Ar hyn o bryd, rydych yn yr adran cym o'r wefan.

Dim diolch, dewiswch y faner hon os gwelwch yn dda.

Wedi'i diweddaru ddiwethaf:
19/10/2018

Cyllidebu

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf

Working out a personal budget

Mae cyllidebu yn medru eich helpu i reoli eich arian yn well. Mae trafferthion ariannol yn medru gwaethygu eich iechyd meddwl, ac felly, dyma ganllaw ymarferol i’ch helpu chi i gyllidebu yn effeithiol.

Mae cyllidebu yn medru eich helpu i reoli eich arian yn well.

Mae cyllidebu yn medru eich helpu i:

  • Cadarnhau pa arian sydd yn cael ei dalu i mewn i’r cyfrif a pha arian sydd yn cael ei dalu allan o’r cyfrif
  • Cadw rheolaeth o’ch arian
  • Gosod arian o’r neilltu ar gyfer biliau sydd i’w talu
  • Dylech gynilo a chynllunio ar gyfer y dyfodol
  • Cadarnhewch faint yr ydych yn medru fforddio talu os ydych mewn dyled

Sut wyf yn cadarnhau beth yw fy nghyllideb?

Dyma’r camau cyntaf i’w cymryd…

Cam 1 – Cadarnhau pa arian sydd yn cael ei dalu i mewn i’r cyfrif a pha arian sydd yn cael ei dalu allan o’r cyfrif (e.e. cyflogau, budd-daliadau, pensiwn).

Cam 2   – Cadarnhewch ar beth yr ydych yn gwario’ch arian (e.e. biliau’r cartref, bwyd, dillad, teithio, diddordebau).

Cam 3   – Edrychwch ar y gwahaniaeth rhwng eich incwm a’ch gwariant er mwyn eich helpu i gadarnhau eich cyllideb

Mae modd i chi gadarnhau eich cyllideb ar bapur, ond mae modd i chi ddefnyddio offerynnau ar-lein am ddim.

Offeryn cyllidebu ar-lein

Defnyddiwch ein hofferyn cyllidebu  i’ch helpu chi gadarnhau eich cyllideb.  

Mae angen i chi benderfynu p’un ai os ydych am wneud cyllideb fisol neu gyllideb wythnosol. Os ydych yn derbyn eich budd-daliadau neu gyflog bob mis, yna efallai y bydd cyllideb fisol yn fwy defnyddiol, ond os ydych am reoli eich siopa’n wythnosol, rydych yn medru trefnu cyllideb wythnosol.

Newid symiau misol, wythnosol, bob pythefnos er mwyn eu haddasu i’ch cyllideb 

  • Er mwyn newid symiau wythnosol i symiau misol
    • Swm wythnosol x 52 ac yna rhannwch gyda 12
  • Er mwyn newid symiau misol i symiau wythnosol
    • Swm misol x 12 ac yna rhannwch gyda 52
  • Er mwyn newid swm bob pythefnos i swm misol
    • Swm pob pythefnos x 26 ac yna rhannwch gyda 12

Cadarnhau eich incwm

Bydd incwm yn cynnwys y canlynol:

Mae’n werth cadarnhau a ydych yn derbyn yr holl fudd-daliadau yr ydych yn gymwys i’w derbyn, yn enwedig os nad oes dim arian ar ôl gennych yn eich cyllideb neu os yw eich incwm yn llai na’r hyn yr ydych yn gwario.

Os ydych yn sâl neu’n gofalu am rywun sydd yn sâl, mae yna ystod o fudd-daliadau y mae modd i chi hawlio o bosib. Er enghraifft:

Efallai y byddwch yn medru derbyn arian gan bobl eraill sydd yn byw gyda chi. Er enghraifft, os oes plant gennych sydd yn oedolion erbyn hyn a’u bod dal yn byw gyda chi, efallai eu bod yn medru cyfrannu at gostau’r aelwyd megis biliau a bwyd.

Cadarnhau eich gwariant

Bydd hyn yn cynnwys:

  • Biliau e.e. rhent neu forgais, treth cyngor, nwy, trydan,
  • Costau ffȏn a’r rhyngrwyd,
  • Teithio,
  • Costau cynnal y tŷ e.e. bwyd, deunyddiau glanhau, dillad,
  • Gwariant arall e.e. diddordebau, arian poced, anrhegion pen-blwydd a Nadolig,

Pan eich bod yn cadarnhau eich cyllideb, mae’n bwysig fod y ffigyrau yn gywir. Mae cadarnhau faint sydd angen talu am filiau yn weddol hawdd gan eich bod yn medru defnyddio datganiadau banc a biliau blaenorol. Efallai y bydd hi’n fwy anodd ceisio cadarnhau faint ydych yn gwario ar fwyd ond ceisiwch fod yn realistig.

Os ydych yn cael trafferth yn rheoli eich gwariant pan eich bod yn sâl, yna darllenwch ein Hadran Adran Cyngor, sydd o bosib yn cynnig rhai syniadau i chi a allai fod yn ddefnyddiol.    

Ceisiwch gadarnhau’r gwahaniaeth rhwng Incwm a Gwariant  

Os oes gennych unrhyw arian dros ben, gallwch ddefnyddio’r arian hwn i gynilo, neu os oes dyledion gennych, ceisiwch gadarnhau faint yr ydych yn medru fforddio ad-dalu o’ch dyledion.

Os yw’r arian sydd yn cael ei dynnu allan o’ch cyfrif yn llai na’r hyn yr ydych yn gwario, yna mae modd i chi ddefnyddio’r daenlen i ganfod ffyrdd i sicrhau bod digon o arian gennych i dalu am yr holl wariant.

Cynilo

Os oes arian ar ben gennych ar ddiwedd y mis neu'r wythnos, efallai y dylech rhoi cynnig ar geisio cynilo.

Mae modd i chi gynilo ar gyfer yr hyn yr ydych yn gwybod sydd yn mynd i ddigwydd, megis cynilo ar gyfer anrhegion pen-blwydd neu Nadolig ond mae hefyd modd i chi gynilo ar gyfer digwyddiadau annisgwyl megis gorfod gwario arian i dalu i atgyweirio eich car neu brynu eitem newydd ar gyfer y cartref os oes rhywbeth yn torri.  

Mae yna fathau gwahanol o gyfrifon cynilo ar gael ar gyfer pethau gwahanol. Mae modd i chi agor cyfrif cynilo gyda’ch banc neu mi allech agor cyfrif gydag undeb credyd.  

Mae gwefan y gwefan y Gwasanaeth Cyngor Arian yn cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn â dewis cyfrif cynilion ac undebau credyd.

Delio gyda Dyledion

Os ydych yn cael trafferth gyda dyledion, mae modd i chi ddefnyddio cyllideb er mwyn cadarnhau faint yr ydych yn medru fforddio ei dalu i bobl. Y mae eich cyllideb hefyd yn medru eich helpu chi gadarnhau beth yw’r opsiwn olaf ar gyfer delio gyda'ch dyledion.

 

 

 

Rhannwch yr erthygl hon

O fewn y pwnc hwn

  1. Cyllidebu
  2. Rheoli arian
  3. Cyfrifon banc
  4. Tips Allweddol
  5. Codau Ymarfer a Chanllawiau
  6. Mudiadau sydd yn helpu
  7. Yswiriant
  8. Trefnu credyd
  9. Camau nesaf
x

A yw'r erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

A oedd yr erthygl hon yn ddefnyddiol i chi?

×
Dywedwch mwy wrthym os gwelwch yn dda

For urgent help, please see Help a chysylltiadau