Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
21/08/2023

Trefnu credyd

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf

Efallai eich bod am feddwl yn ofalus cyn trefnu unrhyw gredyd am na fyddwch o bosib yn medru talu eich biliau arferol yn ogystal ag ad-dalu eich benthyciadau. Cyn eich bod yn trefnu credyd, mae’n syniad da i lunio cyllideb er mwyn cadarnhau a ydych yn medru fforddio’r taliadau misol.

Os ydych yn gwneud cais am gredyd, bydd y credydwr yn gwirio eich cofnod credyd a’n defnyddio’r wybodaeth ar eich adroddiad credyd er mwyn cadarnhau a fyddant yn medru benthyg arian i chi.

Gallwch ofyn i’r asiantaeth gwirio credyd i osod nodyn cywiro ar eich adroddiad hyd at 200 o eiriau. Fel arfer, mae penderfyniadau credyd yn cael eu gwneud yn awtomatig gan gyfrifiadur ond os oes nodyn o gywiriad ar eich adroddiad, bydd eich cais yn cael ei gyfeirio at berson er mwyn gwneud penderfyniad.

Efallai eich bod am feddwl yn ofalus cyn trefnu unrhyw gredyd am na fyddwch o bosib yn medru talu eich biliau arferol yn ogystal ag ad-dalu eich benthyciadau. Cyn eich bod yn trefnu credyd, mae’n syniad da i lunio cyllideb er mwyn cadarnhau a ydych yn medru fforddio’r taliadau misol.

Rheoli Gwariant

Esiampl

Os yw eich iechyd meddwl yn achosi i chi gael cyfnodau lle y mae’n anodd i chi reoli eich gwariant, rydych yn medru gosod gwybodaeth ar eich cofnod credyd er mwyn dweud wrth fenthycwyr am eich iechyd meddwl a sut y mae hyn yn effeithio ar eich gwariant.  

Nodyn Cywiro - help i reoli gwariant:

Mae anhwylder deubegynol gennyf ac rwyf wedi bod yn derbyn triniaeth am flynyddoedd. Rwy’n synhwyrol iawn fel arfer gyda’m harian, yn cyllidebu yn dda ac yn talu fy nyledion ar amser, ond pan wyf yn cael pyliau manig, rwyf wedi gwario’n wyllt ac wedi gwneud cais am fwy o gredyd nad wyf yn medru ei reoli.

Trafferth yn Trefnu Credyd

 Os yw eich iechyd meddwl wedi arwain at wybodaeth yn cael ei gosod ar eich ffeil credyd a bod hyn yn ei gwneud hi’n anodd trefnu credyd, mae modd i chi ychwanegu gwybodaeth at eich ffeil credyd er mwyn esbonio’r hyn sydd wedi digwydd.

Esiampl

Nodyn Cywiro – esbonio rhywbeth sydd ar eich ffeil credyd

 Rwyf yn ymwybodol fod y ffeil gwirio credyd yn dangos i mi fethu ag ad-dalu fy menthyciad i’r banc yn Hydref 2011 ac i mi dderbyn dyfarniad llys ym Mehefin 2012. Roedd hyn yn sgil y ffaith fy mod yn ddifrifol sâl ar y pryd a bu’n rhaid i mi fynd i’r ysbyty. Unwaith i mi wella, mi wnes i ddychwelyd i’r gwaith ac rwyf wedi bod yn ad-dalu’r ddyled cyn gynted ag sydd yn bosib. Rwyf nawr wedi bod yn ad-dalu’r ddyled am fwy na 4 mlynedd ac mae bron wedi ei ad-dalu’n llawn. Rhowch ystyriaeth i’r amgylchiadau eithriadol yma os gwelwch yn dda o ran methiant i ad-dalu’r ddyled a’r dyfarniad llys pan yn gwneud penderfyniad ynglŷn â benthyg arian.

Asiantaethau Gwirio Credyd – Mae’r rhain i’w canfod yn yr adran camau nesaf.

Isod, mae yna tair asiantaeth gwirio credyd yn y DU.

Experian

Ffȏn: 0344 481 0800 neu 0800 013 88 88 (Llun i Gwener 8am-7pm Sadwrn 8am-4pm)

Cyfeiriad: CreditExpert, PO BOX 7710, Nottingham, NG80 7WE.

E-bost: help@creditexpert.co.uk

Gwefan: www.experian.co.uk/

Equifax

Mae angen i chi gael cyfrif ar-lein gydag Equifax er mwyn cysylltu gyda hwy.

Cyfeiriad: Equifax Ltd, Canolfan Gwasanaeth Cwsmer, PO BOX 10036, Caerlŷr, LE3 4FS.

Gwefan:www.equifax.co.uk

Call Credit

Ffon: 0330 024 7574

Cyfeiriad: One Park Lane, Leeds, Gorllewin Swydd Efrog, LS3 1EP.

Gwefan: www.callcredit.co.uk

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau