Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
06/09/2019

Beth yw cyfalaf a sut y mae’r awdurdod lleol yn asesu hyn?

  1. Beth yw gofal preswyl ac a fydd yn rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyfalaf a sut y mae’r awdurdod lleol yn asesu hyn?
  3. Sut y bydd yr awdurdod lleol yn asesu fy incwm?
  4. Beth yw’r uchafswm y bydd rhaid i mi dalu?
  5. Beth yw ffioedd atodol?
  6. Beth yw’r Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio?
  7. Y Ddeddf Iechyd Meddwl ac ôl-ofal adran 117
  8. Beth os nad wyf yn medru fforddio’r ffioedd?
  9. Camau nesaf

Mae cyfalaf yn medru cynnwys adeiladau, tir bondiau premiwm, cyfranddaliadau a chynilion sydd gennych. Efallai eich bod yn berchen ar eiddo gyda rhywun arall. Oni bai am dir, bydd yr awdurdod lleol yn eich trin fel pe baech yn berchen ar hanner yr eiddo, hyd yn oed os nad ydych yn cyfrannu rhyw lawer tuag ato. Bydd hyn yn newid os oes yna dystiolaeth yn dangos nad ydych yn berchen ar hanner yr adeilad.

Mae’r rheolau am yr hyn sydd yn cael ei ystyried fel cyfalaf a’r hyn na sy’n cael ei ystyried yn gyfalaf, yn gymhleth. Bydd peth o’r cyfalaf yn cael ei ddiystyru, neu’n cael ei ddiystyru am gyfnodau o amser, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau.

Ni fydd eich prif gartref yn cael ei ystyried fel cyfalaf os ydych angen aros mewn cartref gofal preswyl am gyfnod byr.

Ni fydd eich prif gartref yn cael ei ystyried fel cyfalaf os ydych angen aros mewn cartref gofal preswyl am gyfnod byr.

Os ydych angen symud i gartref gofal preswyl yn barhaol, bydd gwerth eich cyn-dŷ yn cael ei ystyried fel cyfalaf a’i ystyried fel rhan o’r asesiad ariannol.

Fodd bynnag, ni fydd yn cyfrif fel cyfalaf os yw unrhyw un o’r bobl ganlynol yn byw yno cyn eich bod yn symud i’r cartref gofal:

  • Eich partner,
  • Eich cynbartner (ar yr amod eich bod yn gwpwl pan wnaethoch symud i’r cartref gofal),
  • Os yw eich cynbartner yn rhiant sengl,
  • Os oes aelod o’r teulu yn 60 neu’n hŷn,
  • Eich plentyn sydd o dan 18 mlwydd oed, neu
  • Aelod teulu sydd yn incapacitated.

Os nad yw eich cyfalaf yn cael ei ystyried, mae hyn yn cael ei adnabod fel cael eich ‘diystyru’.

Sut mae fy nghyfalaf yn effeithio ar faint y mae’n rhaid i mi dalu?

Os yw’r awdurdod lleol yn cadarnhau eich bod yn meddu ar fwy na £50,000 o gyfalaf, bydd rhaid i chi dalu am eich holl lety gofal preswyl. Os byddant yn gyfrifol am y gwasanaethau ble y byddwch yn byw, byddant yn codi tâl safonol. Os nad ydynt, byddant yn codi’r tâl y mae’r gwasanaethau hynny yn codi arnynt hwy.

Os oes gennych unrhyw asedau sydd ychydig yn uwch na’r uchafswm o £50,000, dylai’r awdurdod lleol ystyried am ba mor hir y bydd yn parhau. Maent angen cynllunio ar gyfer pan fydd eich asedau islaw’r uchafswm pan yn ceisio cadarnhau beth yw'r tâl y bydd rhaid i chi dalu.

Os yw eich cyfalaf yn is na £50,000, bydd hyn yn cael ei ddiystyru fel rhan o brawf modd yr awdurdod lleol ar gyfer darpariaeth gofal cartref. Felly, byddwch yn medru derbyn help gan eich awdurdod lleol tuag at eich ffioedd gofal cartref.

Er y dylid nodi nad oes rhaid i chi wneud unrhyw gyfraniad tuag at ffioedd cartref gofal o’ch cyfalaf sydd yn is na £50,000, bydd disgwyl i chi gyfrannu o’ch incwm o ddydd i ddydd.

Beth yw ystyr ‘cyfalaf tybiannol’?

Mae cyfalaf tybiannol yn gyfalaf y mae modd ei ystyried yn y prawf modd, hyd yn oed os nad ydych yn meddu ar y cyfalaf ar hyn o bryd.

Mae cyfalaf tybiannol yn medru cynnwys cyfalaf:

  • Efallai eich bod yn medru gwneud cais amdano, megis pensiwn
  • Yn cael ei dalu i rywun arall, yn hytrach nag i chi, neu
  • Rydych wedi cael gwared ar y cyfalaf er mwyn lleihau faint y mae’n rhaid i chi dalu (‘cyfalaf wedi’i amddifadu’)

Mae enghreifftiau o gyfalaf sydd wedi’i amddifadu yn medru cynnwys:

  • Rhoi arian i eraill fel rhodd
  • Gwario arian ar wyliau drud
  • Mwynhau ffordd o fyw moethus, a hynny os ydych wedi gwneud hyn ar bwrpas er mwyn manteisio ar y system.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal preswyl ac a fydd yn rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyfalaf a sut y mae’r awdurdod lleol yn asesu hyn?
  3. Sut y bydd yr awdurdod lleol yn asesu fy incwm?
  4. Beth yw’r uchafswm y bydd rhaid i mi dalu?
  5. Beth yw ffioedd atodol?
  6. Beth yw’r Cytundebau Talu Wedi’u Gohirio?
  7. Y Ddeddf Iechyd Meddwl ac ôl-ofal adran 117
  8. Beth os nad wyf yn medru fforddio’r ffioedd?
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau