Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Paratoi eich apêl

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf

Seeing a welfare advisor

Pwy sydd yn medru fy helpu gyda’m gwrandawiad apêl?

Mae modd i chi gael help gyda’ch ffurflen apêl gan gynghorydd hawliau lles arbenigol yn eich Canolfan Gyfraith leol, swyddfa Cyngor ar Bopeth, asiantaeth cyngor annibynnol neu’ch gwasanaethau hawliau lles yr awdurdod lleol os oes un gyda hwy.

Fel arfer, rydych yn medru canfod manylion o’ch gwasanaethau lleol yn y ffônlyfr, Yellow Pages neu ar y Rhyngrwyd.

 

Beth os wyf yn gorfod cynrychioli fy hun?

Os nad ydych yn medru canfod mudiad lleol i helpu gyda’ch apêl, bydd rhaid i chi gynrychioli eich hun yn y gwrandawiad. Mae apelio a chynrychioli eich hun yn medru ymddangos yn ormod ond mae’n rhywbeth cyffredin.  

 

 

Mae’r system tribiwnlys wedi ei sefydlu fel bod pobl yn medru cynrychioli eu hunain ac mae pobl yn gwneud hyn bob dydd.

Mae’r system tribiwnlys wedi ei sefydlu fel bod pobl yn medru cynrychioli eu hunain ac mae pobl yn gwneud hyn bob dydd. Mae’n bwysig eich bod yn paratoi ac yn deall y broses drwy ddarllen y wybodaeth hon er mwyn gwella’ch siawns o lwyddo.

Os ydych dal yn teimlo eich bod angen cymorth, mae modd gofyn i ffrind neu aelod teulu i’ch helpu chi baratoi.  

Sicrhau tystiolaeth gefnogol

Dylech geisio sicrhau’r dystiolaeth orau bob tro. Mae modd i chi ddanfon y dystiolaeth gyda’ch ffurflen gais ond peidiwch â phoeni os nad ydych wedi casglu’r dystiolaeth mewn da o bryd. Mae modd i chi ddanfon y dystiolaeth ar ôl i chi ddanfon y ffurflen. Rydych yn medru rhoi tystiolaeth ar ddiwrnod y gwrandawiad ond mae’n gwell danfon y dystiolaeth ymlaen cyn hynny. Os oes gennych lawer o dystiolaeth, bydd panel y tribiwnlys angen amser i’w ddarllen ac mae hyn yn medru oedi’r gwrandawiad.  

Ni fydd y tribiwnlys yn cysylltu gyda’ch Meddyg Teulu, seiciatrydd neu unrhyw weithiwr proffesiynol er mwyn gofyn am dystiolaeth. Bydd angen i chi siarad gyda hwy eich hunain a gofyn iddynt am dystiolaeth. Gallwch ofyn iddynt am lythyr neu adroddiad sydd yn cefnogi eich honiadau. Bydd rhai gweithwyr proffesiynol yn codi tâl am ysgrifennu llythyr neu adroddiad. Os nad ydych yn medru fforddio hyn neu os yw’n anodd i chi dalu, eglurwch hyn wrth y gweithiwr meddygol proffesiynol.

Mae yna rai llythyron enghreifftiol ar ddiwedd yr adran hon y mae modd i chi eu defnyddio er mwyn cyflwyno tystiolaeth ar gyfer eich apêl.

Os oes gan ofalwr neu berthynas wybodaeth am eich cyflwr, maent hefyd yn medru danfon hyn i’r tribiwnlys cyn eich gwrandawiad. Cofiwch wneud gopïau o unrhyw dystiolaeth feddygol gan ddod â’r dystiolaeth gyda chi ar ddiwrnod y gwrandawiad rhag ofn bod rhywbeth ar goll.

 

Cofiwch wneud gopïau o unrhyw dystiolaeth feddygol gan ddod â’r dystiolaeth gyda chi ar ddiwrnod y gwrandawiad rhag ofn bod rhywbeth ar goll..

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Y broses apêl
  2. Paratoi eich apêl
  3. Cyflwyno eich dadl yn ysgrifenedig
  4. Gwneud trefniadau ar gyfer y tribiwnlys
  5. Mynd i’r gwrandawiad
  6. Cyngor ar gyfer cynrychioli eich hun
  7. A wyf yn medru apelio yn erbyn penderfyniad am fy nghymorth treth cyngor neu fudd-dal?
  8. Llythyr enghreifftiol ar gyfer gwneud cais am dystiolaeth
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau