Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?

  1. Sut wyf yn gwneud ewyllys?
  2. Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
  3. Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
  4. Pwy sydd yn arbenigo mewn ymddiriedolaethau ac afiechyd meddwl?
  5. Sut wyf yn medru dod o hyd i gyfreithiwr?
  6. Camau nesaf

Mae yna fathau gwahanol o ymddiriedolaethau. Mae ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn un math o ymddiriedolaeth yr ydych yn medru ei chanfod yn ddefnyddiol ar gyfer eich perthynas. Mae’n medru golygu:

  • Nid yw eich perthynas yn derbyn y taliad o ran yr etifeddiaeth yn syth pan eich bod yn marw,
  • Bydd eich arian a’ch asedau yn trosglwyddo i bobl eraill, a elwir yn ‘ymddiriedolwyr’, a
  • Mae’r ymddiriedolwyr yn dal yr arian a’ch asedau mewn ymddiriedolaeth ar gyfer eich perthynas.

Mae modd i chi ddewis pwy yw eich ymddiriedolwr. Mae’n bwysig eich bod yn dewis rhywun yr ydych yn credu sydd yn ddibynadwy

Mae modd i chi ddewis pwy yw eich ymddiriedolwr. Mae’n bwysig eich bod yn dewis rhywun yr ydych yn credu sydd yn ddibynadwy

Bydd yr ymddiriedolwyr yn penderfynu a ddylid rhoi arian i’ch perthynas neu beidio. Rydych yn medru rhoi cyfarwyddiadau i’r ymddiriedolwr yn amlinellu pryd y dylid rhoi arian i’ch perthynas. Ond maent yn medru penderfynu peidio â gwneud hyn – dyma pam fod hyn yn cael ei alw’n ‘ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn’.

Beth yw manteision ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn?

Mae manteision posib ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn medru cynnwys y canlynol.

  • Ni fydd eich perthynas yn berchen ar yr arian yn eich ymddiriedolaeth. Felly, ni fyddant yn medru ei wario’n gyflym neu heb resymeg
  • Ni fydd yr arian yn yr ymddiriedolaeth yn effeithio ar eu hawl i hawlio budd-daliadau neu’n cynyddu’r swm y maent yn gorfod talu tuag at ofal cymdeithasol, a
  • Gallwch ddweud wrth yr ymddiriedolwyr ar beth y dylid gwario ar yr arian.

Beth yw anfanteision ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn?

Mae’r anfanteision posib o ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn cynnwys y canlynol:

  • Nid oes rhaid i’r ymddiriedolwyr i dalu eich perthynas,
  • Efallai na fydd eich perthynas yn derbyn yr holl arian yn yr ymddiriedolaeth, a
  • Efallai bod yna rai anfanteision o ran treth ac mae angen i chi wirio hyn gyda’ch cyfreithiwr.

Sut wyf yn trefnu ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn?

Mae modd i chi drefnu ymddiriedolaeth drwy arwyddo gweithred ymddiriedolaeth. Dylid ceisio sicrhau bod y weithred ymddiriedolaeth yn cael ei lunio gan rywun sydd yn gymwys i wneud hyn, megis cyfreithiwr.  

Mae’n bwysig i chi siarad gyda rhywun sydd yn brofiadol yn delio gydag ewyllysiau ac ymddiriedolaethau. Maent yn medru sicrhau bod ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn cael ei drefnu mewn modd sydd yn:

  • Manteisio ar y manteision, a’n
  • Lleihau’r anfanteision.

Mae’n bwysig nodi fod y gyfraith yn newid. Felly, nid oes sicrwydd fod arian yn cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth yn ôl disgresiwn yn mynd i gael ei drin yn yr un ffordd yn y dyfodol.

Mae modd i chi ganfod mwy am ymddiriedolaethau ar wefan y Llywodraeth.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Sut wyf yn gwneud ewyllys?
  2. Beth os yw fy mherthynas yn etifeddu swm o arian?
  3. Beth yw ymddiriedolaethau yn ôl disgresiwn?
  4. Pwy sydd yn arbenigo mewn ymddiriedolaethau ac afiechyd meddwl?
  5. Sut wyf yn medru dod o hyd i gyfreithiwr?
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau