Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw Rhaglen Waith?

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf

Os ydych wedi bod yn cael trafferthion gyda’ch iechyd meddwl, mae’r Rhaglen Waith yma i ddarparu cymorth i’ch helpu chi ddychwelyd i’r gwaith. Os ydych yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith, efallai y bydd rhaid i chi gymryd rhan, ond os ydych yn y grŵp cymorth, mae cymryd rhan yn benderfyniad i chi.

Mae mudiadau gwahanol yn cynnal y Rhaglen Waith mewn ardaloedd gwahanol ond mae’r mudiadau yma yn cael eu galw’n ‘ddarparwyr’. Os ydych yn mynd i’r Rhaglen Waith, byddwch yn cael cyfarfod ag un o’r darparwyr yma er mwyn trafod beth fydd yn eich helpu i fynd yn ôl i’r gwaith a gallwch ofyn am gymorth gyda:

  • Sgiliau sylfaenol ar gyfer mathemateg neu ysgrifennu,
  • Adeiladu hyder,
  • Sut i lunio CV, a
  • Rheoli afiechyd meddwl yn y gweithle.

Bydd y darparwr yn gwybod am y cyfleoedd hyfforddi a gwaith yn eich ardal, ac felly, maent yn y sefyllfa orau bosib i’ch helpu chi.

 

 

Beth fydd yn digwydd os nad wyf yn mynd i’r cyfweliad?

Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn gofyn i chi fynd am gyfweliad yn ffocysu ar waith neu Raglen Waith, rhaid i chi fynd, ac os nad ydych yn mynd, efallai y bydd eich LCCh yn cael ei leihau - mae hyn yn cael ei alw’n gosb.

Os oes rheswm da gennych am fethu cyfarfod, yna sicrhewch eich bod yn dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau cyn gynted ag eich bod yn gwybod nad ydych yn medru mynychu’r cyfarfod. Os nad ydych yn dweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau am unrhyw apwyntiad sydd wedi ei golli, byddant yn cysylltu gyda chi.

Mae pum diwrnod gwaith gennych i ddweud wrth yr Adran Waith a Phensiynau, drwy ddanfon llythyr yn y post, pam nad oeddech yn medru mynychu cyn iddynt leihau eich LCCh, er bod y cyfnod hwn yn medru bod yn llai na phum diwrnod os:

  • mae’r Adran Waith a Phensiynau yn medru cysylltu gyda chi ar y ffȏn neu wyneb i wyneb, neu
  • rydych wedi cytuno bod modd iddynt gysylltu gyda chi ar neges destun neu e-bost.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau