Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Straeon go iawn

Katherine's stori

Katherine's stori

Mae fy chwaer yn dioddef o sgitsoffrenia ac yn gwario pob ceiniog y mae’n derbyn

Fy enw i yw Katherine, ac rwyf yn athrawes sydd wedi ymddeol ac yn wreiddiol o Fryste ond yn byw yng Nghaeredin erbyn hyn. Mae fy chwaer, Laura sydd yn 49 mlwydd oed wedi bos yn sâl ers ei bod yn 16 mlwydd oed. O dan ymbarél fawr y cyflwr sgitsoffrenia, mae’n dioddef anhwylder meddwl, ac felly nid yw’n paranoid, nid yw’n clywed lleisiau ond mae ei meddyliau wedi cymysgu. Mae’n debyg iawn i wrando ar blentyn bach, gan mai’r bobl sydd agosaf at y plentyn sydd yn ei ddeall orau - maent yn dweud geiriau doniol wrth ddysgu siarad. Mae’n debyg i’r sefyllfa pan fydd y plentyn bach yn ceisio dweud y geiriau cywir ond yn methu.

Os oes arian ar gael, mi fydd hi’n ei wario.

Mae wedi cael problemau yn delio ag arian ers y dechrau. Nid oedd cerdyn banc gan Laura ond pan fyddai’n mynd heibio twll yn y wal, roedd yn gwthio rhyw fath o gerdyn i mewn i’r peiriant gan obeithio y byddai’n rhoi arian iddi – ni fyddai hyn byth yn digwydd.

Os oedd unrhyw arian ganddi, byddai’n ei wario’n syth ac yn gofyn am fwy. Golygai hyn nad oedd unrhyw arian ganddi gan y byddai’n ei wario drwy’r amser. Ni fyddai byth yn gwario’r arian ar yr hyn a oedd angen arni. Byddai’n gwario’r arian ar bethau dwl fel pabell neu degan o gatalog Argos ac nid oedd angen dim o’r pethau yma arni.

Mynd i ddyled

Un tro, cafodd afael ar gerdyn yr oedd modd ei ddefnyddio. Aeth i ddyled o £800 mewn rhai misoedd yn unig drwy brynu dillad ac anrhegion nad oedd angen arni. Duw a ŵyr sut y cafodd afael ar y cerdyn yn y lle cyntaf! Nid oedd yn dda yn cwblhau’r fath ffurflenni ond llwyddodd i gael gafael ar gerdyn ‘ta beth.

Pan nad oedd yn medru ad-dalu’r ddyled ar y cerdyn, roedd y cwmni wedi bygwth danfon beilïaid. Ar y pryd, roedd hi’n aros mewn cartref nyrsio iechyd meddwl, ac felly, nid oedd beilïaid yn medru mynd i’w chartref a’i thaflu allan. Dywedodd fy mrawd a minnau nad oeddwn yn fodlon talu, ond pe na bawn yn rhan o’r peth, pe na bai hithau mewn cartref nyrsio a phe nai bai meddyg ymgynghorol a oedd wedi ei hadnabod am flynyddoedd yn ein cefnogi, mi fyddem yn teimlo o dan bwysau i dalu’r arian.

Diolch byth, roedd ein seiciatrydd wedi cynnig ysgrifennu llythyr yn esbonio cyflwr Laura, a’r effaith yr oedd hyn yn ei gael ar ei gallu i ofalu am arian a’r ffaith fod Laura o dan ofal clinigol. Roedd hyn yn grêt! Nid oeddem byth wedi clywed nôl gan yr asiantaethau casglu dyled. Dyna ryddhad!

Newid mewn amgylchiadau

Roedd yn ddigon ffodus i aros yn y cartref nyrsio iechyd meddwl hwnnw am y 30 mlynedd ddiwethaf ac roeddynt wedi gofalu am ei chyfrif banc a’i budd-daliadau pan oedd yno.

Yn anffodus, wrth iddi fynd yn hŷn, gwaethygodd ei iechyd corfforol hefyd. Cafodd ddiagnosis o osteoarthritis, ac nid oedd y cartref yn medru ei thrin ar gyfer y cyflwr hwn. Dywedwyd wrthynt nad oedd ei chartref newydd yn medru gofalu am ei harian ac roedd yn siomedig.

Gwneud cais am bŵer atwrneiaeth arhosol

Roedd cartref nyrsio iechyd meddwl Laura wedi awgrymu i mi y byddai’n werth i ni wneud cais am bŵer atwrneiaeth arhosol fel bod modd i mi ddelio â’i harian ar ei rhan. Mi wnes i siarad gyda chyfreithiwr a oedd wedi esbonio’r broses i mi ac wedi paratoi’r dogfennau angenrheidiol. Bu'n rhaid mi wneud cais i’r Swyddfa Gwarchod er mwyn cofrestru fy PAA er mwyn cael y pŵer i reoli arian Laura. Bu’n 8 wythnos o gyfnewid gwybodaeth ar e-bost ac ar y ffôn ond llwyddom i gyrraedd yno yn y pendraw.

Dweud wrth Laura

Dywedais wrth Laura ‘Mae’r cartref nyrsio wedi bod yn delio gyda dy arian dros y blynyddoedd ond ni fyddant yn gwneud hyn mwyach. Mae’r amser wedi dod i mi ofalu am yr arian.’ Roedd yn deall yr hyn a ddywedais ac wedi derbyn pob dim.

Unwaith i mi gael pŵer atwrneiaeth arhosol, roeddwn wedi mynd at fanc Laura ac wedi gwneud y trefniadau angenrheidiol er mwyn gofalu am ei chyfrif banc, yr arian a oedd yn mynd i mewn ac allan.

Roeddwn yn gwybod mai dyma’r ffordd orau i fwrw ymlaen gyda phethau gan y byddai’n rhoi’r pŵer i ni sicrhau na fyddai pethau yn mynd o le. Rwyf wedi bod yn delio gyda hyn am gryn amser, ac rwyf yn dipyn o arbenigwr erbyn hyn yn sgil fy mhrofiad!

Goleuni ar ddiwedd y twnnel

Mae pethau wedi bod yn dda yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan ei bod yn derbyn fy mod yn talu ei biliau. Pam fyddaf yn mynd i’w gweld, mae’n gofyn am arian ac nid ydym yn medru trafod dim tan fy mod yn rhoi ychydig o arian iddi. Rwy’n rhoi tua £30 iddi o’i chyfrif banc ac mae’n hapus wedyn. Ni fydd hyn yn creu unrhyw broblemau ac ni fyddem yn caniatáu i hynny ddigwydd. Mae gen i bŵer go iawn ac mae hyn yn gwneud pethau’n fwy hawdd i mi.

Mae mam a minnau hefyd wedi bod yn aelodau o grŵp cymorth lleol am yr 20 mlynedd, ac mae hyn wedi bod mor ddefnyddiol er mwyn derbyn cymorth emosiynol. Mae wedi bod yn gysur i gwrdd ag eraill mewn sefyllfa debyg a’u helpu hwy gymaint ag y maent wedi ein helpu ninnau.

Darllenwch mwy am bŵer atwrneiaeth arhosol a/neu dewch o hyd i’ch grŵp cymorth agosaf..

Katherine's stori

Mwy o straeon go iawn

Alma’s stori

Alma’s stori

Roeddwn wedi mynd i ddyled o £30,000 cyn i mi dderbyn diagnosis o anhwylder deubegynol. Roeddwn wedi defnyddio cwmni dyled masnachol a oedd yn hollol ddiwerth ond rwyf wedi troi cornel erbyn hyn.

Garrick’s stori

Garrick’s stori

Bu farw fy mab, dioddefais iselder ac felly, nid oeddwn yn medru gweithio na thalu biliau ond rwyf yn ymdopi gyda phethau erbyn hyn... nid oeddwn wir yn ymdopi, roeddwn yn cael trafferth. Nid oeddwn yn cysgu, ac roeddwn yn orbryderus drwy’r amser.

Katherine's stori

Katherine's stori

Mae sgitsoffrenia gan fy chwaer ac roedd yn gwario pob ceiniog a oedd ganddi. Mae pŵer atwrneïaeth arhosol gennyf erbyn hyn, ac rwyf yn gofalu am ei harian ac mae pethau dipyn gwell erbyn hyn.

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau