golygu’r arian sydd gennych yng nghyfrifon eich banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost, ac arian ac unrhyw ISA.

Bydd gwerth eich cyfalaf a’ch cynilion yn effeithio o bosib ar faint o’r Credyd Cynhwysol (CC) y byddwch yn ei dderbyn.

Bydd gwerth eich cyfalaf a’ch cynilion yn effeithio o bosib ar faint o’r Credyd Cynhwysol (CC) y byddwch yn ei dderbyn:

  • Os oes cyfalaf a chynilion gennych sydd yn llai na £6,000, ni fydd eich CC yn cael ei effeithio fel arfer.
  • Os oes cyfalaf a chynilion gennych sydd yn uwch na £16,000, ni fyddwch yn derbyn dim CC.
  • Os oes cyfalaf a chynilion gennych sydd rhwng £6,000 a £16,000, rydych dal yn medru derbyn CC ond byddwch yn derbyn £4.35 yn llai am bob £250 sydd gennych dros £6,000 yn eich cynilion neu gyfalaf.

Beth os wyf yn derbyn arian drwy weithio?

Byddwch yn derbyn llai o CC os ydych yn derbyn arian drwy un o’r ffyrdd canlynol:

  • Yn gyflogedig, yn gweithio i rywun arall,
  • Yn hunangyflogedig, yn gweithio i’ch hun, neu
  • Yn derbyn cyflog salwch, mamolaeth, tadolaeth a mabwysiadu statudol. Bydd eich lwfans gwaith yn ddibynnol os ydych yn derbyn help gyda chostau tai. Os ydych yn derbyn help gyda chostau tai, y lwfans gwaith yw £515 ond os nad ydych yn derbyn help gyda chostau tai, mae’n £293.Nid yw Lwfans Byw i’r Anabl a’r Taliad Annibynnol Personol yn effeithio ar eich CC ond bydd y budd-daliadau canlynol yn cael eu tynnu oddi ar eich CC:

Beth os wyf yn derbyn budd-daliadau eraill?

Nid yw Lwfans Byw i’r Anabl a’r Taliad Annibynnol Personol yn effeithio ar eich CC ond bydd y budd-daliadau canlynol yn cael eu tynnu oddi ar eich CC:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau
  • Lwfans Gofalwyr
  • Taliadau profedigaeth a gweddwon
  • Lwfans Mamolaeth
  • Budd-dal Anafiadau Diwydiannol
  • Arian gan gyn-ŵr neu wraig.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw Credyd Cynhwysol?
  2. Faint fyddaf yn derbyn?
  3. Beth os wyf yn gweithio neu’n astudio?
  4. Beth os wyf yn gofalu am rywun neu fod plant gennyf?
  5. Beth am fy nghostau tai?
  6. Sut y bydd incwm, cynilion ac eiddo yn effeithio ar fy Nghredyd Cynhwysol?
  7. A fydd y Cap Budd-dal yn effeithio arnaf
  8. Sut y byddaf yn derbyn fy nhaliadau Credyd Cynhwysol?
  9. Beth yw ymrwymiad yr hawlydd?
  10. A wyf yn medru apelio os wyf yn anghytuno gyda phenderfyniad
  11. Pryd y bydd angen i mi hawlio
  12. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau