Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Yswiriant

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf

Dyma rai pethau defnyddiol y dylech wybod amdanynt o ran yswiriant ac iechyd meddwl:

  • Efallai y byddwch yn canfod na fydd yswiriant safonol yn ddigon os oes afiechyd meddwl arnoch. Efallai y bydd rhaid i chi brynu polisi mwy drud,
  • Mae’n anghyfreithlon i gwmni yswiriant i wrthod cynnig yswiriant i chi yn sgil eich iechyd meddwl. Oni bai eu bod yn medru cynnig tystiolaeth eich bod yn fwy tebygol o wneud cais,
  • Rydych yn medru cwyno i’r cwmni yswiriant os ydych yn teimlo eu bod yn gwrthwahaniaethu yn eich erbyn yn sgil eich afiechyd meddwl.
  • Mae modd i chi ddanfon eich cwyn at y Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Ombwdsmon Gwasanaeth Ariannol a’r Comisiwn ar Gydraddoldeb a Hawliau Dynol.
  • Efallai eich bod yn medru cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y cwmni.
  • Bydd rhai cwmnïau yswiriant yn medru cynnig yswiriant i chi, hyd yn eod os oes cyflwr meddygol arnoch eisoes.

Beth yw fy hawliau yswiriant?

Mae’n anghyfreithlon i gwmnïau yswiriant i wrthod cynnig yswiriant i chi neu gynnig telerau gwaeth yn sgil eich afiechyd meddwl.

 

Mae’n anghyfreithlon i gwmnïau yswiriant i wrthod cynnig yswiriant i chi neu gynnig telerau gwaeth yn sgil eich afiechyd meddwl.

Fodd bynnag, mae cwmni yswiriant yn medru gwrthod cynnig yswiriant neu’n medru cynnig premiwm uwch os ydynt yn medru dangos eich bod yn risg uchel. Nid gwahaniaethu yw hyn.

Dylai cwmni yswiriant gynnal asesiad risg er mwyn ceisio cadarnhau pa mor debygol ydyw eich bod yn gwneud cais. Dylent ofyn cwestiynau i chi am eich hanes a’ch sefyllfa gyfredol. Byddant yn edrych hefyd ar wybodaeth ddibynadwy megis ystadegau.

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi’r hawl i chi gael copi o’r wybodaeth sydd yn cael ei dal amdanoch, a hynny mewn fformat y mae modd i chi ddeall. Mae’r ddeddf hefyd yn eich caniatáu i chi ofyn am y rhesymeg sydd yn saill i benderfyniad a wnaed amdanoch. Mae’n bosib i chi apelio yn erbyn y penderfyniad os ydych yn anghytuno gyda’r penderfyniad.

Ni ddylai cwmnïau yswiriant gael polisi unffurf sydd yn golygu eu bod yn gwrthod cynnig yswiriant i grwpiau penodol o bobl. Mae defnyddio tybiaethau, ystrydebau neu’n cyffredinoli, yn medru arwain at wahaniaethu anghyfreithlon.

Enghraifft o sut y mae yswiriant yn medru gweithio

Dyma esiampl:

Mae Becky yn dioddef seicosis. Mae’n mynd ar wyliau i Sbaen ac yn siarad gyda chwmni yswiriant er mwyn trefnu yswiriant teithio. Mae’r cwmni yn gofyn am hanes iechyd meddwl Becky, ac yn gofyn iddi sut y mae’n rheoli ei chyflwr ar hyn o bryd. Mae’r cwmni yn asesu pa mor debygol yw hi y bydd Becky yn gwneud cais gan ystyried ei hamgylchiadau personol a thrwy edrych ar wybodaeth ddibynadwy megis ystadegau ar seicosis. Mae Becky wedi bod yn teimlo’n dda am 3 blynedd gan ei bod wedi bod yn cymryd meddyginiaeth. O ganlyniad, mae’r cwmni yswiriant yn penderfynu cynnig yswiriant i Becky, ond maent yn codi premiwm uwch.

Nid oes rhaid i chi ddatgelu eich afiechyd meddwl i gwmni yswiriant ond mae rhaid i chi ateb cwestiynau yn onest. Os nad ydych yn ateb cwestiynau, mae hyn yn cael ei alw’n gamliwio. Os ydych yn camliwio eich hun, gallai hyn arwain at ganlyniadau tebyg i’r canlynol.

  • Mae eich yswiriant yn annilys ac os ydych yn gwneud cais, ni fydd rhaid i’ch cwmni dalu unrhyw arian i chi.
  • Bydd eich yswiriant yn cael ei ganslo.
  • Efallai y bydd yn fwy anodd i chi sicrhau yswiriant yn y dyfodol.

Mae’r Consumer Insurance Act yn rhoi amddiffyniad cyfreithiol i chi os ydych yn rhoi gwybodaeth anghywir neu anghyflawn i’ch cwmni yswiriant. Mae hyn yn golygu na fydd eich cwmni yswiriant yn medru gwrthod cais os nad oeddech wedi dweud wrthynt am rywbeth oni bai eich bod wedi dweud celwydd neu gamliwio eich amgylchiadau.

A oes yna unrhyw reolau neu ganllawiau y mae’n rhaid i gwmnïau yswiriant eu dilyn?

Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) 

Mae’r diwydiant yswiriant yn cael ei reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Mae eu rheolau yn dweud y dylai cwmni yswiriant:

  • Sicrhau eich bod ond yn prynu polisi y mae modd i chi hawlio yn ei erbyn
  • Rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â sut i gwyno os oes angen
  • Delio gyda cheisiadau yn gyflym ac yn deg

Deddf Cydraddoldeb 2010

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn amddiffyn pobl sydd â ‘nodweddion gwarchodedig’ rhag triniaeth annheg. Mae triniaeth annheg yn cael ei adnabod fel ’gwahaniaethu’.

Mae meddu ar anabledd iechyd meddwl, sydd yn cael effaith sylweddol ar eich bywyd, yn enghraifft o nodwedd warchodedig.

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi creu gwefan sydd yn cynnwys rhai esiamplau o wahaniaethu anghyfreithlon gan wasanaethau.

Beth ddylem wneud os yw rhywun wedi gwahaniaethu yn fy erbyn?

Ystyriwch yr opsiynau canlynol os yw cwmni yswiriant wedi gwahaniaethu yn eich erbyn yn sgil eich problem iechyd meddwl.

Gwneud cwyn

Dylech gwyno i’r cwmni yswiriant yn gyntaf. Rydych yn medru mynd â’ch cwyn i’r Gwasanaeth Ombwdsmon Ariannol os nad yw’r cwmni yswiriant wedi delio gyda’ch cwyn yn gywir.

Cymryd camau cyfreithiol

Os ydych yn penderfynu dilyn y llwybr hwn, bydd angen gofyn am gyngor gan gyfreithiwr. Ceisiwch ganfod cyfreithiwr sydd yn arbenigo mewn yswiriant a chyfraith anabledd. Rydych yn medru chwilio am gyfreithwyr yn eich ardal leol yn ôl eu harbenigedd, a hynny ar wefan Cymdeithas y Gyfraith.

Os nad yw’r rhyngrwyd ar gael i chi, ffoniwch Gymdeithas y Gyfraith am help. Maent yn medru eich helpu chi ganfod y math cywir o gyngor cyfreithiol a bydd cyfreithiwr ar gael er mwyn dweud wrthych a oes achos gennych sydd o bosib yn mynd i lwyddo yn y llys, Bydd wedyn rhaid i chi dalu ffioedd os ydych am gymryd camau cyfreithiol.

Beth yw’r mathau gwahanol o yswiriant?

Isod, mae yna restr o’r mathau mwyaf cyffredin o yswiriant sydd ar gael i’w prynu.

Cofiwch y bydd cwmni yswiriant o bosib yn gwrthod eich yswirio neu efallai y byddant yn gofyn i chi dalu mwy os oes gwybodaeth ddibynadwy ganddynt sydd yn dangos eich bod yn fwy tebygol o wneud cais yn sgil cyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli fel cyflwr iechyd meddwl.

Mae cyflwr meddygol cyfredol hefyd yn medru cynnwys symptomau sydd wedi eu hasesu eisoes gan feddyg cyn eich bod yn prynu’r yswiriant – er efallai nad ydych wedi derbyn diagnosis eto.

Yswiriant bywyd

Mae yswiriant bywyd yn cael ei dalu i’ch anwyliaid os ydych yn marw. Mae modd talu hyn mewn cyfandaliad neu gyfres o symiau dros gyfnod o amser. Mae yswiriant bywyd fel arfer yn cynnwys llawer iawn o reolau yn y polisi ynglŷn â phryd y bydd yr arian yn cael ei dalu. Er enghraifft, os ydych wedi marw yn sgil camddefnyddio alcohol neu sylweddau, efallai y bydd hyn yn golygu bod eich polisi yn annilys.  

Nid oes angen yswiriant bywyd ar bawb. Ond os oes pobl gennych sydd yn ddibynnol ar eich incwm, efallai eich bod am ystyried hyn.

Yswiriant salwch critigol

Bydd yswiriant salwch critigol yn cael ei dalu fel cyfandaliad fel arfer os ydych wedi derbyn diagnosis o afiechyd penodol. Gwiriwch yr hyn sydd wedi ei gynnwys fel rhan o’r polisi cyn eich bod yn trefnu yswiriant salwch critigol. Nid yw pob un cyflwr yn cael ei gynnwys.

Yswiriant iechyd

Mae yswiriant iechyd yn ffordd o dalu am driniaeth iechyd meddwl preifat os ydych yn mynd yn sâl. Mae hyn yn medru cynnwys meddyginiaeth, triniaeth siarad neu lawdriniaethau. Efallai y bydd rhai polisïau yn cynnwys cymalau eithrio ar gyfer cyflyrau sydd yn datblygu yn ystod y blynyddoedd cyntaf y polisi. Os ydych yn datblygu cyflwr o fewn y cyfnod hwn, ni fydd y cwmni yswiriant yn talu unrhyw arian.

Yswiriant Diogelu Incwm

Dyma bolisi yswiriant hirdymor sydd yn medru eich helpu os nad ydych yn medru gweithio gan eich bod yn sâl neu wedi’ch anafu. Mae’r polisi yno er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn incwm cyson tan eich bod yn ymddeol neu’ch bod yn medru dychwelyd i’r gwaith eto. Mae’n gwneud y pethau canlynol fel arfer:

  • Talu rhan o’ch incwm
  • Talu arian tan eich bod yn gweithio eto, yn ymddeol, yn marw neu’n dod at ddiwedd term y polisi
  • Talu arian i chi pan fydd y polisïau eraill yn stopio eich diogelu megis taliadau salwch y cwmni
  • Yn berthnasol i’r rhan fwyaf o afiechydon sydd yn golygu nad ydych yn medru gweithio
  • Yn eich caniatáu i hawlio cynifer o weithiau ag sydd angen

Efallai eich bod am ystyried y math yma o bolisi os:

  • Nid ydych yn derbyn tâl salwch statudol
  • Nid oes llawer o gynilion gennych
  • Nid oes pobl yno i’ch cefnogi chi, neu
  • Ni fyddech yn medru talu eich biliau os yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r lles

Yswiriant teithio

Nid yw’r rhan fwyaf o bolisïau yswiriant teithio yn cynnwys cyflyrau meddygol sydd eisoes yn bodoli. Mae’r math yma o yswiriant yn cynnwys yr yswiriant sydd yn cael ei werthu gan asiantaeth deithio pan fyddwch yn trefnu gwyliau.

Weithiau, ni fydd yswirwyr yn cynnig yswiriant i chi os ydych wedi bod i’r ysbyty am gyfnod o amser yn sgil afiechyd meddwl, a hynny cyn eich bod yn teithio.

Mae’n annhebygol y byddwch yn medru cael yswiriant teithio os yw eich meddyg wedi dweud wrthoch na ddylech deithio.

Trefnwch eich yswiriant teithio cyn gynted â’ch bod yn trefnu eich gwyliau, Yn ddibynnol ar eich polisi, dylai hyn gynnwys cost eich gwyliau os ydych yn sâl wrth i’ch gwyliau ddynesu a’ch bod yn methu mynd ar y gwyliau. Mae hyn yn cael ei alw’n sicrwydd canslo.

A wyf angen yswiriant teithio hyd yn oed os oes Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (CYIE) gennyf?

Bydd CYIE yn eich caniatáu i’r un lefel o ofal iechyd sy’n cael ei ddarparu gan y wladwriaeth mewn gwlad arall o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir. Mae hyn ar yr amod bod eich taith yn daith dros dro ac nid yw'n daith yn benodol i dderbyn triniaeth ar gyfer cyflwr.

Nid yw hyn yn golygu y byddwch yn derbyn gofal iechyd am ddim. Mae’n ddibynnol ar reolau lleol y wlad yr ydych yn ymweld â hi. Gyda CYIE, rydych yn cael eich trin fel person lleol. Mae hyn yn golygu y bydd rhaid i chi dalu am unrhyw driniaeth os oes rhaid i bobl leol wneud hyn hefyd.  

Mae yswiriant teithio yn medru talu am holl gostau gofal iechyd. Mae hefyd yn medru talu am bethau eraill megis hediadau sydd wedi ei hoedi, bagiau wedi eu colli a chostau canslo.  

Sut wyf yn medru trefnu CYIE?

Mae modd i chi wneud cais ar-lein am CYIE. Byddwch yn ofalus gan y bydd rhai safleoedd yn codi ffi i chi er mwyn trefnu CYIE. Peidiwch â defnyddio’r gwefannau yma. Mae’n rhad ac am ddim i drefnu cerdyn.

Gallwch drefnu CYIE hyd yn oed os oes cyflwr meddygol gennych sydd yn bodoli eisoes. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd yn byw yn y DU yn medru cael CYIE.

Yswiriant car

Dylech fod yn medru trefnu yswiriant car os oes trwydded yrru gennych a’i fod yn ddiogel i chi yrru. Weithiau, ni fydd rhaid i chi ddatgelu eich iechyd i’r cwmni yswiriant. Ond gwiriwch y polisi. Hyd yn oed os nad ydynt wedi gofyn i chi am eich cyflwr, efallai bod yna gymal yn y polisi sydd yn datgan bod rhaid i chi ddweud wrthynt. Os nad ydych yn dilyn rheolau eich polisi, efallai na fydd eich cwmni yswiriant yn talu os ydych yn gwneud cais.

Yswiriant Diogelu Taliadau (YDT)

Mae Yswiriant Diogelu Taliadau (YDT) yn talu arian os nad ydych yn medru ad-dalu benthyciadau, megis eich morgais, neu gardiau credyd, yn sgil salwch neu os ydych yn cael eich diswyddo. Gwiriwch y polisi am unrhyw gyflyrau meddwl sydd yn bodoli eisoes. Fel arfer, ni fydd YDT yn talu am afiechydon penodol.  

Efallai eich bod am ystyried y math yma o bolisi os:

  • Nid ydych yn derbyn tâl salwch statudol
  • Nid oes llawer o gynilion gennych
  • Nid oes pobl yno i’ch cefnogi chi, neu
  • Ni fyddech yn medru talu eich biliau os yn ddibynnol ar fudd-daliadau’r lles

A oes rhywun ar gael sydd yn medru rhoi cyngor i mi am yswiriant ac afiechyd meddwl?

Dylai’r cwmnïau yswiriant fod yn medru rhoi gwybodaeth benodol i chi am eu polisïau ac a fyddant yn diwallu eich anghenion. Mae modd i chi gysylltu gyda brocer yswiriant os hoffech gael cyngor ynglŷn â pha gwmni yswiriant y dylid ei ddewis. Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi dalu ffi i’r brocer yswiriant.

 

 

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau