Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/09/2019

Beth yw’r Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio?

  1. Beth yw gofal preswyl ac a fydd yn rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyfalaf a sut y mae’r awdurdod lleol yn asesu hyn?
  3. Sut y bydd yr awdurdod lleol yn asesu fy incwm?
  4. Beth yw’r uchafswm y bydd rhaid i mi dalu?
  5. Beth yw ffioedd atodol?
  6. Beth yw’r Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio?
  7. Y Ddeddf Iechyd Meddwl ac ôl-ofal adran 117
  8. Beth os nad wyf yn medru fforddio’r ffioedd?
  9. Camau nesaf

Os ydych yn symud i gartref gofal, efallai y bydd hyn yn dod yn gartref i chi am weddill eich bywyd. Os ydych yn berchen eiddo sydd yn cael ei ystyried yn ‘gyfalaf’, bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i chi dalu am gost y cartref gofal.

Mae hyn golygu eich bod o bosib yn gorfod talu am eich gofal. Mae Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio yn caniatáu i chi oedi’r broses o werthu eich cartref er mwyn talu am eich gofal.

Rhaid i chi gwrdd â’r tri maen prawf yma er mwyn sicrhau Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio. Rhaid i chi:

  • Meddu ar anghenion sydd ond yn medru cael eu diwallu mewn cartref gofal
  • Sicrhau nad ydych yn meddu ar eiddo sydd yn werth £50,000 ac eithrio eich cartref; a
  • Yn anghymwys ar gyfer diystyru cyfalaf e.e. lle y byddai eich partner yn parhau i fyw yn eich cartref

Mae yna rai adegau pan fyddant dal yn gwrthod rhoi Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio, er enghraifft os yw gwerth eich tŷ yn isel.

Os nad ydych yn cwrdd â’r holl feini prawf ar gyfer Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio, rydych yn medru gofyn am un ond nid oes rhaid i’r awdurdod lleol i roi un i chi.

Byddech yn defnyddio eich cartref fel diogelwch ar gyfer Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio, yn union fel morgais. Rydych ei angen er mwyn ei werthu yn hwyrach er mwyn talu am gost y gofal. Mae’r Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio yn medru parhau nes i chi farw. Ar y pwynt hwn, bydd yr awdurdod lleol yn hawlio cost eich gofal ar ôl gwerthu eich tŷ. Bydd modd iddynt ofyn am log ar y Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio, ac felly, bydd y swm yn medru cynyddu gyda threigl amser. Dylech ofyn am gyngor ariannol annibynnol cyn dewis Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio.

 

Byddech yn defnyddio eich cartref fel diogelwch ar gyfer Cytundeb Talu Wedi’i Ohirio, yn union fel morgais. Rydych ei angen er mwyn ei werthu yn hwyrach er mwyn talu am gost y gofal.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal preswyl ac a fydd yn rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyfalaf a sut y mae’r awdurdod lleol yn asesu hyn?
  3. Sut y bydd yr awdurdod lleol yn asesu fy incwm?
  4. Beth yw’r uchafswm y bydd rhaid i mi dalu?
  5. Beth yw ffioedd atodol?
  6. Beth yw’r Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio?
  7. Y Ddeddf Iechyd Meddwl ac ôl-ofal adran 117
  8. Beth os nad wyf yn medru fforddio’r ffioedd?
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau