Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Cyfrifon banc

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
Os yw eich cyflogau neu fudd-daliadau yn cael eu talu i fanc, mae’n syniad da i geisio rhannu eich arian fel bod arian ar gael ar gyfer eich biliau hanfodol.

Managing your bank account with mental health problems

Os yw eich cyflogau neu fudd-daliadau yn cael eu talu i fanc, mae’n syniad da i geisio rhannu eich arian, a dylech roi arian o’r neilltu ar gyfer talu biliau hanfodol megis rhent neu forgais, treth cyngor neu gyfleustodau’n gyntaf.

Un ffordd i’ch helpu i reoli eich arian yw defnyddio cyfrif banc ar wahân ac yna trefnu taliadau rheolaidd o’ch cyfrif er mwyn talu amdanynt.

Cyfrifon Jam Jar

Mae cyfrifon Jam Jar wedi ei dylunio i’ch helpu chi wahanu eich arian i mewn i fathau gwahanol o wariant. Fel arfer, mae hyn yn golygu bod arian yn dod i mewn i un cyfrif sydd wedi ei drefnu i dalu eich biliau hanfodol. Mae’r arian dros ben yn cael ei roi mewn cyfrif arall ac mae modd i chi gael gafael ar yr arian hwn drwy gyfrwng cerdyn arian neu ddebyd uniongyrchol. Mae hyn yn golygu nad oes modd i chi wario’r arian sydd ar gyfer rhent a biliau eraill ar bethau eraill. Nid yw’r holl fanciau eraill yn cynnig cyfrifon jam jar ond efallai y bydd eich undeb credyd lleol yn cynnig cyfrifon jam jar os nad yw eich banc lleol yn cynnig hyn.

Dewch o hyd i’ch undeb credyd lleol.

Bancio Ar-lein

Os ydych yn bancio ar-lein, mae’r rhan fwyaf o gyfrifon banc yn cynnig offerynnau i’ch helpu chi i reoli eich arian. Mae’r rhain yn medru eich helpu i drefnu eich gwariant i mewn i gategorïau gwahanol, cynllunio sut i gynilo a sut ydych yn gwario eich arian. Gofynnwch i’ch banc am fwy o wybodaeth am eich offerynnau cyllidebu.

Cyfrifon Banc Sylfaenol

Os ydych wedi cael llawer o ddyledion yn y dyfodol yn y gorffennol, efallai ei bod hi’n anodd i chi agor cyfrif cyfredol yn sgil y wybodaeth sydd ar eich ffeil credyd. Dylech fod yn medru agor cyfrif banc sylfaenol gan nad oes angen gwiriad credyd. Mae’r rhan fwyaf o fanciau yn cynnig cyfrif banc sylfaenol lle y mae modd i chi dalu arian i’r cyfrif, talu biliau a thynnu allan arian o’r cyfrif ond nid oes cyfleuster gorddrafft.

Mae modd i chi ganfod mwy o wybodaeth ynglŷn â sut i ddewis cyfrif banc sylfaenol a’r hyn sydd ar gael drwy fynd i wefan y Gwasanaeth Cyngor Arian.

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau