Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?

  1. Beth yw TAP?
  2. Beth os wyf yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)?
  3. Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  4. Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  5. Sut wyf yn gwneud cais?
  6. Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  7. A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
  8. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
  9. A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
  10. A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
  11. Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid tra’n derbyn Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  12. A oes rhywun yn medru gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP) ar fy rhan?
  13. Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
  14. Camau nesaf

Bydd unigolyn o’r Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu a ydych yn medru derbyn Taliad Annibynnol Personol a pha gyfradd y byddwch yn derbyn. Maent yn defnyddio’r wybodaeth ganlynol er mwyn penderfynu:

  • Yr atebion ar eich ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  • Unrhyw dystiolaeth sydd wedi ei rhoi i chi gan eich meddyg, gweithiwr cymdeithasol, nyrs neu unrhyw weithiwr proffesiynol arall
  • Adroddiad sydd wedi ei lunio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol annibynnol

Bydd yr unigolyn sydd yn gwneud y penderfyniad yn ystyried sut ydych yn medru ymgymryd â phob gweithgaredd.

  • Diogel – A ydych yn medru ymgymryd â’r gweithgaredd heb achosi niwed i’ch hun nag unrhyw un arall?
  • Yn ddigon da – Er enghraifft, efallai eich bod yn medru paratoi pryd bwyd ond efallai nad ydych yn medru ei fwyta os nad yw wedi ei goginio’n ddigonol.
  • Mwy nag unwaith - A ydych yn medru ail-adrodd y gweithgaredd cynifer o weithiau ag sydd angen?
  • Mewn amser rhesymol - A ydy’n cymryd dipyn hirach i chi wneud y gweithgaredd o’i gymharu gyda’r rhan fwyaf o bobl?

Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid?

Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn galw’r datganiadau gweithgaredd yn ‘ddisgrifyddion’. Bydd unigolyn o’r Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu a yw ddisgrifyddion yn berthnasol i chi ar fwy nag hanner o’r dyddiau mewn blwyddyn. Nid oes rhaid i’r dyddiau yma ddilyn ei gilydd. Mae’n cyfrif os nad ydych yn medru gwneud gweithgaredd am ran o’r diwrnod yn unig.

 

Os ydy eich iechyd yn newid yn gyson, mae ddisgrifyddion gwahanol yn medru bod yn berthnasol i chi ar adegau gwahanol. Yn yr achos hwn, mae’r rheolau canlynol yn berthnasol.

Os ydy eich iechyd yn newid yn gyson, mae ddisgrifyddion gwahanol yn medru bod yn berthnasol i chi ar adegau gwahanol. Yn yr achos hyn, mae’r rheolau canlynol yn berthnasol.”

  • Os oes mwy nag un disgrifydd yn berthnasol i chi am fwy nag hanner o’r amser, bydd y gweithgaredd sydd â’r pwyntiau uchaf yn cyfrif.
  • Efallai y byddwch yn canfod fod mwy nag un disgrifydd yn berthnasol i chi ond nid oes dim yn berthnasol am fwy nag hanner o’r amser. Ond gyda’i gilydd, maent yn effeithio arnoch hanner yr amser, ac felly, yr un sydd yn fwyaf perthnasol fydd yn cyfrif.

Stori Jen

Mae anhwylder deubegynol ar Jen. Am 100 diwrnod y flwyddyn, mae mania arni ac nid yw’n medru siarad gyda phobl heb gymorth gan ei gweithiwr cymdeithasol. Mae’n siarad yn gyflym iawn ac yn neidio o’r naill bwnc i’r llall. Mae’n dechrau cynhyrfu pan nad yw pobl eraill yn deall yr hyn y mae’n ei ddweud.

Am 90 diwrnod o’r flwyddyn, mae iselder difrifol ganddi. Mae’n aros yn y gwely am y rhan fwyaf o’r amser ac nid yw’n siarad gyda ffrindiau a theulu. Mae’n medru ymosod ar unrhyw un sydd yn ceisio siarad gyda hi.

Am 175 diwrnod o’r flwyddyn, mae Jen yn medru gyda siarad gyda phobl heb unrhyw gymorth.

Mae afiechyd meddwl Jen yn effeithio ar ei bywyd dyddiol am 190 diwrnod o’r flwyddyn. Ond nid oes unrhyw weithgaredd yn effeithio arni am fwy na hanner o ddiwrnodau’r flwyddyn, Mae hyn yn golygu mai’r gweithgaredd sydd yn berthnasol fwyaf aml fydd yn cyfrif tuag at ei chais am TAP.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw TAP?
  2. Beth os wyf yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)?
  3. Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  4. Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  5. Sut wyf yn gwneud cais?
  6. Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  7. A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
  8. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
  9. A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
  10. A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
  11. Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid tra’n derbyn Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  12. A oes rhywun yn medru gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP) ar fy rhan?
  13. Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
  14. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau