Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Straeon go iawn

Garrick’s stori

Garrick’s stori

Wedi i’m mab farw, dioddefais iselder ac nid oeddwn yn medru gweithio neu dalu’r biliau, ond mae pethau nôl o dan reolaeth erbyn hyn.

Fy enw i yw Garrick Prayogg. Rwy’n ŵr 55 mlwydd oed o’r Wirral, ger Lerpwl. Roedd fy mab 31 mlwydd oed yn focsiwr brwd ac wedi cymryd rhan mewn gornest elusennol yn Nottingham, nôl yn 2014. Cafodd ergyd i’w ben a disgyn ar y ddaear – fe’i rhuthrwyd i’r ysbyty. Dywedwyd wrthym fod gwaedlif ar yr ymennydd ganddo – bu farw dau ddiwrnod yn ddiweddarach.

Roedd hyn wedi effeithio arnaf yn arw. Nid oeddwn hyd yn oed yn gwybod ei fod yn cymryd rhan mewn gornest focsio’r noson honno. Nid oeddwn erioed wedi bod yn ei wylio yn bocsio am nad wyf yn hoffi bocsio ond mae plant yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain wrth iddynt dyfu fyny. Nid oes ots beth y mae’r rhieni yn ei ddweud, gan y byddant yn gwneud yr hyn a ddymunant yn y pendraw. Roedd derbyn y fath newyddion wedi cael effaith ysgytwol arnaf.

Nid oeddwn wedi ymdopi gyda’r newydd. Roeddwn yn stryglo, yn methu cysgu, a bu’n rhaid i mi fynd at y meddyg er mwyn cael gwrthiselyddion a rhoddwyd tabledi cysgu i mi am nad oeddwn yn cysgu o gwbl - roeddwn ar ddihun drwy’r nos. Roedd yna gyfnodau pan oeddwn ond yn cael tair awr o gwsg dros gyfnod o dri diwrnod.

O ganlyniad i’w farwolaeth a’m hiselder, roeddwn wedi penderfynu rhoi’r gorau i’r gwaith ac ymddeol yn gynnar gan fod ei farwolaeth yn effeithio ar fy ngallu i fwrw at fy ngwaith fel ymgynghorydd TG. Roedd tîm iechyd galwedigaethol fy ngwaith wedi argymell fy mod yn ymddeol yn gynnar, ac er bod hyn yn rhyddhad, roedd hefyd yn creu mwy o broblemau.

Rwyf dal yn cael problemau gan fy mod wedi colli fy mhrif incwm. Effeithiwyd ar fy ngallu i dalu biliau ac effeithiwyd ar gredydwyr eraill, ac mi wnes i fynd i ddyled o sawl mil. Mi wnes i fynd i weld Cyngor Ar Bopeth er mwyn cael help. Roedd fy nghredydwyr yn ysgrifennu ataf bob mis yn gofyn pam nad oeddynt yn derbyn eu taliadau, gan eu bod am dderbyn y taliadau ar amser ond nid oedd digon o incwm gennyf. Roedd uned cyngor arian arbenigol gan swyddfa Cyngor Ar Bopeth a oedd wedi edrych ar fy sefyllfa ariannol gan ganfod pa daliadau oedd yn fforddiadwy. Wedyn, aethant ati i ysgrifennu i’m credydwyr er mwyn gofyn a oedd modd i mi wneud taliadau misol llai. Rwyf nawr yn talu tua 50% y mis ac mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol. Mae’n golygu nad oes rhaid i mi bryderi am fy sefyllfa ariannol gymaint ac mae hyn wedi helpu fy iselder hefyd. Bu’n rhaid i mi ddarparu tystiolaeth fy mod wedi colli fy incwm drwy ddarparu copi o’m P45 ond roedd yn rhyddhad i wybod fy mod yn medru fforddio’r ad-daliadau llai bob mis.

Mae’r credydwyr yn adolygu fy sefyllfa bob 12 mis er mwyn gweld a oes unrhyw beth wedi newid. Mae angen i mi gael gafael ar ddatganiadau banc cyfredol a mynd drwy’r holl broses eto’r flwyddyn nesaf. Mae’n anodd ond yn ddefnyddiol i wybod y bydd hyn yn lleihau fy ad-daliadau bob mis.

Rwyf hefyd wedi ymuno gyda grŵp cymorth iechyd meddwl lleol fel aelod pwyllgor, a hynny er mwyn i mi fedru ymgysylltu gyda phobl na sydd yn gwybod ble i fynd neu’n medru derbyn y cymorth sydd wir wedi fy helpu gyda’m sefyllfa fy hun.

Mae’r boen yn dod 'nôl bob blwyddyn ar y dyddiad y bu farw fy mab. Mae wedi bod yn dair blynedd ers iddo farw, er fy mod yn canfod fod rhannu’r profiad gydag aelodau o’r grŵp cymorth yn medru helpu. Rwyf yn medru uniaethu gyda hwy hefyd gan fy mod innau wedi colli mab, rwyf wedi profi iselder, rwy’n gwybod beth mae hyn yn golygu. Rwyf dal yn cymryd gwrthiselyddion ond nid cynifer ohonynt erbyn hyn ac mae’r grŵp cymorth yn fy helpu mi ymdopi gyda phob dim.

Dewch i ganfod mwy am reoli eich dyledion. Rydych hefyd yn medru dod o hyd i’ch grŵp cymorth agosaf.

Garrick’s stori

Mwy o straeon go iawn

Alma’s stori

Alma’s stori

Roeddwn wedi mynd i ddyled o £30,000 cyn i mi dderbyn diagnosis o anhwylder deubegynol. Roeddwn wedi defnyddio cwmni dyled masnachol a oedd yn hollol ddiwerth ond rwyf wedi troi cornel erbyn hyn.

Garrick’s stori

Garrick’s stori

Bu farw fy mab, dioddefais iselder ac felly, nid oeddwn yn medru gweithio na thalu biliau ond rwyf yn ymdopi gyda phethau erbyn hyn... nid oeddwn wir yn ymdopi, roeddwn yn cael trafferth. Nid oeddwn yn cysgu, ac roeddwn yn orbryderus drwy’r amser.

Katherine's stori

Katherine's stori

Mae sgitsoffrenia gan fy chwaer ac roedd yn gwario pob ceiniog a oedd ganddi. Mae pŵer atwrneïaeth arhosol gennyf erbyn hyn, ac rwyf yn gofalu am ei harian ac mae pethau dipyn gwell erbyn hyn.

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau