Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Taliadau Uniongyrchol

  1. Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyllideb bersonol?
  3. A fydd rhaid i mi dalu os yw Adran 117 yn berthnasol i mi?
  4. Beth os wyf nad yn medru fforddio talu?
  5. A wyf yn medru cwyno am y ffioedd?
  6. Taliadau Uniongyrchol
  7. Camau nesaf

Os yw eich awdurdod lleol yn darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i chi, efallai y byddant yn trefnu hyn eu hunain. Bydd yn talu eich holl gostau neu ran o’ch costau. Mae modd i chi ddarllen mwy yn ein hadran - Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid i mi dalu?

Opsiwn arall yw bod gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi arian i chi i brynu gwasanaethau neu dalu rhywun i’ch helpu chi. Os ydynt yn gwneud hyn, mae’r arian y mae’r awdurdod lleol yn rhoi i chi yn cael ei alw’n ‘daliad uniongyrchol’. Efallai y byddwch dal yn gorfod talu am eich gofal: mae’n golygu bod yr awdurdod lleol yn rhoi eu harian i chi er mwyn i chi ei ddefnyddio eich hun.

Mae gwasanaethau cymdeithasol yn rhoi arian i chi i brynu gwasanaethau neu dalu rhywun i’ch helpu chi.

Dylai’r awdurdod lleol ddweud wrthych sut y byddant yn trefnu taliadau uniongyrchol. Dylent esbonio sut y mae modd i chi eu derbyn a beth y mae disgwyl i chi wneud.

A oes rhaid i mi dderbyn taliadau uniongyrchol?

Nid oes rhaid i chi gael taliadau uniongyrchol. Efallai eich bod am drefnu bod gwasanaethau cymdeithasol yn diwallu eich anghenion. Ond rhaid i’r awdurdod lleol gynnig taliadau uniongyrchol i chi os ydych yn cwrdd â’r meini prawf.

Beth os wyf yn derbyn ôl-ofal am ddim o dan ‘adran 117’?

Rydych yn medru derbyn taliadau uniongyrchol er mwyn talu am eich gwasanaethau ôl-ofal. Mae’r rheolau yn debyg i dderbyn taliadau uniongyrchol fel arfer.

A fydd taliadau uniongyrchol yn effeithio ar fy mudd-daliadau?

Na, ni fydd taliadau uniongyrchol yn cael eu hystyried fel incwm ac ni fyddant yn effeithio ar eich budd-daliadau.

A wyf yn medru derbyn taliadau uniongyrchol?

Rydych yn medru derbyn taliadau uniongyrchol os ydych:

  • Yn meddu ar anghenion gofal cymdeithasol cymwys,
  • Yn medru gwneud penderfyniadau eich hun,
  • Yn gofyn am daliadau uniongyrchol,
  • Yn medru rheoli taliad uniongyrchol eich hun neu gyda help, a
  • Bydd taliadau uniongyrchol yn helpu i ddiwallu eich anghenion.

Mae eich cydlynydd gofal neu adran gwasanaethau cymdeithasol angen wirio os ydych yn medru rheoli taliadau uniongyrchol eich hun neu gyda chymorth. Bydd angen i chi fod yn drefnus, cadw golwg ar eich gwariant, a chadw anfonebau. Rydych dal yn medru derbyn taliadau uniongyrchol os ydych angen help gan ffrind, perthynas neu rywun arall er mwyn gwneud hyn.

A oes rhywun arall yn medru rheoli fy nhaliadau uniongyrchol ar fy rhan?

Mae rhywun arall yn medru derbyn taliadau uniongyrchol i chi a’ch helpu chi i dalu am y gwasanaethau sydd angen arnoch. Mae’r person hyn yn cael ei adnabod fel ‘person enwebedig’. Maent yn medru eich helpu i reoli eich arian ond mae dal angen i chi benderfynu sut i’w wario.

Beth os nad yw’r gallu meddyliol gennyf i reoli taliadau uniongyrchol?

Mae galluedd meddwl yn derm cyfreithiol sydd yn golygu eich bod yn medru gwneud penderfyniadau.

Os nad ydych yn medru gwneud penderfyniad, nid ydych yn meddu ar y ‘galluedd meddwl’. Mae hyn yn golygu nad ydych yn medru:

  • Deall gwybodaeth am daliadau uniongyrchol
  • Cofio’r wybodaeth
  • Ystyried y wybodaeth er mwyn gwneud penderfyniad, neu
  • Rhoi gwybod i rywun beth yw eich penderfyniad

Bydd yr awdurdod lleol yn gofyn i chi:

  • A ydych yn deall y penderfyniadau y bydd angen i chi wneud, a
  • Beth fydd yn digwydd os ydych yn gwneud y penderfyniadau hynny

Mae rhywun arall yn medru derbyn taliadau uniongyrchol ar eich rhan a’ch helpu chi i dalu am y gwasanaethau sydd angen arnoch. Mae’r person hyn yn cael ei adnabod fel ‘person enwebedig’. Mae’n medru eich helpu i reoli eich arian ond rhaid i chi barhau i benderfynu sut i’w wario.

Beth yw diffiniad o berson addas?

Mae person addas yn:

  1. Rhywun sydd wedi cael atwrneiaeth arhosol ond mae’n annhebygol y bydd atwrneiaeth arhosol cyllidol ar ben ei hun yn ddigonol,
  2. Rhywun sydd wedi ei apwyntio fel dirprwy ar gyfer y person sydd angen gwasanaethau gan y Llys Gwarchod o dan adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddwl 2005,
  3. Rhywun sydd wedi cynnig i fod yn berson addas - bydd angen i’r rheolwr gofal i gytuno gyda hyn ynghyd â’r uwch swydd ddynodedig o’r awdurdod lleol, neu
  4. Yn medru bod yn fudiad neu’n drydydd parti sydd wedi ei apwyntio gan yr awdurdod lleol - er enghraifft yn darparu cynllun cymorth.

 

Rydych yn medru derbyn taliadau uniongyrchol os nad oes 'galluedd' gennych. Mae gofalwr, ffrind neu berthynas yn medru gofyn amdanynt a'u rheoli ar eich rhan.

Sut y byddaf yn derbyn Taliadau Uniongyrchol?

Bydd eich awdurdod lleol yn talu eich taliadau uniongyrchol i’ch cyfrif banc neu’ch cymdeithas adeiladu. Rydych yn medru trefnu cyfrif gwahanol os yw’n fwy hawdd i chi geisio cadarnhau faint o arian sy’n weddill.

Mae cynlluniau gan rai awdurdodau lleol megis ‘cardiau wedi’u rhagdalu’. Dylech ofyn os hoffech wybod os oes unrhyw opsiynau eraill gan yr awdurdodau lleol. 

Faint fyddaf yn derbyn?

 Mae hyn yn dibynnu ar ble ydych yn byw a pha gymorth sydd angen. Bydd eich cydlynydd gofal neu wasanaethau cymdeithasol yn ystyried eich anghenion gofal cymdeithasol. Byddant angen ceisio cadarnhau faint o arian sydd angen arnoch er mwyn diwallu'r anghenion yma. Mae’r hyn sydd yn cael ei ganiatáu yn cael ei alw’n ‘gyllideb bersonol’. Rhaid bod digon o arian yn eich cyllideb bersonol fel eich bod yn medru prynu gwasanaethau sydd yn medru diwallu eich anghenion.

A fydd rhaid i mi dalu tuag at fy nhaliadau unionyrchol?

Gan ddibynnu ar faint o arian sydd gennych, efallai y bydd yr awdurdod lleol yn medru gofyn i chi dalu am rai o’ch gwasanaethau. Bydd eich cydlynydd gofal neu wasanaethau cymdeithasol yn cynnal asesiad ariannol er mwyn penderfynu a ddylech dalu. Byddant yn ystyried eich incwm, cynilion ac unrhyw eiddo yr ydych yn berchen. Mae modd i chi ddarllen mwy am hyn yn Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid mi dalu?

Os oes rhaid i chi dalu tuag at eich gofal, bydd hyn yn cael ei dynnu o’ch taliadau uniongyrchol neu efallai y bydd gofyn i chi ad-dalu’r arian yma. Os yw’r gofal yr ydych am dderbyn yn costio mwy o arian, bydd rhaid i chi dalu’r gwahaniaeth.

Efallai na fydd rhaid i chi gyfrannu os ydych yn gymwys am ôl-ofal Adran 117 o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

Ar beth y mae modd i wario fy nhaliadau unionyrchol?

Rydych yn medru gwario taliadau uniongyrchol ar wasanaethau, cyfarpar, neu weithgareddau sydd yn diwallu eich anghenion gofal cymdeithasol. Rydych yn medru prynu’r rhain o fudiadau neu unigolion

Rydych yn medru gwario eich taliadau uniongyrchol ar bethau gwahanol. Er enghraifft:

  • Rhywun i ofalu amdanoch yn eich cartref.
  • Trafnidiaeth megis tacsi
  • Help gyda siopa neu gyllidebu
  • Dosbarthiadau addysgol (er enghraifft, dosbarthiadau celf neu ysgrifennu)
  • Cyfuno’ch taliadau uniongyrchol gyda phobl eraill er mwyn cyflogi tiwtor i roi dosbarthiadau
  • Seibiant, sydd yn medru cynnwys aros mewn gwesty neu fynd ar deithiau undydd gyda ffrindiau
  • Help gyda gofal plant
  • Cyflogi cynorthwyydd personol, neu
  • Mynd i’r gampfa  

A oes yna bethau nad oes hawl i mi wario taliadau uniongyrchol arnynt?

Nid ydych yn medru defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am wasanaethau iechyd neu lety parhaol. Rydych yn medru eu defnyddio i dalu am seibiannau byr am gyfnod o bedair wythnos mewn llety preswyl.

A wyf yn medru defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthynas i ofalu amdanaf?

Efallai eich bod yn medru defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu perthynas i ddiwallu eich anghenion, a hynny ar yr amod nad ydych yn byw gyda hwy.

Os ydych yn byw gyda pherthynas, efallai y byddwch yn medru eu talu i ofalu amdanoch neu’ch helpu i reoli eich taliadau uniongyrchol. Rhaid i’ch awdurdod lleol benderfynu a yw hyn yn angenrheidiol. Dylai’r awdurdod lleol rhoi gwybodaeth i chi a’ch gofalwr am unrhyw sgil-effaith y bydd hyn yn ei gael ar incwm eich gofalwr.

Beth sydd angen i mi wybod am reoli Taliadau Uniongyrchol?

Dylech gadw anfonebau a chofnodion o’r hyn yr ydych wedi gwario eich taliadau uniongyrchol arno.

Os ydych yn talu am rywun, fel cynorthwyydd person, bydd yn dod yn gyflogwr. Mae hyn yn golygu y byddwch yn meddu ar gyfrifoldebau cyfreithiol megis:

  • Talu Yswiriant Cenedlaethol,
  • Caniatáu gwyliau,
  • Trefnu gwyliau, a
  • Talu cyflog salwch.

Pan fydd gwasanaethau cymdeithasol neu’ch cydlynydd gofal yn cadarnhau faint fydd eich taliadau uniongyrchol, dylent gynnwys y costau yma. Dylent roi’r holl wybodaeth sydd angen arnoch ynglŷn â bod yn gyflogwr.

Mae mudiadau cymorth lleol yn aml yn medru helpu gyda rheoli taliadau uniongyrchol a bod yn gyflogwr.                                                

Sut wyf yn delio gyda phroblemau am daliadau uniongyrchol?

Mae modd i chi gael help gan eiriolydd cymunedol. Mae eiriolydd yn medru eich helpu chi ddelio gyda’ch problemau gyda’r awdurdod lleol.

Os ydych am gwyno, bydd angen i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno eich awdurdod lleol.

Os ydych yn teimlo nad yw’r awdurdod lleol yn cydymffurfio gyda’r gyfraith, mae modd i chi ofyn am gyngor cyfreithiol. Byddai angen i chi siarad gyda chyfreithiwr gofal cymunedol.

Beth os nad yw fy nhaliadau uniongyrchol yn ddigon?

Efallai bod eich taliadau uniongyrchol yn rhy isel oherwydd:

  • Nid oedd yr awdurdod lleol wedi ystyried eich holl anghenion wrth gyfrif y swm, neu
  • Nid oedd y ffordd y cyfrifwyd y swm yr ydych yn mynd i dderbyn yn deg.

Dylai eich awdurdod lleol adolygu eich sefyllfa yn y 6 mis cyntaf. Mae hyn er mwyn sicrhau bod digon o arian gennych i brynu gwasanaethau a’ch bod yn medru rheoli taliadau unionyrchol. Dylai’r adolygiad gael ei gynnal 6-8 wythnos ar ôl i chi arwyddo eich cynllun gofal a chymorth.

Os nad ydych yn teimlo eich bod yn derbyn digon o arian drwy’r taliadau uniongyrchol, dywedwch wrth eich gweithiwr cymdeithasol neu’ch cydlynydd gofal. Efallai y byddant yn medru helpu. Os nad yw hyn yn gweithio, mae modd i chi i roi cynnig ar rai o’r opsiynau sydd wedi eu nodi uchod.

Pryd fydd fy nhaliadau uniongyrchol yn dod i ben?

Dylai’r awdurdod lleol ond atal eich taliadau uniongyrchol fel yr opsiwn olaf. Efallai y bydd eich taliadau unionyrchol yn cael eu hatal oherwydd:

  • Rydych am iddynt ddod i ben,
  • Nid ydych yn medru eu rheoli mwyach, hyd yn oed gyda chymorth,
  • Nid ydych angen gofal a chymorth mwyach, neu
  • Nid oeddech wedi cydymffurfio gyda’r amodau.

Maent yn medru atal eich taliadau dros dro os yw eich cyflwr yn gwella am gyfnod byr.

Os yw eich taliadau uniongyrchol yn cael eu hatal, rydych yn medru parhau i dderbyn gofal a chymorth cymdeithasol o wasanaethau cymdeithasol. Dylai eich awdurdod lleol geisio sicrhau nad oes yna oedi o ran chi’n derbyn y gwasanaethau sydd yn diwallu eich anghenion.

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyllideb bersonol?
  3. A fydd rhaid i mi dalu os yw Adran 117 yn berthnasol i mi?
  4. Beth os wyf nad yn medru fforddio talu?
  5. A wyf yn medru cwyno am y ffioedd?
  6. Taliadau Uniongyrchol
  7. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau