Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?

  1. Beth yw TAP?
  2. Beth os wyf yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)?
  3. Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  4. Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  5. Sut wyf yn gwneud cais?
  6. Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  7. A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
  8. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
  9. A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
  10. A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
  11. Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid tra’n derbyn Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  12. A oes rhywun yn medru gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP) ar fy rhan?
  13. Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
  14. Camau nesaf

Er mwyn hawlio’r Taliad Annibynnol Personol (TAP), rhaid i chi fod yn:

  • Yn 16 neu’n hŷn
  • O dan 65 neu’n iau nag oedran pensiwn – beth bynnag sy’n uwch
  • Cwrdd â’r meini prawf o ran preswylio a bod yn bresennol
  • Yn cwrdd ag amodau'r cyfnod cymhwyso, a
  • Llwyddo yn y prawf byw’n ddyddiol neu symudedd

 

Os ydy’ch plentyn yn iau na 16

Os yw eich plentyn o dan 16, mae modd i chi hawlio LBA iddynt. Ond efallai y bydd yr Adran Waith a Phensiynau o bosib yn gofyn iddynt hawlio TAP pan fyddant yn dathlu eu pen-blwydd yn 16 mlwydd oed. Mewn rhai ardaloedd, byddant yn medru parhau i hawlio LBA yn hytrach na TAP. Fodd bynnag, byddant yn cael eu hasesu o dan reolau’r TAP erbyn diwedd 2017.

Os ydych yn hŷn na 64

Os ydych eisoes wedi hawlio TAP erbyn eich bod yn 65, bydd angen i chi barhau i dderbyn y budd-dal ar yr amod eich bod yn cwrdd â’r amodau.

Os ydych eisoes yn hŷn na 65, nid ydych yn medru cyflwyno cais newydd am TAP. Bydd rhaid i chi hawlio Lwfans Mynychu.

Meini prawf – byw a bod yn bresennol

Er mwyn cwrdd â’r meini prawf byw a bod yn bresennol, rhaid i chi fod:

  • Ym Mhrydain Fawr
  • Wedi bod ym Mhrydain Fawr am 104 wythnos yn y tair blynedd ddiwethaf, a
  • Yn ‘trigo fel arfer' yn y DU. Mae hyn yn golygu eich bod yn bwriadu aros yn barhaol yn y DU, Gweriniaeth Iwerddon, Ynys Manaw neu Ynysoedd y Sianel.

Mae yna rai eithriadau pan fyddwch yn medru hawlio TAP os nad ydych ym Mhrydain Fawr. Mae hyn yn medru cynnwys bod yn y Lluoedd Arfog neu os ydych i ffwrdd o Brydain Fawr dros dro.

Y cyfnod cymhwyso

Rhaid i chi:

  • Cwrdd â’r meini prawf anabledd dri mis cyn bod eich cais yn dechrau, a
  • Yn debygol o gwrdd â’r meini prawf anabledd am naw mis ar ôl i’ch cais i ddechrau.

Mae hyn yn golygu bod yr Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu ar eich cais bob 12 mis, gan ystyried y 3 mis blaenorol a’r 9 mis sydd i ddilyn. Mae’n rhaid iddynt roi ystyriaeth i’r ffaith os yw eich salwch yn newid dros amser.

.

 

“Mae rhaid iddynt roi ystyriaeth i’r ffaith os yw eich salwch yn newid dros amser.

Gweithgareddau byw’n ddyddiol a symudedd

Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau fod yn fodlon eich bod yn cael problemau gyda gweithgareddau penodol o ran byw’n ddyddiol neu symudedd. Mae’r gweithgareddau yma fel a ganlyn:

 

Gweithgareddau byw’n ddyddiol

  • Paratoi bwyd
  • Bwyta neu yfed
  • Rheoli therapi neu fonitro cyflwr iechyd
  • Golchi ac ymolchi
  • Rheoli anghenion mynd i’r tŷ bach neu anaymataliaeth
  • Gwisgo a dadwisgo
  • Cyfathrebu ar lafar
  • Darllen a deall arwyddion, symbolau a geiriau
  • Cysylltu wynebi wyneb gyda phobl eraill
  • Gwneud penderfyniadau am eich arian a’ch cyllideb

Gweithgareddau symudedd

  • Cynllunio a mynd ar deithiau
  • Symud o gwmpas

 

Mae pob gweithgaredd yn meddu ar nifer o ddatganiadau. Os yw datganiad yn berthnasol i chi, byddwch yn sgorio pwyntiau. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu pa ddatganiad sydd yn fwyaf addas ar gyfer eich sefyllfa. Byddwch yn cael swm penodol o bwyntiau ar gyfer pob gweithgaredd, a hynny o 0 i 12.

Bydd cyfanswm y pwyntiau yr ydych yn sgorio ar gyfer pob grŵp o weithgareddau yn helpu i benderfynu a ydych yn gymwys i dderbyn TAP a faint o arian y byddwch yn derbyn.

Er mwyn derbyn yr elfen cyfradd byw dyddiol safonol, mae angen i chi sgorio cyfanswm sydd rhwng 8 ac 11 pwynt ar gyfer y gweithgareddau byw’n ddyddiol. Rydych angen 12 pwynt er mwyn sicrhau’r gyfradd uwch.

Er mwyn sicrhau'r elfen symudedd cyfradd safonol, mae angen i chi sgorio cyfanswm sydd rhwng 8 ac 11 pwynt ar gyfer y gweithgareddau symudedd. Rydych angen 12 pwynt er mwyn sicrhau’r gyfradd uwch.  

 

 

Stori Karl

Mae Karl yn dioddef o orbryder ac iselder. Anaml iawn y mae’n gadael y tŷ heb gwmni ac nid yw’r ateb y ffȏn neu’r drws oni bai ei fod yn gwybod pwy sydd yn galw. Mae’n pryderi ynglŷn â siarad gyda phobl yn sgil y ffaith ei fod yn ddioddef pyliau o banig.

Mae Karl yn medru siarad gyda phobl pan ei fod yng nghwmni ei weithiwr cymdeithasol. Mae’n canfod pethau’n anodd ond yn gwybod y bydd y gweithiwr cymdeithasol yn ei helpu i bwyllo os yw’n cael pwl o banig.  

Mae’r Adran Waith a Phensiynau o bosib yn mynd i roi 4 pwynt i Karl am y gweithgaredd byw’n ddyddiol ‘Ymgysylltu gyda phobl eraill wyneb i wyneb’. Mae hyn yn sgil y ffaith bod Karl angen cymorth cymdeithasol er mwyn siarad gyda phobl eraill wyneb i wyneb.

Byddai Karl angen sgorio o leiaf pedwar pwynt pellach ar y gweithgareddau byw’n ddyddiol eraill er mwyn sicrhau'r elfen byw’n ddyddiol ar y gyfradd safonol

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw TAP?
  2. Beth os wyf yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)?
  3. Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  4. Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  5. Sut wyf yn gwneud cais?
  6. Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  7. A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
  8. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
  9. A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
  10. A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
  11. Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid tra’n derbyn Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  12. A oes rhywun yn medru gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP) ar fy rhan?
  13. Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
  14. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau