Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Beth yw ailystyriaeth gorfodol?

  1. Beth yw ailystyriaeth gorfodol?
  2. Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?
  3. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?
  4. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
  5. Llythyron enghreifftiol
  6. Camau nesaf

Pan fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn gwneud penderfyniad am eich budd-dal, byddant yn ysgrifennu atoch. Os nad ydych yn cytuno gyda’r penderfyniad, mae mis gennych i ofyn iddynt i ail-ystyried. Rhaid i chi ofyn i’r Adran Waith a Phensiynau i ailystyried y penderfyniad cyn eich bod yn medru apelio i dribiwnlys. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘ailystyriaeth gorfodol ’.

Mae modd i chi ofyn am ailystyriaeth gorfodol am yr holl benderfyniadau a wneir gan yr Adran Waith a Phensiynau am fudd-daliadau  gan gynnwys:

Rydych yn medru darllen mwy am herio penderfyniad gan awdurdod lleol ar ein tudalen apeliadau ac mae hyn yn medru cynnwys budd-daliadau megis budd-daliadau tai neu ostyngiad yn y dreth cyngor.  

Sut wyf yn medru gofyn am ailystyriaeth gorfodol ?

Er mwyn gofyn am ailystyriaeth gorfodol , rydych yn medru ffonio neu ysgrifennu at swyddfa’r Adran Waith a Phensiynau sydd wedi gwneud eich penderfyniad (bydd y manylion ar y llythyr sydd wedi ei ddanfon atoch). Os ydych yn ysgrifennu atynt, cadwch gopi a danfonwch y llythyr gan ddefnyddio’r gwasanaeth ‘recorded delivery’ neu gofynnwch am brawf ei fod wedi ei bostio gan fod hyn yn medru eich helpu sicrhau eu bod yn derbyn y llythyr o fewn y mis, sydd yn angenrheidiol.  

Yn eich llythyr - neu dros y ffôn - rydych yn medru esbonio pam eich bod yn credu bod yr Adran Waith a Phensiynau wedi gwneud y penderfyniad anghywir ac rydych yn medru danfon mwy o dystiolaeth feddygol er mwyn atgyfnerthu eich dadl.

Fel arfer, mae’n well ysgrifennu at yr Adran Waith a Phensiynau yn hytrach na ffonio gan eich bod yn medru cadw copi o’ch llythyr. Fodd bynnag, os nad oes llawer o amser gennych, efallai y bydda’n well eich bod yn ffonio’r Adran Waith a Phensiynau ac yna’n ysgrifennu llythyr atynt wedi hyn.

Ailystyriaeth Gorfodol - Credyd Treth

Er mwyn gwneud cais am ailystyriaeth gorfodol ynglŷn â chredydau treth, rhaid i chi gwblhau ffurflen a elwir yn WTC/AP. Neu mae modd i chi wneud y cais ar-lein.

Ailystyriaeth Gorfodol - Budd-dal Plant

Er mwyn gwneud cais am ailystyriaeth gorfodol ynglŷn â budd-dal plant, rhaid i chi gwblhau ffurflen a elwir yn CH24Aneu mae modd i chi ffonio’r Llinell Gymorth Budd-dal Plant ar 0300 200 3100.

A wyf yn medru gofyn i’r Adran Waith a Phensiynau am resymau ysgrifenedig ar gyfer eu penderfyniad?

Mae’n bosib i chi ofyn i’r r Adran Waith a Phensiynau am gopi ysgrifenedig am eu penderfyniad, ond nid rhaid i chi. Os hoffech weld y rhesymau, gofynnwch cyn gynted ag sydd yn bosib a bydd yr Adran Waith a phensiynau yn eu danfon atoch o fewn 14 diwrnod. Mae gofyn iddynt am eu rhesymau o bosib yn medru eich helpu i gyflwyno eich dadl.

Os ydych yn gofyn am resymau, byddwch yn cael 14 diwrnod ychwanegol i ofyn am ailystyriaeth gorfodol , ac os nad yw’r Adran Waith a Phensiynau yn danfon y rhesymau ysgrifenedig atoch o fewn y mis ar ôl iddynt wneud eu penderfyniad, mae 14 diwrnod ychwanegol gennych o’r dyddiad yr ydych yn derbyn eu penderfyniad i ofyn am ailystyriaeth gorfodol.

Beth sydd yn digwydd yn ystod y cyfnod Ailystyriaeth Gorfodol ?

Bydd rhywun o’r Adran Waith a Phensiynau yn ystyried eich cais eto er mwyn cadarnhau a oedd y penderfyniad yn gywir. Gelwir y person hwn yn ‘penderfynwr’ – ni fyddant wedi gweld eich cais cyn hyn, ac felly, efallai y byddant yn eich ffonio i ofyn pam eich bod yn anghytuno gyda’r penderfyniad. Rhaid i chi geisio esbonio a chynnig mwy o wybodaeth a thystiolaeth. Os nad ydych yn teimlo eich bod yn medru siarad gyda hwy, gallech ofyn a yw eich gofalwr yn medru siarad gyda hwy ar eich rhan, ac efallai y byddwch yn medru trefnu amser arall iddynt siarad gyda chi a’ch gofalwr ar yr un pryd.

A wyf yn medru danfon mwy o dystiolaeth?

Ydych - rydych yn medru danfon mwy o dystiolaeth atynt ac os ydych am wneud hyn, rhaid sicrhau bod hyn yn cyrraedd yr Adran Waith a Phensiynau o fewn un mis. Gofynnwch i rywun o'r Adran Waith a Phensiynau ynglŷn â ble y dylid danfon y dystiolaeth a gallwch ofyn iddo ef/hi ymatal rhag gwneud unrhyw benderfyniad newydd cyn iddynt ddarllen eich tystiolaeth.  

Os yw eich penderfynwr yn eich ffonio, yna maent yn medru gofyn a oes unrhyw dystiolaeth feddygol arall gennych i gefnogi eich cais. Os nad oes yna dystiolaeth gennych, byddant yn dweud wrthoch chi i ble y dylid danfon y dystiolaeth a byddant yn rhoi mis i chi wneud hyn. Dylent gytuno i ymatal rhag gwneud penderfyniad tan eu bod wedi gweld y dystiolaeth.

Os nad ydynt yn derbyn y dystiolaeth o fewn mis, byddant yn gwneud penderfyniad yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ganddynt eisoes. Nid oes rhaid i’r Adran Waith a Phensiynau i wneud eu penderfyniad o fewn cyfnod penodol ac mae’n medru cymryd rhai wythnosau neu fisoedd.

Mae yna lythyr enghreifftiol ar ddiwedd yr adran hon – mae hyn yn medru eich helpu i ofyn i’ch gweithwyr gofal iechyd proffesiynol am dystiolaeth er mwyn eich cefnogi.

Beth sydd yn digwydd pan fyddant wedi gwneud penderfyniad?

Bydd y penderfynwr yn danfon dau gopi o’r Hysbysiad Ailystyriaeth Gorfodol – mae hyn yn esbonio’r penderfyniad, ac felly, dylech eu cadw’n ddiogel a bydd angen y rhain arnoch os ydych yn dymuno apelio i dribiwnlys.

Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn newid eich penderfyniad o’ch plaid, byddant yn talu’r budd-daliadau y dylent fod wedi bod yn talu o ddyddiad eich cais. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘ôl-ddyddio’.

 

Os yw’r Adran Waith a Phensiynau yn newid eich penderfyniad o’ch plaid, byddant yn talu’r budd-daliadau y dylent fod wedi bod yn talu o ddyddiad eich cais. Mae hyn yn cael ei alw’n ‘ôl-ddyddio’.

Efallai na fydd yr Adran Waith a Phensiynau yn newid eu penderfyniad. Os ydych dal yn anghytuno gyda hwy, rydych yn medru apelio yn erbyn y penderfyniad i’r Tribiwnlys Nawdd Cymdeithasol.

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Beth yw ailystyriaeth gorfodol?
  2. Nid oes dim amser ar ôl – os rhywbeth y gallaf ei wneud?
  3. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau yn ystod ailystyriaeth gorfodol ?
  4. Beth sydd yn digwydd i’m budd-daliadau ar ôl yr ailystyriaeth gorfodol?
  5. Llythyron enghreifftiol
  6. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau