Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut y caiff y Lwfans Gofalwr (LG) ei effeithio gan fudd-daliadau eraill?

  1. Beth yw Lwfans Gofalwr?
  2. Sut y caiff y Lwfans Gofalwr (LG) ei effeithio gan fudd-daliadau eraill?
  3. Beth os wyf yn cael seibiant o’m rôl gofalu?
  4. Beth yw Premiwm Gofalwr?
  5. Beth yw’r Credyd Cynhwysol?
  6. Beth yw Credydau Gofalwr?
  7. A wyf yn medru hawlio Gostyngiad ar fy Nhreth Cyngor?
  8. Camau nesaf

Sut y caiff y Lwfans Gofalwr (LG) ei effeithio gan fudd-daliadau eraill?

Nid ydych yn medru derbyn Lwfans Gofalwr (LG) os ydych yn derbyn:-

Dyma’r rheol ‘budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd’.

Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Credyd Cynhwysol a rhai budd-daliadau eraill, rydych dal yn medru hawlio’r swm lawn o LG. Ond bydd y budd-daliadau yma yn cael eu lleihau yn unol gyda’r swm o LG yr ydych yn derbyn.

Dylech wneud cais am LG hyd yn oed os ydych yn derbyn y budd-daliadau yma.

Dylech wneud cais am LG hyd yn oed os ydych yn derbyn y budd-daliadau yma. Os ydych yn gymwys i dderbyn LG, byddwch yn derbyn swm ychwanegol a elwir yn ‘Premiwm Gofalwr’. Mae modd ichi ganfod mwy am hyn yn yr adran Beth yw'r Premiwm Gofalwr

Premium Anabledd Difrifol 

Efallai bod y person yr ydych yn gofalu amdano yn derbyn Premiwm Anabledd Difrifol (PAD), a hynny ar ben eu budd-daliadau. Byddant yn derbyn PAD os ydynt:

  • Byw ar ben eu hunain,
  • Yn derbyn budd-daliadau yn seiliedig ar brawf modd megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm neu Fudd-daliadau Tai
  • Yn derbyn yr elfen gofal o’r Lwfans Byw i’r Anabl naill ai ar y gyfradd ganolig neu uwch neu’r elfen byw’n ddyddiol o’r Taliad Annibynnol Personol ar y gyfradd safonol neu uwch, a
  • Ddim yn meddu ar ofalwr llawn amser sydd yn derbyn Lwfans Gofalwr.

Os ydych yn hawlio lwfans gofalwr, mae’n bwysig nodi y bydd y person yr ydych yn gofalu amdano yn colli ei Bremiwm Anabledd Difrifol, Nid yw hyn yn berthnasol os yw’r person yr ydych yn gofalu amdano yn hawlio Credyd Cynhwysol gan nad yw’r budd-dal yn cynnwys Premiwm Anabledd Difrifol. Os ydych yn derbyn Premiwm Gofalwr yn hytrach na’r Lwfans Gofalwr, dylai’r person yr ydych yn gofalu amdano barhau i dderbyn PAD.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw Lwfans Gofalwr?
  2. Sut y caiff y Lwfans Gofalwr (LG) ei effeithio gan fudd-daliadau eraill?
  3. Beth os wyf yn cael seibiant o’m rôl gofalu?
  4. Beth yw Premiwm Gofalwr?
  5. Beth yw’r Credyd Cynhwysol?
  6. Beth yw Credydau Gofalwr?
  7. A wyf yn medru hawlio Gostyngiad ar fy Nhreth Cyngor?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau