Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?

  1. Beth yw ailystyriaeth gorfodol?
  2. Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?
  3. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?
  4. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
  5. Llythyron enghreifftiol
  6. Camau nesaf

Weithiau, bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn caniatáu i chi ofyn am ailystyriaeth gorfodol, hyd yn oed os ydych wedi colli’r dyddiad cau o fis.

Dylech ysgrifennu at yr Adran Waith a Phensiynau a gofyn am ailystyriaeth – yn eich llythyr, esboniwch pam nad oeddech wedi medru gofyn am hyn o fewn y dyddiad cau o fis a gofynnwch iddynt ymestyn y dyddiad cau, ond mae ond modd i chi am ailystyriaeth hwyr o fewn 13 mis ar ôl y penderfyniad gwreiddiol.

Dylech ysgrifennu at yr Adran Waith a Phensiynau a gofyn am ailystyriaeth – yn eich llythyr, esboniwch pam nad oeddech wedi medru gofyn am hyn o fewn y dyddiad cau o fis a gofynnwch iddynt ymestyn y dyddiad cau, ond mae ond modd i chi am ailystyriaeth hwyr o fewn 13 mis ar ôl y penderfyniad gwreiddiol. Po hwyraf yr ydych yn gofyn, yna bydd rhaid bod eich rhesymau yn gryfach fyth. Bydd yr Adran Waith a Phensiynau yn derbyn ailystyriaeth hwyr os:

  • Yw’n rhesymol,
  • Nid oeddech wedi medru gofyn cyn hyn yn sgil amgylchiadau arbennig. .

Os ydych yn sâl neu yn yr ysbyty ar y pryd, er enghraifft, gallwch ofyn i’r Adran Waith a Phensiynau am ailystyriaeth hwyr ond eu dewis hwy yw derbyn hyn ai peidio. Ni fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn derbyn ailystyriaeth hwyr yn sgil y ffaith nad ydych yn deall y gyfraith neu’n ymwybodol o’r dyddiadau cau.

Mae penderfyniad diweddar gan yr Uwch Dribiwnlys wedi penderfynu fod hawl gennych i apelio ar yr amod eich bod yn gwneud cais am ailystyriaeth gorfodol o fewn 13 mis. Mae hyn yn golygu y bydd angen i’r Adran Waith a Phensiynau naill ai:

  • ailystyried eu penderfyniad neu ei adolygu yn sgil camgymeriad swyddogol
  • rhoi hysbysiad ystyriaeth orfodol yn nodi nad oes modd adolygu’r penderfyniad.

Naill ffordd neu’r llall, dylech dderbyn hysbysiad ail ystyriaeth gorfodol, ac os ydych dal yn anhapus gyda’r canlyniad, gallwch apelio i dribiwnlys annibynnol.

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw ailystyriaeth gorfodol?
  2. Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?
  3. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?
  4. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
  5. Llythyron enghreifftiol
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau