Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf

Talu’n uniongyrchol

Rydych yn medru talu’n unionyrchol am eich triniaeth breifat ac mae hyn yn cael ei adnabod fel ‘hunan-dalu’. Mae rhai gwasanaethau yn cael eu cynnig fel rhan o gynlluniau neu fenthyciadau pris penodol neu efallai y bydd modd i chi dalu mewn rhandaliadau. Os ydych ar incwm isel, efallai y byddwch yn talu ffioedd is am rai mathau o driniaeth (er enghraifft, cwnsela).

Dylech ofyn am y ffioedd a’r costau cyn eich triniaeth. Dylech dderbyn amcanbris ymlaen llaw a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych yn medru fforddio’r gwasanaeth ai peidio cyn bwrw ymlaen gyda’r driniaeth.

 

Dylech ofyn am y ffioedd a’r costau cyn eich triniaeth. Dylech dderbyn amcanbris ymlaen llaw a fydd yn eich helpu i benderfynu a ydych yn medru fforddio’r gwasanaeth ai peidio cyn bwrw ymlaen gyda’r driniaeth.

Yswiriant meddygol / iechyd 

Os oes yswiriant meddygol neu iechyd gennych, gallwch geisio cadarnhau a yw’r polisi yswiriant yn fodlon talu am y driniaeth neu’r gofal sydd angen arnoch. Dylech ofyn i’ch cwmni yswiriant am hyn.

Ni fydd llawer o gwmnïau yswiriant yn fodlon talu am unrhyw gyflyrau iechyd meddwl sydd yn bodoli eisoes. Os ydynt yn gwneud hyn, efallai y bydd rhaid i dalu premiwm uwch (sef y swm yr ydych yn talu am eich yswiriant), neu mwy o ran y gost o hawlio. Mae hyn yn sgil y ffaith eu bod yn credu fod cyflyrau iechyd meddwl fel arfer yn ‘risg’ uwch.

Efallai bod y cwmni yswiriant hefyd yn meddu ar ei restr ei hun o arbenigwyr y mae’n rhaid i chi ddefnyddio. Efallai y bydd hyn yn cyfyngu ar eich dewis o ran pwy sydd yn medru eich trin.  

Mae’r rhan fwyaf o gwmnïau yswiriant angen i chi gael atgyfeiriad gan feddyg.

Faint y mae gofal iechyd meddwl preifat yn costio?

Bydd hyn yn amrywio, gan ddibynnu ar y math o driniaeth yr ydych angen neu’n dymuno, ble ydych yn mynd ac a oes yswiriant meddygol gennych. Dylech ystyried y canlynol:

  • Cost ymgynghoriad neu asesiad cychwynnol (sydd fel arfer rhwng £150 a £250),
  • Pa mor hir y byddwch angen y driniaeth,
  • Sawl sesiwn o driniaeth y bydd angen arnoch, a
  • P’un ai bod angen i chi aros mewn uned breswyl am driniaeth (mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu’n ychwanegol am lety, bwyd a phethau ychwanegol).

Beth am gyfrinachedd?

Mae cyfrinachedd yn golygu na ddylai’r gweithiwr proffesiynol yr ydych yn ei weld ddweud wrth bobl eraill am yr hyn yr ydych wedi trafod. Yr unig dro y mae modd iddynt wneud hyn yw os ydych yn rhoi caniatâd iddo neu os yw’n gwbl angenrheidiol (er enghraifft, os ydych wedi dweud eich bod yn mynd i niweidio rhywun).

Efallai y bydd eich darparwr gofal iechyd preifat yn cysylltu gyda’ch meddyg neu’ch tîm GIG er mwyn rhoi gwybod iddynt am eich triniaeth neu bethau eraill yr ydych yn eu trafod. Dylech siarad gyda hwy ymlaen llaw cyn hyn. Dylech ofyn i’ch darparwr gofal iechyd preifat am eu polisi cyfrinachedd pan eich bod yn eu gweld a’r hyn a olygir gan y polisi o ran dweud wrth wasanaethau’r GIG.

Os ydych yn credu bod eich darparwr gofal iechyd preifat wedi methu â chydymffurfio gyda hyn, gallwch gwyno. Ewch i ddarllen mwy am eich hawliau a sut i gwyno. Efallai eich bod am ofyn i’ch darparwr gofal iechyd preifat i weld copi o’u polisi cyfrinachedd.  

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau