Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael?

  1. Ble allaf gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?
  2. Gofal Cymdeithasol
  3. Pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael?
  4. Grwpiau Cymorth
  5. Camau nesaf
Mae yma ystod eang o wasanathau gofal cymdeithasol ar gael a bydd y rhan fwyaf o bobl ynd erbyn gofal yn eu cartrefi.

Accessing social care

Mae’r sawl sydd yn meddwl am ofal cymdeithasol am y tro cyntaf yn ystyried hyn fel y gwasanaeth a geir mewn gofal cartref preswyl. Mewn gwirionedd, mae yna sawl math o wasanaethau gofal cymdeithasol a bydd y rhan fwyaf o bobl yn medru derbyn gofal yn y cartref.

Mae’r fath o gymorth gofal cymdeithasol yr ydych yn medru derbyn yn ddibynnol iawn ar eich anghenion. Mae hyn yn golygu'r math o gyflwr sydd arnoch, difrifoldeb eich anabledd. Er enghraifft, os ydych yn cael trafferth yn cerdded, efallai bod angen ychydig o offer arnoch er mwyn eich helpu i barhau i symud a bod yn annibynnol. Fodd bynnag, os ydych yn datblygu cyflwr sydd wir yn effeithio ar eich galluedd meddyliol neu’ch gallu i symud a gofalu am eich hun, mae’n debygol bod angen ystod dipyn mwy eang o wasanaethau gofal cymdeithasol arnoch.  

Mae’n werth ceisio ystyried eich anghenion penodol a’r hyn yr ydych yn credu y bydd angen arnoch er mwyn eich helpu i sicrhau’r ansawdd bywyd gorau posib.

Mae gwasanaethau gofal a chymorth yn medru cynnwys y canlynol fel arfer:

  • Cyfarpar – e.e. i’ch helpu chi i symud o gwmpas eich cartref,
  • Help yn eich cartref - e.e. golchi, coginio a glanhau,
  • Cymorth a gweithgareddau cymunedol – e.e. gwasanaethau trafnidiaeth cymunedol,
  • Canolfannau Dydd – e.e. darparu prydau bwyd a chyfleoedd i gymdeithasu,
  • Addasiadau i’r cartref - e.e. lledaenu drysau ac arwynebau gweithio is,
  • Gofal preswyl – e.e. Gofal seibiant er mwyn caniatáu eich gofalwyr i gael seibiant neu orffwyso,
  • Cymorth cyllidol – e.e. hawliau i dderbyn budd-daliadau ychwanegol (ewch i’m hadran ar daliadau uniongyrchol),
  • Gwybodaeth a gwasanaethau cynghori ac eiriolaeth – e.e. help i sicrhau eich bod yn derbyn yr hyn yr ydych yn gymwys i’w dderbyn,
  • Cymorth i ofalwyr – e.e. mae hawl gan ofalwr i dderbyn asesiad gofalwr, a
  • Cymorth gofal arall - e.e. cymorth gofal iechyd os ydy’ch anghenion gofal yn ymwneud â chyflwr iechyd parhaus.

Mae mwy o wybodaeth gennym am dalu am ofal cymdeithasol.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Ble allaf gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?
  2. Gofal Cymdeithasol
  3. Pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael?
  4. Grwpiau Cymorth
  5. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau