Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

A wyf yn medru cwyno am y ffioedd?

  1. Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyllideb bersonol?
  3. A fydd rhaid i mi dalu os yw Adran 117 yn berthnasol i mi?
  4. Beth os wyf nad yn medru fforddio talu?
  5. A wyf yn medru cwyno am y ffioedd?
  6. Taliadau Uniongyrchol
  7. Camau nesaf

Efallai bod yna broblemau yn eich wynebu ynglŷn â’r hyn y mae’r awdurdod lleol wedi gofyn i chi dalu. Rydych yn medru delio gyda hyn yn ffurfiol neu’n anffurfiol. Dylent sicrhau eich bod yn gwybod sut i apelio eu penderfyniadau neu gwyno os ydych am wneud hynny.    

Opsiynau anffurfiol 

Mae’n well i geisio delio gyda’ch problem yn anffurfiol yn gyntaf. Rydych yn medru siarad am eich pryderon gyda’r gweithiwr proffesiynol sydd yn gyfrifol am eich cynllun gofal. Os nad oes cynllun gofal gennych, dylech gysylltu gyda’r person a wnaeth yr asesiad. Rydych yn medru gofyn iddo esbonio ei benderfyniad neu drafod eich pryderon.

Os ydych yn siarad gyda rhywun, nodwch:

  • Gyda phwy y gwnaethoch siarad,
  • Pryd wnaethoch siarad gyda hwy, a
  • Yr hyn a drafodwyd.

Os ydych o dan y Dull Rhaglen Ofal, trafodwch unrhyw broblemau gyda’ch cydlynydd gofal neu’ch gweithiwr allweddol.

Opsiynau ffurfiol

Cwynion

Os ydych am gwyno, rhaid i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno'r Awdurdod Lleol (ALl).

If yOs ydych am gwyno, rhaid i chi ddefnyddio gweithdrefn gwyno'r Awdurdod Lleol (ALl).

Dylech fod yn medru delio gyda’r rhan fwyaf o broblemau mewn modd anffurfiol neu drwy’r weithdrefn gwyno. Fodd bynnag, os ydych yn teimlo nad ydynt yn cydymffurfio gyda’r gyfraith, mae modd i chi ofyn am gyngor cyfreithiol. Fodd bynnag, mae angen i chi siarad gyda chyfreithiwr gofal cymunedol.

Yn ddibynnol ar eich sefyllfa, efallai eich bod yn medru derbyn cyngor a chael eich cynrychioli. Efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn cymorth cyfreithiol (legal aid) ond mae yna reolau ynghlwm wrth hyn. Bydd Cyngor Cyfreithiol Sifil yn dweud wrthych os ydych yn gymwys i dderbyn cyngor cyfreithiol. Maent yn medru rhoi gwybodaeth i chi am gyfreithwyr lleol sydd yn derbyn cymorth cyfreithiol. Mae modd i chi gysylltu gyda hwy ar 0845 345 4345. Rydych yn medru chwilio am gyfreithiwr ar-lein.

 

Cyngor Cyfreithiol Sifil

0845 345 4345

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw gofal cymdeithasol ac a fydd rhaid i mi dalu?
  2. Beth yw cyllideb bersonol?
  3. A fydd rhaid i mi dalu os yw Adran 117 yn berthnasol i mi?
  4. Beth os wyf nad yn medru fforddio talu?
  5. A wyf yn medru cwyno am y ffioedd?
  6. Taliadau Uniongyrchol
  7. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau