Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf

Mae’r GIG yn cynnig triniaeth neu ofal ar gyfer eich anghenion iechyd meddwl ond efallai yr ydych yn dymuno derbyn gofal iechyd preifat am y rhesymau isod.

Dewis gwell o ran pryd ydych yn cael eich trin ac amseroedd aros byrrach

Mae’r GIG yn aml yn meddu ar amseroedd aros hir. Rydych yn medru derbyn gofal iechyd preifat yn gyflym a threfnu ymgynghoriad neu apwyntiad ar amser sydd yn gyfleus i chi. Mae hyn yn golygu amseroedd aros byrrach a mwy o hyblygrwydd ynglŷn â phryd ydych yn cael eich gweld.

Dewis o ble ydych yn cael eich trin

Os ydych angen triniaeth neu ofal ar gyfer eich iechyd meddwl, rydych ond yn medru derbyn help fel arfer gan y GIG sydd yn yr ardal yr ydych yn byw ynddi. Dyma’r hyn sy’n digwydd oni bai eich bod angen triniaeth ar frys neu’n derbyn triniaeth mewn ardal arall. Mae hyn yn sgil y modd y caiff y GIG ei ariannu. Fel arfer, rydych yn medru derbyn help preifat mewn ardal sydd yn fwy cyfleus i chi.

Dewis o bwy ydych yn ei weld

Mae mynd yn breifat yn golygu eich bod yn medru dewis ‘arbenigwr’ (er enghraifft meddyg neu therapydd).

Yr opsiwn i dderbyn triniaeth na sydd ar gael o bosib ar y GIG

Weithiau, nid yw'r GIG yn medru cynnig pob math o driniaeth. Er enghraifft, efallai y byddwch angen math penodol o therapi siarad na sy’n cael ei gynnig gan y GIG yn eich ardal.

Os nad yw’r GIG yn cynnig math penodol o driniaeth sydd yn cael ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal, rydych dal yn medru gwneud cais am hyn drwy gyfrwng ‘cais cyllid unigol’.

Os nad ydych yn medru cael gafael ar driniaeth benodol ar y GIG, efallai eich bod am ystyried derbyn y driniaeth hon yn breifat.

Beth ddylem ystyried cyn gwneud penderfyniad?

Y gost

Mae gofal iechyd meddwl preifat fel arfer yn rhywbeth go ddrud. Rydych yn medru canfod mwy o wybodaeth am dalu am ofal iechyd meddwl preifat yma.

Eich gofal a thriniaeth gyda’r GIG

Os ydych yn derbyn triniaeth breifat, rydych dal yn medru derbyn gofal gan y GIG ond mae’r GIG yn annhebygol iawn o gynnig yr un driniaeth i chi. Mae hyn er mwyn sicrhau nad ydych yn derbyn yr un driniaeth ddwywaith. Dylai arbenigwyr preifat ysgrifennu at eich Meddyg Teulu er mwyn eu diweddaru ar ôl i chi dderbyn triniaeth breifat. Rydych yn medru canfod mwy o wybodaeth am hyn.

P’un ai bod y person yr ydych yn ei weld yn achrededig neu’n gofrestredig

Os ydych yn penderfynu mynd i weld rhywun sydd yn cynnig gofal iechyd meddwl preifat, dylech ofyn iddynt am eu cymwysterau ac achrediadau. Mae bod yn achrededig yn golygu bod corff swyddogol wedi sicrhau bod y gwasanaeth a gynigir o safon uchel. Er enghraifft, nid oes rhaid i’r holl therapyddion i fod yn achrededig, ac felly, mae’n bwysig gwirio’n gyntaf.

Rhaid bod yr holl feddygon (er enghraifft Meddygon Teulu a seiciatryddion) oll wedi eu cofrestru gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol. Rydych yn medru gwirio er mwyn cadarnhau bod meddyg wedi ei gofrestru ar eu gwefan.

Ansawdd y gwasanaeth

Gwiriwch i weld a yw eich darparwr gofal iechyd meddwl preifat yn meddu ar sgoriau bodlonrwydd cleifion, adolygiadau neu adroddiadau. Mae’r Comisiwn Ansawdd Gofal yn cyhoeddi canlyniadau arolygiadau ysbytai ar gyfer ysbytai’r GIG a rhai preifat ar eu gwefan.

Derbyn ail farn breifat sydd wedi’i dderbyn gan GIG

Efallai y byddwch yn penderfynu gofyn am ail farn os oes cwestiynau gennych am eich diagnosis neu driniaeth iechyd meddwl. Mae rhai pobl yn penderfynu gofyn am ail farn gan nad yw’r GIG yn darparu hyn. Nid oes rhaid i wasanaethau GIG i dderbyn ail farn sydd wedi ei chomisiynu’r breifat, ac felly, dylech wirio gyda’ch tîm GIG yn gyntaf.

  

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal iechyd meddwl preifat?
  2. Pam fyddem yn dewis mynd yn breifat?
  3. Sut wyf yn cael mynediad at ofal iechyd meddwl preifat?
  4. Sut wyf yn talu am ofal iechyd meddwl preifat?
  5. Beth yw fy hawliau?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau