Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd gofyn i chi fynd am asesiad meddygol fel rhan o’r Asesiad Gallu i Weithio. Mae’r asesiad yn cael ei chynnal mewn canolfan asesu gan y Gwasanaeth Cynghori Asesu Iechyd. Bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol (meddyg neu nyrs fel arfer) yn gofyn i chi am eich diwrnod arferol ac ni fyddant o reidrwydd yn gofyn yr un cwestiynau ag sydd i’w gweld ar eich holiadur iechyd.

Sut ddylem baratoi?

Mae modd i chi baratoi am asesiad drwy wneud nodyn o’r hyn yr ydych am ddweud wrth yr aseswr. Defnyddiwch yr atebion sydd wedi eu gosod ar yr holiadur iechyd fel man cychwyn. Os nad ydych yn teimlo bod yr aseswr yn gofyn y cwestiynau perthnasol, yna mae modd i chi sicrhau eich bod yn medru dweud wrthynt sut y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch.

I rywun sydd â phroblem iechyd, nid oes y fath beth yn aml â ‘diwrnod normal’, ac felly, esboniwch os yw eich cyflwr yn newid.

I rywun sydd â phroblem iechyd, nid oes y fath beth yn aml â ‘diwrnod normal’, ac felly, esboniwch os yw eich cyflwr yn newid. Ar ddiwrnod da, rydych yn medru ymolchi a gwisgo er enghraifft, ond ar ddiwrnod gwael, rydych yn gorfod aros y gwely - gallech gadw dyddiadur am wythnos cyn yr asesiad er mwyn dangos hyn a nodi eich hwyl, lefel ysgogiad a pha dasgau bob dydd sydd wedi eu cwblhau’r wythnos honno. Gallwch hefyd ysgrifennu pa mor anodd yw hi i wneud y tasgau hynny.

Tystiolaeth gefnogol

Rydych yn medru cyflwyno copïau o unrhyw dystiolaeth gefnogol, gan na fydd yr aseswr yn meddu ar hyn bob tro os oeddech wedi ei ddanfon gyda’ch holiadur iechyd. Mae modd i chi ofyn iddynt i wneud copi a rhoi’r copïau gwreiddiol yn ôl i chi, gan y bydd hyn yn eu helpu i lunio eu hadroddiad meddygol.

A wyf yn medru mynd â rhywun gyda mi i’r asesiad?

Mae modd i chi fynd â rhywun gyda hi am asesiad os hoffech wneud hynny - mae hyn yn medru cynnwys gweithiwr proffesiynol megis Gweithiwr Cymdeithasol, ffrind neu berthynas gan eu bod yn meddu ar wybodaeth ynglŷn â sut y mae eich cyflwr yn effeithio arnoch o ddydd i ddydd fel bod modd iddynt ddweud wrth eich aseswr. Mae’r asesiad yn medru gosod straen arnoch ac mae’r man aros yn medru bod yn brysur ac yn swnllyd, ac felly, mae mynd â rhywun gyda chi yn medru eich cefnogi yn emosiynol ac ymarferol.  

Beth os wyf yn ei chanfod hi’n anodd teithio i’r ganolfan asesu yn sgil fy afiechyd?

Os nad ydych yn medru teithio i Ganolfan Asesu, mae modd i chi ofyn am asesiad yn y cartref.

Os nad ydych yn medru teithio i Ganolfan Asesu, mae modd i chi ofyn am asesiad yn y cartref. Rhaid i chi gysylltu gyda’r Gwasanaeth Cynghori Asesu Iechyd cyn eich apwyntiad a dylech nodi ar eich holiadur iechyd eich bod angen asesiad yn y cartref.

Bydd angen i chi gael tystiolaeth gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol megis Meddyg, Nyrs Seiciatryddol Gymunedol neu’r Gweithiwr Cymdeithasol er mwyn esbonio pam nad ydych yn medru teithio i Ganolfan Asesu. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei hystyried gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a byddant yn penderfynu a ydych angen ymweliad â’r cartref. 

Mae ymweliadau â’r cartref fel arfer ond yn cael eu cynnal pan nad ydych yn medru gadael eich cartref am unrhyw reswm; os ydych yn medru mynychu apwyntiadau gyda’r Meddyg Teulu, yna mae disgwyl i chi fedru mynychu asesiad yn y ganolfan asesu. Os ydych yn teimlo nad ydych yn medru mynychu, yna mae angen i chi esbonio sut y mae eich cyflwr yn eich atal rhag mynychu.  

A wyf yn medru cofnodi fy asesiad?

Nid oes hawl gyfreithiol gennych i gofnodi eich asesiad ac nid oes rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau ddarparu cyfarparu recordio, ond bydd yr Adran Waith a Phensiynau'n ceisio gwneud hyn os yn bosib. Rhaid i chi wneud cais am recordio’r sain cyn yr asesiad, a hynny cyn gynted ag sydd yn bosib ar ôl i chi gael gwybod am eich apwyntiad.  

Mae modd i chi fynd â’ch cyfarpar recordio eich hun ar yr amod fod hyn yn cwrdd â’r meini prawf canlynol.

  • Rhaid eich bod yn recordio ar CD neu ar dâp yn unig, ac nid oes modd defnyddio gliniaduron, ffonau, smartphones, llechi neu chwaraewyr MP3.
  • Nid oes hawl recordio ar fideo.
  • Rhaid bod modd i’r cyfarpar ddarparu dau gopi ar ddiwedd yr asesiad.
  • Rhaid rhoi un copi i weithiwr gofal iechyd proffesiynol yr Adran Waith a Phensiynau ar ddiwedd yr asesiad.
  • Rhaid i chi gwblhau ffurflen ganiatâd.
  • Nid oes hawl i chi geisio recordio’r asesiad yn gyfrinachol, ac os ydych yn ceisio gwneud hyn, efallai y byddwch yn colli eich budd-dal.

Beth fydd yr aseswr yn gofyn i mi?

Bydd yr aseswr yn gofyn rhai cwestiynau i chi am eich iechyd ond efallai y byddant yn gofyn cwestiynau cyffredinol megis:

  • Sut ydych wedi cyrraedd yma heddiw?
  • Beth fyddech yn ei wneud fel rhan o’ch diwrnod normal?
  • Beth oedd eich swydd olaf?
  • Pa gyflyrau sydd arnoch a pha driniaeth ydych yn derbyn?
  • Sut ydych yn cysgu?
  • A oes unrhyw ddiddordebau gennych?
  • Beth ydych yn ei wneud er mwyn cymdeithasu?
  • A oes ffȏn gennych?

Yn ateb cwestiynau

Rydych yn medru cymryd eich amser wrth ateb cwestiynau’r aseswr. Mae’n bwysig dweud wrthynt sut y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch. Efallai y bydd rhai o’r cwestiynau y maent yn gofyn i chi yn ymddangos yn hawdd, ond mae hawl gennych i gymryd munud neu ddwy i feddwl am ateb manwl.

Rydych yn medru cymryd eich amser wrth ateb cwestiynau’r aseswr. Mae’n bwysig dweud wrthynt sut y mae eich afiechyd yn effeithio arnoch. Efallai y bydd rhai i’r cwestiynau y maent yn gofyn i chi yn ymddangos yn hawdd, ond mae hawl gennych i gymryd munud neu ddwy i feddwl am ateb manwl. Er enghraifft, efallai y byddant yn gofyn i chi os ydych yn medru defnyddio ffȏn - efallai bod hyn yn ymddangos yn rhywbeth hawdd i ddechrau ond efallai bod eich gorbryder yn eich atal rhag gwneud hyn ar ddyddiau eraill. Drwy gymryd eich amser, rydych yn medru rhoi atebion mwy manwl i’r cwestiynau.

Efallai y byddant yn gofyn i chi sut ydych wedi cyrraedd yr asesiad meddygol ar y diwrnod hwnnw. Dylech ddweud wrthynt sut oeddech wedi cyrraedd yno a faint o ymdrech oedd hyn. Isod, mae rhai cwestiynau i’w hystyried:

  • A ydych wedi gorbryderi a phoeni am yr asesiad ddyddiau o flaen llaw?
  • A oeddech angen rhywun er mwyn sicrhau eich bod yn gwisgo a’n paratoi?
  • A oedd angen i rywun ddod gyda chi i’r apwyntiad hwn?
  • Beth fyddai wedi digwydd pe na baech wedi derbyn yr help?

Ar ôl yr asesiad

Pan ydych wedi gorffen yr asesiad meddygol, dylech wneud nodyn o’r canlynol:

  • Pa mor hir oeddech gyda’r asesydd,
  • Pa gwestiynau a ofynnwyd i chi, a
  • Yr atebion a roddwyd.

Mae’r wybodaeth hon yn medru bod yn ddefnyddiol i chi os ydych yn anghytuno gyda’r penderfyniad a wneir gan yr Adran Waith a Phensiynau ynglŷn â’ch budd-dal. Os ydych angen apelio, efallai eich bod angen y wybodaeth hon.

 

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw’r Asesiad Gallu i Weithio?
  2. Sut wyf yn cwblhau’r holiadur iechyd?
  3. A fydd rhaid i mi fynd am asesiad meddygol?
  4. Beth sydd yn digwydd nesaf?
  5. Beth yw’r grŵp cymorth neu’r elfen gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith?
  6. Beth yw’r grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith (GGYG)?
  7. Disgrifyddion yr holiadur iechyd
  8. Asesiad ar gyfer gallu cyfyngedig ar gyfer gweithgaredd yn ymwneud â gwaith
  9. Llythyr Enghreifftiol
  10. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau