Gofal Cymdeithasol
Dylai Gofal Cymdeithasol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru gael ei ddarparu gan eich Awdurdod Lleol. Efallai y bydd eich Awdurdod Lleol yn cael ei alw'n 'Cyngor Lleol' neu'r 'Cyngor'.
Dylai Gofal Cymdeithasol i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl yng Nghymru gael ei ddarparu gan eich Awdurdod Lleol. Rhaid i’ch Awdurdod Lleol i ddarparu gofal cymdeithasol os ydych yn cwrdd â’r meini prawf sydd wedi eu cynnwys yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Er mwyn cadarnhau cymhwysedd ar gyfer gofal a chymorth a reolir, mae Awdurdodau Lleol yn defnyddio Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cymhwysedd) (Cymru) 2015.
Mewn pob un achos, rydym yn asesu angen/anghenion yr unigolyn, yn hytrach na’r person, yn erbyn y meini prawf cymhwysedd.
Rhaid cwrdd â phedwar meini prawf penodol.
- Mae’r angen yn deillio o’ch afiechyd corfforol neu feddyliol, oedran, anabledd, dibyniaeth ar alcohol neu gyffuriau neu amgylchiadau tebyg
- Mae’r angen yn ymwneud ag un neu fwy o’r canlynol:
- Gallu i ofalu am eich hun neu ymgymryd â dyletswyddau bob dydd,
- Gallu i gyfathrebu,
- Diogelu rhag niwed neu esgeulustod,
- Cymryd rhan yn y gwaith, gweithgareddau addysgol, dysgu neu hamdden,
- Cynnal neu ddatblygu perthynas gydag aelodau teulu neu unigolion pwysig eraill,
- Datblygu a chynnal perthnasau cymdeithasol a chymryd rhan yn y gymuned, neu
- Ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu am blentyn.
3.Mae’r angen yn fath o angen sydd yn golygu nad ydych yn medru diwallu’r angen hwnnw naill ai:
- Ar ben eich hun; neu
- Gyda gofal chymorth eraill sydd yn fodlon darparu’r fath ofal a chymorth; neu
- Gyda chymorth y gwasanaethau yn y gymuned.
Rydych yn annhebygol o gyflawni un neu fwy o’ch amcanion personol oni bai bod yr awdurdod lleol yn darparu neu’n trefnu gofal a chymorth er mwyn diwallu’r angen neu’n caniatáu bod modd diwallu’r angen drwy wneud taliad uniongyrchol.
4.Eich Cynllun Gofal a Chymorth
Os yw’r asesiad yn dynodi bod eich anghenion yn gymwys ar gyfer cymorth neu wasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, byddant yn trafod eich opsiynau gyda chi o ran y cymorth sydd ar gael o bosib ac yn llunio Cynllun Gofal a Chymorth gyda chi. Mae’r Cynllun Gofal a Chymorth yn nodi sut y bydd eich anghenion yn cael eu diwallu a pha ganlyniadau y maent yn ceisio eu cyflawni. Byddwch yn derbyn copi er mwyn i chi ei gadw’n ddiogel.
Nid oes tâl am yr asesiad neu am roi cyngor a gwybodaeth i chi ond mae’r Awdurdod Lleol a’r partneriaid trydydd sector o bosib yn codi tâl am rai o’r gwasanaethau y maent yn darparu.
Byddant yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ffioedd y bydd rhaid i chi dalu cyn derbyn unrhyw wasanaethau.
Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth am y pwnc hwn ar ein gwefan neu yn ein hadran talu am ofal cymdeithasol.