Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw fy hawliau?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf

Pan eich bod yn prynu gofal iechyd meddwl preifat, rydych yn prynu gwasanaeth. Yn ôl y gyfraith, rhaid i’ch darparwr gofal iechyd meddwl preifat lynu wrth bob dim y mae’r ddau ohonoch wedi cytuno ag ef. Mae hyn yn cael ei adnabod fel cytundeb.  

Os ydych yn cael problemau gyda’r gwasanaeth yr ydych wedi derbyn, rydych yn medru cwyno. Efallai eich bod am gwyno am resymau gwahanol.

Sut i wneud cwyn gyffredinol

Yn gyntaf, dylech gysylltu gyda’r person yr ydych wedi ei weld am driniaeth. Bydd eich darparwr gofal iechyd o bosib yn meddu ar adran gwyno eu hunain sydd yn medru delio gyda’ch cwyn. Rydych hefyd yn medru gofyn am gopi o’r weithdrefn gwyno. Dylech esbonio yn ysgrifenedig pam eich bod wedi cwyno, yr hyn sydd wedi digwydd a sut yr hoffech iddynt ddelio gyda’r broblem.

Dylech esbonio yn ysgrifenedig pam eich bod wedi cwyno, yr hyn sydd wedi digwydd a sut yr hoffech iddynt ddelio gyda’r broblem.

Mae’n well eich bod yn gwneud cwyn yn ysgrifenedig, naill ai mewn llythyr neu e-bost. Dylech gadw copi o unrhyw lythyron neu e-byst. Os ydych yn siarad gydag unrhyw un ar y ffȏn neu wyneb i wyneb, cadwch gofnod o’r person y gwnaethoch siarad gyda hwy, yr hyn a drafodwyd a’r dyddiad a’r amser.  

Cysylltu gyda chymdeithasau proffesiynol

Rhaid bod yr holl feddygon (er enghraifft Meddygon Teulu a seiciatryddion) wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol (CMC). Mae’r CMC yn sicrhau bod meddygon yn cwrdd â’r safonau newydd a ddisgwylir o ran practis meddygol da.

Os ydych yn pryderi am eich meddyg, gallwch gysylltu gyda’r GMC.

Rydych hefyd yn medru cysylltu gyda’r cymdeithasau proffesiynol neu’r corff sydd yn goruchwylio’r math o driniaeth yr ydych yn derbyn.

Sut i wneud cwyn am esgeulustod

Os ydy’r gofal yr ydych wedi derbyn wedi bod yn is na’r safon yr oeddech yn ei disgwyl ac wedi achosi anaf corfforol neu seicolegol, efallai eich bod yn medru gwneud cais am esgeulustod clinigol.  

Mae modd i chi gael iawndal ariannol os ydych yn ennill yr achos. Mae’n medru bod yn anodd profi esgeulustod clinigol a bydd angen i chi ofyn am gyngor cyfreithiol.

Rydych yn medru cael cyngor gan Action Against Medical Accidents. Maent yn dîm o weithwyr achos sydd wedi eu hyfforddi’n feddygol a’n gyfreithiol ac yn medru cynnig cyngor am ddim a chymorth sy’n ymwneud â gwneud cais am esgeulustod clinigol.  

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau