Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?

  1. Deall eich opsiynau
  2. Siarad ar fy rhan
  3. Hawlio budd-daliadau
  4. Credydau Treth
  5. Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?
  6. Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?
  7. Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
  8. Camau nesaf

Os ydych yn medru gwneud penderfyniadau eich hunan ar y funud ond yn pryderi na fyddwch yn medru gwneud hyn yn y dyfodol, mae modd i chi i roi ‘ Pŵer Atwrneiaeth Arhosol’ neu PAA i rywun.

Mae hyn yn ddefnyddiol os oes anhwylder deubegynol arnoch neu os ydych yn credu y byddwch yn dechrau gwario’n wyllt ac yn gwario mwy nag ydych yn medru fforddio os ydych yn mynd yn sâl.

Mae PAA yn golygu bod gofalwr, ffrind neu berthynas yn meddu ar yr awdurdod i weithredu ar eich rhan os ydych yn colli’r galluedd i weithredu. Byddwch yn cael eich galw’n ‘rhoddwr’ ac mae’r person yr ydych yn rhoi’r awdurdod iddo yn cael ei alw’n ‘dwrnai’.

Mae PAA wedi disodli’r ‘Pŵer Atwrneiaeth Parhaus’. Os oes PAP gennych, mae hyn dal yn ddilys ond rhaid i’r ‘twrnai’ ei gofrestru gyda’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus pan eu bod yn credu eich bod yn dechrau mynd yn sâl neu’n meddu ar ddiffyg galluedd i reoli eich materion ariannol eich hun.

Mae PAA wedi disodli’r ‘Pŵer Atwrneiaeth Parhaus’. Os oes PAP gennych, mae hyn dal yn ddilys ond rhaid iddo gael ei gofrestru

Er mwyn cofrestru PAA, rhaid i chi lenwi ffurflen EP2PG y mae modd i chi lawrlwytho o wefan y Llywodraeth neu rydych yn medru ffonio’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus ar 0300 456 0300 a gofyn iddynt bostio copi atoch.

Cofrestru PAA

Os ydych yn meddu ar y galluedd i wneud penderfyniadau, yna gallwch ganslo’r hen PAP a chofrestru PAA.

Os ydych am wneud rhywun yn ‘dwrnai’ i chi, rhaid iddo fod yn 18 mlwydd oed neu’n hŷn ac nid yw’n yn medru bod yn fethdalwr.  

Os ydych am ganiatáu PAA, rhaid i chi gwblhau ffurflenni. Maent ar gael o wefan y Llywodraeth ac rydych hefyd yn medru eu cwblhau ar-lein.

Rydych yn medru manylu

Rydych yn medru llunio PAA i roi’r hawl i rywun i ddelio gyda’ch materion ariannol naill ai pan eich bod yn colli’r galluedd neu i wneud penderfyniadau pan eich bod yn meddu ar y galluedd a phan fyddwch yn colli’r galluedd.

Rydych yn medru manylu pa benderfyniadau yr ydych am iddynt ei wneud a rhoi canllawiau iddynt i’w dilyn pan yn ceisio cadarnhau beth fydd o fudd i chi.

Unwaith y bydd y PAA yn cael ei gwblhau, rhaid ei gofrestru. Mae hyn yn cael ei wneud drwy’r Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus. Mae yna ffi o £82 i’w dalu er mwyn cofrestru PAA. Rydych chi neu’ch twrnai yn medru cofrestru PAA.

Os yw’r person sydd yn cofrestru PAA yn hawlio budd-daliadau penodol, ar incwm isel neu os byddai’r ffi yn achosi caledi ariannol, efallai y byddwch yn cael eich eithrio neu ond yn gorfod talu rhan o’r ffi. Rydych yn medru canfod mwy o wybodaeth am y ffioedd yma drwy lawrlwytho taflen y Llywodraeth.

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Deall eich opsiynau
  2. Siarad ar fy rhan
  3. Hawlio budd-daliadau
  4. Credydau Treth
  5. Beth yw Pŵer Atwrneiaeth Arhosol?
  6. Beth yw Dirprwy a apwyntir gan y Llys Gwarchod?
  7. Pa filiau sydd bwysicaf i’w talu’n gyntaf?
  8. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau