Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/04/2021

Beth yw TAP?

  1. Beth yw TAP?
  2. Beth os wyf yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)?
  3. Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  4. Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  5. Sut wyf yn gwneud cais?
  6. Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  7. A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
  8. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
  9. A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
  10. A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
  11. Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid tra’n derbyn Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  12. A oes rhywun yn medru gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP) ar fy rhan?
  13. Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
  14. Camau nesaf
Mae Taliad Annibynnol Personol (TAP) yn fudd-dal anabledd sydd yn cael ei dalu i bobl rhwng 16 a 64 mlwydd oed. Mae wedi disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl (LBA) ar gyfer pobl sydd yn 16 mlwydd oed a’n hŷn.

Personal independence payment

Mae Taliad Annibynnol Personol (TAP) yn fudd-dal anabledd sydd yn cael ei dalu i bobl rhwng 16 a 64 mlwydd oed. Mae wedi disodli’r Lwfans Byw i’r Anabl ar gyfer pobl sydd yn 16 mlwydd oed a’n hŷn. Os ydych yn hŷn na 16 mlwydd oed, nid ydych yn medru cyflwyno cais newydd am Lwfans Byw i’r Anabl Bydd yr holl geisiadau newydd ar gyfer TAP.

Mae modd i chi dderbyn TAP os oes gennych gyflwr iechyd neu gorfforol sydd yn effeithio ar eich bywyd bob dydd. Mae hyn yn medru cynnwys y canlynol:

  • Siarad gyda phobl eraill
  • Siopa a thalu biliau
  • Cynllunio a mynd ar deithiau
  • Paratoi bwyd a bwyta
  • Golchi ac ymolchi
  •  

Mae’r TAP yn cynnwys dwy ran, sy’n cael eu hadnabod fel elfennau. Y rhain yw:

  • Elfen byw’n ddyddiol, a
  • Elfen symudedd.

 

Mae pob elfen yn cael ei thalu ar y gyfradd safonol neu uwch. Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn defnyddio system pwyntiau er mwyn cadarnhau a ydych yn medru derbyn yr elfennau ar y gyfradd safonol neu uwch. Maent yn rhoi pwyntiau i chi os nad ydych yn medru gwneud gweithgareddau penodol. 

Symiau wythnosol ers Ebrill 2017

Elfen byw’n ddyddiol

  • Cyfradd safonol - £60
  • Cyfradd uwch - £89.60

Elfen symudedd

  • Cyfradd safonol - £23.70
  • Cyfradd uwch - £62.55

Nid yw TAP yn cael ei effeithio gan eich incwm, cyfalaf neu gynilion. Mae modd i chi hawlio’r swm lawn o TAP, a hynny ar ben unrhyw fudd-daliadau neu gredydau treth eraill. Ond mae TAP yn medru effeithio ar Lwfans Mynychu Parhaus neu’r taliad symudedd ychwanegol a dderbynnir fel rhan o bensiwn rhyfel.  

Mae TAP yn cael ei dalu yn syth i’ch banc, cymdeithas adeiladu neu swyddfa bost bob 4 wythnos.

 

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw TAP?
  2. Beth os wyf yn hawlio Lwfans Byw i’r Anabl (LBA)?
  3. Pwy sydd yn medru hawlio Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  4. Sut y byddaf yn cael fy asesu ar gyfer Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  5. Sut wyf yn gwneud cais?
  6. Pa gwestiynau sydd ar y ffurflen ‘Sut y mae eich anabledd yn effeithio arnoch’
  7. A ddylem drefnu tystiolaeth atodol?
  8. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol wyneb i wyneb?
  9. A wyf yn medru apelio os wyf yn credu fod y penderfyniad yn anghywir
  10. A oes angen i mi siarad gyda chynghorydd lles?
  11. Beth sydd yn digwydd os yw fy iechyd yn newid tra’n derbyn Taliad Annibynnol Personol (TAP)?
  12. A oes rhywun yn medru gwneud cais am Daliad Annibynnol Personol (TAP) ar fy rhan?
  13. Gwybodaeth am Daliad Annibynnol Personol (TAP)
  14. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau