Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/04/2021

Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf

Rydych yn medru gwneud peth gwaith tra’n hawlio a dal derbyn yr un swm o LCCh! Mae hyn yn cael ei alw’n waith a ganiateir. Mae unrhyw waith a wneir yn cael ei ganiatáu os ydych yn ennill llai na £20 yr wythnos, ac mae modd i chi wneud gwaith os ydych yn ennill llai na £143 yr wythnos ac yn gweithio llai na 16 awr yr wythnos.

Rydych yn medru gwneud peth gwaith tra’n hawlio a dal derbyn yr un swm o LCCh!

Roedd yna reol 52 wythnos gynt ar gyfer pobl yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith a oedd yn datgan fod ond modd i chi wneud gwaith a ganiateir yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith am gyfnod nad oedd yn fwy na 52 wythnos. Nid yw’r rheol yma wedi bodoli ers 17eg Ebrill, ac felly ers y dyddiad hwn, mae’r sawl sydd yn hawlio LCCh yn medru gwneud gwaith a ganiateir am gyn hired ag y dymunant!

Gwaith a ganiateir â chymorth

Mae gwaith a ganiateir â chymorth yn waith sydd yn rhan o’ch triniaeth neu wedi ei oruchwylio gan rywun sydd yn trefnu gwaith i bobl anabl.

Efallai bod hyn yn rhywun o’r awdurdod lleol neu fudiad gwirfoddol, ac ar yr amod nad ydych yn ennill mwy na £143 yr wythnos, mae’n cynnig y cyfle i chi wneud gwaith a ganiateir â chymorth heb fod hyn yn effeithio ar eich LCCh.

Mae’n bwysig nodi fod angen i chi ddweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau os ydych yn gwneud unrhyw waith a ganiateir â chymorth. Os ydynt yn credu bod eich gallu i weithio wedi newid, efallai y byddant yn gofyn i chi wneud asesiad arall o ran gallu i weithio.    

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau