Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Tips Allweddol

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf

Os oes cyflwr iechyd meddwl gennych, efallai y byddwch yn cael trafferth yn rheoli eich arian. Efallai eich bod yn gwario llawer o arian pan eich bod yn sâl neu’n gwneud penderfyniadau annoeth ynglŷn â benthyg arian. Efallai eich bod yn cael trafferth yn agor eich post neu’n gwneud galwadau ffȏn yr ydych yn gwybod sydd yn bwysig. Isod, mae cyngor a syniadau sydd yn medru eich helpu os yw eich iechyd meddwl yn ei gwneud hi’n anodd rheoli arian. Am fwy o wybodaeth ar sut y mae Codau Ymarfer a Chanllawiau yn effeithio ar y modd y dylech gael eich trin, ewch i’n  adran codau ymarfer a chanllawiau.

Rheoli Arian

Adnabod yr Hyn Sy’n Eich Sbarduno i Wneud Pethau

 Os ydych yn debygol o orwario pan eich bod yn sâl, ceisiwch adnabod pryd y mae hyn yn digwydd a pha sefyllfaoedd sydd yn eich annog i ymddwyn fel hyn. Mae rhai pobl yn credu ei fod yn ddefnyddiol i gadw dyddiadur o’r hyn y maent yn gwario a sut y mae hyn yn gysylltiedig â’u hwyl. Mae bod yn ymwybodol ynglŷn â phryd y mae eich gwariant yn broblem yn medru eich helpu i reoli’r broblem yn well.  

Mae bod yn ymwybodol ynglŷn â phryd y mae eich gwariant yn broblem yn medru eich helpu i reoli’r broblem yn well.

Gwariant o ddydd i ddydd

  • Paratowch restr siopa a glynwch wrth y rhestr.
  • Os ydych am brynu rhywbeth neis i’ch hun, ceisiwch gyfyngu hyn i 1 neu 2 beth a ysgrifennwch y rhain ar eich rhestr siopa hefyd.
  • Ystyriwch adael cardiau debyd/credyd adref ac ewch ag ychydig o arian yn unig gyda chi yn eich waled neu’ch pwrs.
  • Gofynnwch i aelod o’r teulu yr ydych yn ymddiried ynddo neu ffrind i fynd gyda chi i siopa fel eu bod yn medru eich helpu i reoli eich gwariant
  • Ceisiwch siopa ar-lein am fwyd fel eich bod yn medru gweld y ‘cyfanswm’ wrth i chi ychwanegu eitemau i’ch basged, fel eich bod yn gwybod faint ydych yn gwario oherwydd ni fyddwch wedyn yn cael sioc wrth fynd at y til. Mae rhai archfarchnadoedd yn cynnig teclynnau llaw fel bod modd i chi sganio eich siopa a chadw golwg ar faint ydych yn gwario.  

Gwario Cardiau Credyd

  • I rai pobl, mae’n syniad da i gael gwared ar eich holl gardiau credyd ond nid yw hyn yn wir i bawb. Os oes nifer o gardiau credyd gennych, yna mae’n medru bod yn anodd rheoli eich gwariant, ac felly, mae’n syniad efallai i gael 1 cerdyn credyd yn unig.
  • Os oes ffrind neu aelod o’r teulu yr ydych yn ymddiried ynddynt, gallwch ofyn iddynt ofalu am eich cardiau tra’ch bod yn sâl fel eu bod yn medru eich helpu i ymatal rhag gorwario.
  • Mae rhai pobl yn gosod eu cardiau credyd mewn bag pwrpasol sydd wedi ei gloi a’i osod mewn twba o ddŵr yng nghefn y rhewgell. Mae hyn yn medru eich helpu chi ymatal rhag gwario ar hap gan fod yn rhaid aros i’r dŵr ddadlaith cyn eich bod yn medru defnyddio eich cerdyn.  
  • Os yw siopa ar y rhyngrwyd yn broblem, ceisiwch osgoi arbed manylion eich cerdyn gan fod hyn yn ei gwneud hi’n fwy hawdd i osgoi gwario arian yn gyflym.  

Shopper Stoppers

Dyma offeryn ar-lein am ddim sydd wedi ei ddatblygu gan y Sefydliad Arian ac Iechyd Meddwl i help pobl i reoli gwariant ar-lein. Mae’n eich caniatáu i reoli oriau agor y safleoedd siop ar-lein fel nad ydych yn medru cael mynediad at y safleoedd pan ydych mewn perygl o orwario. Mae modd i chi ychwanegu negeseuon personol sydd yn ymddangos pan fyddwch yn ceisio mynd ar y safleoedd ac maent yn eich atgoffa o’ch amcanion ac rydych hefyd yn medru ychwanegu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo rhag ofn eich bod angen mynd ar y safle yn gyflym. Mwy o wybodaeth am y Shopper Stopper.

Delio gyda Galwadau Ffȏn a Llythyron

Efallai bod rhai pobl yn mynd yn orbryderus ac yn teimlo o dan straen pan yn delio gydag arian, ac felly, maent yn osgoi agor post neu wneud galwadau ffȏn. Os ydych yn teimlo’n isel neu’n ddi-hwyl, mae’n medru bod yn anodd ysgogi eich hun i ddatrys unrhyw faterion ariannol. Os ydych yn cymryd meddyginiaeth am eich iechyd meddwl, efallai ei bod hi’n anodd canolbwyntio ac mae pethau megis datganiadau banc a llythyron budd-daliadau yn medru ymddangos yn gymhleth. Dyma rai syniadau sydd yn bosib yn medru eich helpu:

Delio gyda llythyron

  • Os oes cynghorydd neu weithiwr cymorth gennych sydd yn postio llythyron pwysig neu ffurflenni atoch, gofyn iddynt osod sticer gyfrinachol neu symbol ar yr amlenni fel eich bod yn gwybod pwy sydd wedi danfon yr ohebiaeth a bod hi’n iawn ei hagor.
  • Neilltuwch amser ar gyfer agor eich post a chadwch eich llythyron mewn ffolder. Dewiswch amser i agor y post sydd yn gyfleus i chi. Efallai eich bod am agor y post yn y bore yn hytrach nag yn y nos gan fod hyn yn achosi llai o bryder.
  • Agorwch eich post pan fydd rhywun yno gyda chi yn gwmni – fel ffrind, perthynas neu weithiwr cymorth.

Gwneud Galwadau ffȏn

Os ydych yn hwyr yn talu eich bil neu angen gwybodaeth am eich budd-daliadau neu gyfrif banc, efallai y bydd angen i chi wneud galwad ffȏn. Neu efallai y byddwch yn derbyn llythyr yn gofyn i chi ffonio’r banc neu’r cwmni trydan. Os ydych yn dioddef iselder neu gorbryder neu unrhyw afiechyd meddwl arall, mae’n medru bod yn anodd iawn wneud galwadau ffȏn. Dyma rai syniadau i’ch helpu:

  • Dewiswch amser sydd yn gyfleus i chi i wneud yr alwad ffȏn, a hynny ar ddiwrnod ac amser sydd yn gyfleus i chi. Ysgrifennwch yr hyn ydych am ddweud cyn i chi wneud yr alwad a sicrhewch fod hyn gyda chi. Dylech sicrhau fod pen a phapur gennych wrth law.
  • Os yn bosib, ceisiwch esbonio wrth y person yr ydych yn siarad ag ef am eich iechyd meddwl a sut y mae hyn ei gwneud hi’n fwy anodd i reoli eich arian. Efallai bod hyn yn anodd ond mae’r rhan fwyaf o fudiadau sydd angen i chi ffonio yn cynnwys staff sydd wedi eu hyfforddi a chanllawiau i’ch helpu chi os ydych yn agored i niwed ac angen cymorth.  
  • Ni fydd rhai mudiadau yr ydych mewn dyled iddynt yn sympathetig ac yn gefnogol pan fyddwch yn siarad gyda hwy. Gofynnwch i siarad gyda goruchwylydd neu gofynnwch a oes yna dîm polisi neu arbenigol sydd yn medru helpu pobl sydd yn dioddef o broblemau iechyd meddwl ac angen help ychwanegol.
  • Danfonwch e-bost neu siaradwch gyda rhywun gan ddefnyddio gwe-sgwrs os nad ydych am siarad ar y ffȏn. Os ydych yn esbonio am eich iechyd meddwl a sut y mae yn ei gwneud hi'n anodd rheoli eich arian, dylent gynnig mwy o help a chymorth i chi ddelio gyda’ch problem.
  • Gofynnwch am gymorth gan aelod teulu neu ffrind yr ydych yn ymddiried ynddo. Maent yn medru gwneud galwad ffȏn ar eich rhan os ydych gyda hwy a’ch helpu chi wedyn os ydych angen rhywbeth arall megis llenwi ffurflenni.
  • Gofynnwch am gyngor neu gymorth os nad ydych yn teimlo eich bod yn medru agor eich post neu wneud galwad ffȏn a’ch bod yn cael trafferthion gyda’ch arian. Os ydych yn derbyn cyngor neu gymorth, gallwch atal y sefyllfa rhag gwaethygu.  

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau