Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
22/06/2020

Mudiadau sydd yn helpu

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf

Os ydych wir yn cael trafferthion yn rheoli eich arian neu’n cael problemau gyda budd-daliadau, mae yna nifer o fudiadau sydd yn medru eich helpu.

Mae yna nifer o fudiadau sydd yn medru eich helpu.

Gwasanaeth Cyngor ac Arian 

Mwy o fanylion am fudiadau cenedlaethol sydd yn medru darparu cyngor am ddyledion. naill ai dros y ffȏn neu wyneb i wyneb.

National Debtline

Yn darparu cyngor annibynnol am ddim ac yn gyfrinachol am ddyled. Mae modd i chi gysylltu hwy dros y ffȏn, ar e-bost neu lythyr.

Ffȏn: 0808 808 4000 (Llun i Gwener 9am - 8pm a Sadwrn 9.30am - 1pm)

Gwefan: www.nationaldebtline.org

StepChange

Yn darparu cyngor a chymorth annibynnol am ddim ac yn gyfrinachol am ddyled. Mae modd i chi gysylltu hwy dros y ffȏn neu ar-lein.

Ffȏn: 0800 138 1111 (Llun i Gwener 8am i 8pm a Sadwrn 8am i 4pm)

Gwefan: www.stepchange.org

Cyngor ar Bopeth (CAB)

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor cyfrinachol, gwrthrychol ac annibynnol am ddim. Mae’r rhan fwyaf o ardaloedd yn y wlad yn meddu ar wasanaeth CAB. Maent hefyd yn medru cynnig cyngor am ddyledion, budd-daliadau, tai a materion eraill. Mae modd i chi gael cyngor ar y ffôn, e-bost, wyneb i wyneb, ac weithiau, maen bosib iddynt ymweld gyda chi yn eich cartref, aent hefyd yn cynnig cyngor budd-daliadau lles.

Ffôn (Cymru): 08444 77 20 20

Gwefan: www.citizensadvice.org.uk

Cyngor Budd-daliadau Lles

Canolfannau Cyfraith

Mae canolfannau cyfraith yn cynnig cyngor cyfreithiol a ddim ac mae llawer yn arbenigo mewn budd-daliadau lles, ac mae rhai achosion, mae modd cynrychioli unigolion mewn tribiwnlysoedd budd-daliadau lles.

Er mwyn canfod eich chanolfan gyfraith leol yn Lloegr, Cymru a Gogledd Iwerddon:

http://www.lawcentres.org.uk/about-law-centres/law-centres-on -google-maps/geographically

Turn 2 Us

Elusen genedlaethol sydd yn ceisio helpu pobl mewn caledi ariannol drwy eu helpu i gael mynediad ar fudd-daliadau lles a grantiau elusennol

www.turn2us.org.uk

Cymorth a Chyngor Iechyd

Os ydych yn teimlo fel lladd neu niweidio eich hun neu eraill, yna

  • Ffoniwch 999
  • Ewch i’ch Uned Damweiniau Brys agosaf. Mae modd i chi chwilio ar-lein am eich adran leol drwy’r wefan NHS Choices

Ar gyfer sefyllfaoedd na sy’n argyfwng:

  • Ewch at eich Meddyg Teulu
  • Ffoniwch 111 neu NHS Choices drwy fynd i http://www.nhs.uk

Cynllun gofal

Os ydych eisoes yn derbyn cymorth iechyd gan wasanaethau iechyd meddwl, dylech gael cynllun gofal. Bydd hyn yn cynnwys manylion o’r person y dylech gysylltu gyda hwy os mewn argyfwng.

Os nad ydych yn medru canfod eich cynllun gofal yn ystod y dydd, cysylltwch gyda’ch Tim Iechyd Meddwl Cymunedol a gofynnwch i’r person neu’r cydlynydd gofal sydd ar ddyletswydd. Yn ystod yr hwyr, ar benwythnosau ac ŵyl y banc, ffoniwch eich tîm argyfwng lleol.

Cymorth emosiynol

Os hoffech siarad gyda rhywun am eich problemau, yna efallai y byd modd y llinell gymorth yn ddefnyddiol. Mae’n werth rhoi cynnig ar y canlynol:

Samariaid

Yn cynnig cymorth emosiynol 24 awr y dydd

Ffôn: 116 123

E-bost: jo@samaritans.org
Gwefan: www.samaritans.org

Sane Line

Yn cynnig cymorth emosiynol iechyd meddwl arbenigol rhwng 6am ac 11pm bob dydd. Ac mae modd i chi e-bostio hefyd drwy’r wefan.

Ffôn: 0845 767 8000

Gwefan: www.sane.org.uk

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau