Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf

Speak to your GP about your mental health

Cysylltwch gyda’ch Meddyg Teulu

Dylech siarad gyda’ch Meddyg Teulu os ydych yn ystyried derbyn gofal iechyd meddwl preifat. Efallai y bydd eich Meddyg Teulu yn medru rhoi manylion arbenigwr i chi yn y maes gofal yr ydych ei angen.

Os yw eich Meddyg Teulu yn credu eich bod angen triniaeth arbenigol a’ch bod am dalu am hyn yn breifat, maent yn medru ysgrifennu llythyr yn rhannu eich manylion gydag ymgynghorydd neu arbenigwr preifat, a’n esbonio eich cyflwr a’ch hanes meddygol. Mae hyn yn cael ei alw’n atgyfeiriad.

Nid yw rhai gwasanaethau gofal iechyd meddwl preifat angen atgyfeiriad gan eich Meddyg Teulu ond mae’n well ganddynt dderbyn hyn. Bydd eraill yn disgwyl i chi feddu ar atgyfeiriad, yn enwedig os ydych yn defnyddio yswiriant meddygol preifat.  

Os nad yw eich Meddyg Teulu yn credu eich bod angen triniaeth arbenigol, rydych yn medru rhoi cynnig ar hyn heb sicrhau adferiad. Mae’r Gymdeithas Feddygol Brydeinig yn dweud ei bod hi’n arfer gorau bod Meddygon Teulu yn atgyfeirio unigolion i driniaethau arbenigol yn y rhan fwyaf o achosion.

Mae darparwyr gofal iechyd meddwl preifat a’r GIG yn aml yn gweithio yn agos gyda’i gilydd. Efallai y bydd eich ymddiriedolaeth GIG yn trefnu bod ysbyty preifat lleol yn darparu triniaeth i gleifion GIG.

Chwilio ar-lein

Rydych yn medru canfod darparwr gofal iechyd meddwl preifat neu arbenigol drwy chwilio ar-lein.

Mae’r Gwasanaethau Cynghori Gofal Iechyd Meddwl Annibynnol yn cynnig rhestr o ddarparwyr gofal iechyd o dan gyfeirlyfr yr aelodau ar eu gwefan.

Mae rhai mudiadau yn gosod safonau ar gyfer arfer gorau. Maent yn cael eu hadnabod fel ‘cymdeithasau proffesiynol’ neu ‘gyrff swyddogol’. Gallwch roi cynnig ar gysylltu gyda’r cymdeithasau proffesiynol neu’r cyrff yma ar gyfer maes y driniaeth. Mae rhai o’u gwefannau yn meddu ar gyfeirlyfrau lle y mae modd i chi chwilio am arbenigwyr preifat. Er enghraifft, mae’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Cwnsela a Seicotherapi yn gosod safonau ar gyfer practis therapiwtig ac yn cynnig rhestr o therapyddion cofrestredig.

Mae’r Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Cwnsela a Seicotherapi yn gosod safonau ar gyfer practis therapiwtig ac yn cynnig rhestr o therapyddion cofrestredig.

Defnyddio cyfeirlyfr ffȏn

Rydych y medru chwilio am ddarparwyr gofal iechyd preifat mewn cyfeirlyfrau sydd wedi eu hargraffu neu ar-lein. Rydych yn medru rhoi cynnig ar gyfeirlyfr BT, Yellow Pages neu’r Thomson Local.

Cysylltu gyda gwasanaeth GIG arbenigol

Mae rhai gwasanaethau neu unedau GIG yn darparu gofal a thriniaeth arbenigol ar gyfer afiechydon penodol. Gallwch gysylltu gyda’r gwasanaethau yn uniongyrchol a gofyn a oes rhywun yn gweithio’n breifat hefyd.

Nid oes hawl gan feddygon GIG i hysbysebu eu gwasanaethau preifat i gleifion GIG, ac eithrio pan fydd y driniaeth ond ar gael yn breifat. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi ofyn os am gadarnhau a yw meddyg yn medru eich trin yn breifat.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau