Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Ble allaf gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?

  1. Ble allaf gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?
  2. Gofal Cymdeithasol
  3. Pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael?
  4. Grwpiau Cymorth
  5. Camau nesaf

Cam pwysig i chi gymryd yw gofyn am help gan y bydd hyn yn chwarae rôl bwysig o ran gwella ac aros yn iach. Os ydych yn ansicr ynglŷn ag a oes problem iechyd meddwl gennych, mae’n iawn i chi ofyn am help.  

Y lle gorau i ddechrau yw siarad gyda gweithiwr gofal iechyd proffesiynol e.e. eich Meddyg neu Feddyg Teulu. Mae Meddyg Teulu yn medru helpu gyda:

  • Cynnig diagnosis,
  • Cynnig cymorth a thriniaethau i chi, ac
  • Atgyfeirio at wasanaeth arbenigol.

Talking to you GP about Mental Health

Peidiwch â phoeni os nad oes Meddyg Teulu gennych. Mae’r GIG yng Nghymru yn cynnig offeyn ar-lein ar eu gwefan er mwyn chwilio am Feddyg Teulu, naill ai yn agos at ble’r ydych yn byw neu ble ydych yn gweithio.  

Os ydych yn cael trafferth delio gyda’ch Meddyg Teulu e.e. os nad ydych yn credu eu bod yn gwrando arnoch neu’n anghytuno gyda’r hyn yr ydych yn ei ddweud, mae modd i chi wneud y canlynol:

  • Gofyn i weld meddyg gwahanol. Nid oes rhaid i’ch meddygfa gytuno ond os ydynt yn gwrthod, rhaid iddynt gynnig esboniad rhesymol (er enghraifft, os yw’r feddygfa yn rhy fach neu os nad yw’r meddygon eraill ar gael ar y diwrnodau yr ydych angen).
  • Gofynnwch i siarad gyda math gwahanol o ymarferydd, megis nyrs, gweithiwr iechyd meddwl arbenigol neu gwnselydd practis.
  • Gofynnwch i’ch meddyg eich atgyfeirio at arbenigwr.
  • Atgyfeiriwch eich hun at wasanaeth arall (mewn rhai achosion). Os ydych yn atgyfeirio eich hun at wasanaeth lles seicolegol neu dîm iechyd meddwl cymunedol, byddant angen cynnal asesiad arall fel arfer er mwyn gweld a ydynt yn medru eich cefnogi.

Efallai bydd eich Ymddiriedolaeth GIG lleol yng Nghymru hefyd yn medru cynnig gwasanaeth i chi fel IAPT (Improving Access to Psychological Therapies) - plîs peidiwch â chaniatáu i’r teitl eich dychryn. Nod y prosiect yw cynyddu darpariaeth triniaethau sydd yn seiliedig ar dystiolaeth, a hynny ar gyfer cyflyrau iechyd meddwl cyffredin megis gorbryder ac iselder gan fudiadau gofal cynradd.

Mae modd i chi ddewis hefyd i dalu’n breifat am eich triniaeth neu’ch therapi.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Ble allaf gael cymorth ar gyfer iechyd meddwl?
  2. Gofal Cymdeithasol
  3. Pa wasanaethau gofal cymdeithasol sydd ar gael?
  4. Grwpiau Cymorth
  5. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau