Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?

  1. Sut wyf yn gwneud ewyllys?
  2. Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
  3. Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
  4. Pwy sydd yn arbenigo mewn ymddiriedolaethau ac afiechyd meddwl?
  5. Sut wyf yn medru dod o hyd i gyfreithiwr?
  6. Camau nesaf

Efallai y byddwch yn bryderus am allu eich perthynas i reoli swm o arian. Efallai y byddwch yn pendroni a fyddant:

  • Yn gwario’r arian yn gyflym yn hytrach na’n gofalu amdano,
  • Yn gwario’r arian yn synhwyrol,
  • Yn rhannu’r arian ag eraill neu’n methu â gofalu am yr arian,
  • Yn cael eu heffeithio o ran budd-daliadau, neu
  • Yn golygu bod rhaid iddynt orfod talu am ofal cymdeithasol neu gartref gofal.

 Budd-daliadau

Efallai y bydd eich perthynas yn hawlio budd-daliadau yn sgil incwm isel. Mae hyn yn cael ei alw’n ’fudd-daliadau sy’n ddibynnol ar brawf modd’ ac maent yn cynnwys:

Mae’r budd-daliadau yma yn cael eu heffeithio gan incwm, cynilion neu asedau y mae eich perthynas yn derbyn. Os oes ganddynt:

  • £6,000 neu’n fwy mewn cynilion, bydd hyn yn effeithio ar eu budd-daliadau, a
  • £16,000 neu’n fwy yn golygu na fyddant yn medru derbyn budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd

Byddai etifeddiaeth sydd yn cael ei dalu fel swm o arian yn dod yn rhan o gynilion eich perthynas. Mae hyn yn golygu bod derbyn swm o arian yn medru arwain at leihau eich budd-daliadau.  

Byddai etifeddiaeth sydd yn cael ei dalu fel swm o arian yn dod yn rhan o gynilion eich perthynas. Mae hyn yn golygu bod derbyn swm o arian yn medru arwain at leihau eich budd-daliadau.

Nid yw budd-daliadau eraill yn cael eu heffeithio gan incwm, cynilion neu asedau eraill o dan y rheolau budd-daliadau eraill. Mae’r rhain yn cael eu galw’n ‘non means-tested’. Maent yn cynnwys:

Mae’r budd-dal olaf hwn ond yn parhau am 12 mis os ydych yn y grŵp gweithgaredd yn ymwneud â gwaith. Nid oes yna gyfyngiad ar yr amser os ydych yn y grŵp cymorth.  

Os ydych angen gwybodaeth bellach am fudd-daliadau lles, gallwch gysylltu gyda Chyngor ar Bopeth. Os ydych am gael cyngor wyneb i wyneb, bydd eu gwefan yn nodi ble y mae eich swyddfa leol. Neu mae modd i chi eu ffonio a gofyn:

Cyngor ar Bopeth

Yn rhoi cyngor annibynnol ac am ddim am eich hawliau a’ch cyfrifoldebau.

Ffȏn: 03444 77 20 20

Gwefan: www.citzensadvice.org.uk

Gwasanaethau Cartrefi Gofal a Gofal Cymdeithasol

Os ydych yn meddu ar gynilion, mae hyn yn medru golygu bod eich perthynas o bosib yn gorfod talu costau os ydynt yn byw mewn cartref gofal neu’n derbyn gwasanaethau gofal cymdeithasol. Os ydych angen mwy o gyngor am hyn, mae modd i chi gysylltu gyda’ch cyngor lleol.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwneud ewyllys?
  2. Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
  3. Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
  4. Pwy sydd yn arbenigo mewn ymddiriedolaethau ac afiechyd meddwl?
  5. Sut wyf yn medru dod o hyd i gyfreithiwr?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau