Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf

Work capability assessment

Mae’r Adran Waith a Phensiynau yn defnyddio prawf a elwir yn “Asesiad Gallu i Weithio” (AGiW) er mwyn penderfynu a ydych yn medru derbyn y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth – mae dwy ran i’r AGiW. Rhaid llenwi holiadur iechyd ESA50 yn gyntaf, ac yna bydd gofyn i chi fynychu asesiad wyneb i wyneb.

 Mae’r AGiW yn medru cymryd 13 wythnos o leiaf, a dyma’r ‘cyfnod asesu’. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn gorfod danfon ‘nodiadau ffitrwydd’ o’ch Meddyg Teulu at yr Adran Waith a Phensiynau sydd yn datgan nad ydych yn ddigon da i weithio. Os ydy’ch ‘nodyn ffitrwydd’ yn dod i ben cyn bod yr Adran Waith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad am eich cais, bydd angen i chi drefnu nodyn newydd; fel arall, bydd eich budd-dal yn dod i ben.  

Yr holiadur iechyd – ffurflen ESA50

Wedi i’ch cais ddechrau, byddwch yn derbyn ffurflen ESA50. Mae hwn yn holiadur sydd yn gofyn i chi sut y mae eich salwch yn eich gwneud hi’n fwy anodd i chi weithio. Mae modd i chi ddarllen mwy o wybodaeth fanwl am yr holiadur ESA50 yn yr adran Asesiad Gallu i Weithio.

Mae yna lythyr gyda’r ffurflen y mae’n rhaid i chi ddanfon nôl at yr Adran Waith a Phensiynau ond rhaid i chi i roi gwybod i’r Adran Waith a Phensiynau os nad ydych yn medru cwblhau’r ffurflen erbyn y dyddiad hwnnw a pham bod angen mwy o amser arnoch.  

Mae cynghorydd budd-daliadau o bosib yn medru eich helpu gyda’ch cais.

 

Tystiolaeth gefnogol

Mae modd i chi gael tystiolaeth feddygol gefnogol gan weithiwr iechyd proffesiynol megis meddyg. Er nad oes rhaid i chi wneud hyn, mae’n medru helpu cynorthwyo’r Adran Waith a Phensiynau i ddangos nad ydych yn ddigon ffit i weithio.

Gofynnwch i rywun sydd yn eich adnabod yn dda yn y GIG neu wasanaethau cymdeithasol i ysgrifennu llythyr i’r Adran Waith a Phensiynau er mwyn cefnogi eich cais. Mae hyn yn medru cynnwys eich Meddyg Teulu, Nyrs Seiciatryddol Gymunedol, Gweithiwr Cymdeithasol neu Weithiwr Cymorth.

Gofynnwch i rywun sydd yn eich adnabod yn dda yn y GIG neu wasanaethau cymdeithasol i ysgrifennu llythyr i’r Adran Waith a Phensiynau er mwyn cefnogi eich cais.

 

Rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau i ystyried unrhyw dystiolaeth gefnogol a gyflwynir er mwyn cefnogi eich cais gan fod modd iddynt ddefnyddio hyn er mwyn helpu i wneud penderfyniad. Danfonwch gopïau o’ch tystiolaeth a chadwch y copïau gwreiddiol yn ddiogel, gan eu hatodi at yr ESA50 neu’u danfon ar wahân os oes angen.  

Mae’r dystiolaeth yn medru esbonio nid yn unig sut y mae eich cyflwr yn medru ei gwneud hi'n fwy anodd i chi weithio ond yr hyn a fyddai’n digwydd i’ch iechyd pe baech yn dechrau chwilio am waith, a sut ydych yn cwrdd â’r meini prawf ar gyfer y LCCh – nid yw llythyr sydd yn datgan eich diagnosis a’ch symptomau yn ddigonol.

Cofiwch ysgrifennu’r wybodaeth ganlynol ar unrhyw waith papur yr ydych yn danfon.

  • Enw
  • Cyfeiriad
  • Rhif Yswiriant Cenedlaethol
  • Rhif cais, os ydych yn gwybod y rhif.

Asesiad meddygol

Yn eich asesiad meddygol, byddwch yn gweld gweithiwr iechyd proffesiynol megis Nyrs, Seicotherapydd, Therapydd Galwedigaethol neu Feddyg, er bod hyn yn llai tebygol.

Yn eich asesiad meddygol, byddwch yn gweld gweithiwr iechyd proffesiynol megis Nyrs, Seicotherapydd, Therapydd Galwedigaethol neu Feddyg

Os ydych am siarad gydag arbenigwr iechyd meddwl, byddwch yn eglur am hyn pan yn llenwi’r ffurflen ESA50. Nid yw hyn yn sicr o ddigwydd ond bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn ystyried hyn.

Bydd y gweithiwr proffesiynol yn gofyn cwestiynau i chi am eich iechyd ac yn ysgrifennu adroddiad am yr hyn yr ydych yn ei ddweud - unwaith y bydd gan yr Adran Waith a Phensiynau'r wybodaeth sydd angen arnynt, byddant yn penderfynu a ydych yn mynd i dderbyn y LCCh ai peidio.

Mewn achosion prun, efallai y bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn penderfynu eich bod cwrdd â’r meini prawf am LCCh, a hynny’n seiliedig ar yr ESA50 a’ch tystiolaeth feddygol yn unig; os yw hyn yn digwydd, ni fydd angen i chi fynd am asesiad meddygol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r LCCh
  2. Sut allaf wneud cais?
  3. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  4. Beth yw’r grwpiau o LCCh
  5. Beth yw Rhaglen Waith?
  6. Pa waith y mae hawl gennyf ei wneud tra’n derbyn LCCh?
  7. A wyf yn medru apelio os ydw i'n credu bod y penderfyniad am y LCCh yn anghywir ?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau